19.6.07

Mudiad 'crefydd fel metaffordd-duw fel delwedd' Aled Jones-Williams


Maen debyg i rai ohono chi ddarllen llythyr y Parch. Aled Jones-Williams yn Golwg wythnos diwethaf. Efallai i chi glywed y llythyr yn cael ei drafod ar raglen John Roberts fore Sul – ar y rhaglen canolbwyntiodd John ar ei sylwadau am fod dim dyfodol i enwadaeth ac nad oedd llyfrau Cristnogol o werth yn cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd. Rwy'n deall i raddau pam y bu i John dynnu'r ddau bwnc yna allan o'r llythyr, maen nhw'n fwy 'radio friendly' na phynciau diwinyddol mawr. Fodd bynnag gau-athrawiaethau Aled Jones-Williams am hanfodion Cristnogaeth oedd yn sefyll allan i mi – dywedodd mai 'delwedd yw Duw' ac mai 'metaffor yw crefydd'.

Petawn i'n esgob Bangor - sydd, gyda llaw, yn wael iawn o ran ei iechyd ar hyn o bryd - byddwn yn poeni'n fawr am 'efengyl' ficer Porthmadog. Oni bai mod i wedi cam ddeall byrdwn Aled wrth iddo ddweud mai 'delwedd yw Duw' yna nid dyma yw Anglicaniaeth ac yn sicr nid dyna Gristionogaeth - na theistiaeth – ychwaith. Fodd bynnag mae athroniaeth Aled yn tu hwnt o debyg i athroniaeth crefyddol Cynog Dafis y clywais ef yn ei bledio yn y Morlan rai misoedd yn ôl - byddai'n dda i Cynog ac Aled gymharu nodiadau na ddylai fod yn broblem gan fod y ddau ohonynt yn Uchel Eglwyswyr Anglicanaidd.

Yn fy llythyr yn ei ateb nol fe es i i ddelio a hyn – bydd yn rhifyn dydd Iau ond dyma ddarllenwyr y blog yn cael ei weld cyn y darllenwyr cyffredin:

"Annwyl Olygydd,

Diddorol oedd darllen llythyr Mihangel Morgan (Golwg, 7 Mehefin 2007). Er fy mod i fel Cristion yn gresynu nad yw'n gweld gwerth i'r sffêr ysbrydol a thristau nad yw'n arddel Iesu'r Gwaredwr, rhaid cyfaddef fy mod i’n ei edmygu am beidio ag eistedd ar y ffens. Mae dyn yn gwybod ble maen’n sefyll gydag anffyddiwr grasol o argyhoeddiad. Tra gwahanol oedd y profiad a gefais o ddarllen epistol di-rasol Aled Jones-Williams (Golwg, 17 Mehefin 2007). Er ei fod yn offeiriad Anglicanaidd ac yn Gristion o ran ei berthyn crefyddol, dangosodd mwy o simsanu ac amwysedd, ar ryw wedd, na Mihangel Morgan yr anffyddiwr.

Rydym ni'n byw mewn oes sy’n ofni’r absoliwt ac mae hynny i’w weld yn amlwg iawn yn llythyr Aled Jones-Williams. Honna bod Cristnogaeth yn perthyn i fyd y dychymyg ac nid i fyd ffaith. Os na fuasai fy ffydd i yn Iesu'r Gwaredwr yn absoliwt, hynny yw fy mod yn ei gredu fel ffaith, ni fyddai i’m ffydd unrhyw werth o gwbl. Wrth gwrs bod yna elfennau o fewn y ffydd Gristnogol sy’n ddirgelwch ac mae’n rhaid ceisio’u deall a’u dirnad yn well: serch hynny, Iesu yw’r Gwirionedd a’r Bywyd ac wedyn y daw’r gweddill i wneud sens. O'i roi mewn cyd-destun gwahanol, os credwch chi fod 1+1 yn gwneud 2, allwch chi ddim hefyd credu bod 1+1 yn gwneud 3 – mae’n absoliwt ac ni all y ddau fod yn wir. Mae'r un peth yn wir am Gristnogaeth – nid yw'n 'rhesymegol', a defnyddio un o eiriau Aled Jones-Williams, i gredu mewn un peth tra ar y llaw arall gredu bod fframwaith ffydd hollol wahanol yn gywir hefyd.

Petai Aled Jones-Williams yn dadlau mai 'delwedd yw Duw' ac mai 'metaffor yw crefydd' fel rhywun nad sy’n perthyn i’r Eglwys Gristnogol yna buasai ei syniadaeth heriol yn ennyn mwy o barch gennyf – mae’n athroniaeth seciwlar-fodernaidd, gwerth ei ystyried. Ond fel offeiriad cyflogedig Anglicanaidd sy'n gweinyddu sacrament er cof am waed a chorff Crist, y mae ei eiriau yn ymddangos, a bod yn gwbwl onest, yn od i ddweud y lleiaf. Siawns nad yw ei eiriau a’i amheuon lliwgar yn rhan o broffes ffydd cyfredol yr eglwys y mae’n ei gwasanaethu.

Serch hynny, rhaid cytuno ag ef ar un pwynt, sef mai '...nutces yw unrhyw un sy'n meddwl fod gan enwadaeth Cymru unrhyw ddyfodol', fel y mae pethau ar hyn o bryd o leiaf. Yma yn Aberystwyth mae criw o Gristnogion ifainc sydd, yn ogystal â pharhau i addoli yn eu capeli a’u heglwysi eu hunain, wedi cymryd eu ffydd allan o'r adeiladau traddodiadol, gan geisio mynd â’r Efengyl i’r priffyrdd a’r caeau, neu, yn ein hachos ni, y caffis a’r tafarnau. Bob nos Fercher cynhelir Cwrs Alffa, lle daw pobl o bob cefndir crefyddol, gan gynnwys rhai anffyddwyr o argyhoeddiad, i holi a thrafod rhai o bynciau canolog y ffydd Gristnogol. Trwy'r genhadaeth yma mae llond dyrnaid o Gymry ifanc wedi dod i berthynas real â’r Iesu eleni. Ar nos Sul cynhelir cyfarfod yn Nhafarn y Cŵps lle rhennir adnodau o'r Beibl, offrymir gweddi a cheir cyfnod o ganu emynau modern mewn awyrgylch anffurfiol.

Rhaid wrth arbrofi gyda'r cyfrwng bid siŵr ond gwae Aled Jones-Williams a'i fudiad 'crefydd fel metaffor-duw fel delwedd' arbrofi gyda’r neges – edryched ar gyflwr Cristnogaeth yng Nghymru heddiw er mwyn gweld beth sy'n digwydd wrth geisio symud y pyst i'r nefoedd.


Yn gywir iawn
Rhys Llwyd
Aberystwyth, Ceredigion "

3 comments:

Huw said...

Diddorol iawn.

Fel arfer dwi'm yn ymwneud gyda trafodaethau fel yma achos bod ryw efengylwr asgell dde o hyd yn barod i fod yn ymosodol gyda atebion 'yn dy wyneb'.

Yn naturiol, fedrai ddallt dy fod yn credu'r Beibl yn absoliwt. Yn ôl be fedra i weld, mae popeth yn mynd yn niwlog iawn cyn oes Moses. Fod yna ryw bwlch yn bodoli - bosib fod ryw ysgrythur neu lyfr(au) nad ydynt wedi ei gynnwys yn y Beibl neu heb ei ddarganfod (ei golli mewn llyfrgell Rhufeinig, Groegaidd, Bysantaidd). Wyt ti'n meddwl fod yn llyfrau cynnar yma wedi eu hysgrifennu mewn dull alegoriaidd, neu hyd yn oed fod y llyfrau wedi eu hysgrifennu tra'n rhwymo'r Beibl am y tro cyntaf i roi cychwyn i'r llyfr.

Buasai hyn ddim yn gwneud Duw yn unrhyw ddelwedd, ond yn hytrach yn rhoi rhai ddarnau ddim mor absoliwt?

Mae fy meddwl i'n gweithio mewn dull wyddonol. Dwi'n hoff o wybod sut mae pethau'n gweithio/digwydd ac i weld y dytiolaeth sy'n ei atgegu. I'r anffyddwyr, gwirion yw ymwrthod a unrhyw ysbryd crefyddol, ac nid ydym yn gallu gwneud unrhyw gwrthbrawf yn erbyn Duw.

Ifan Morgan Jones said...

Hwre! Pobol yn danfon llythyrau i Golwg.

Rhys Llwyd said...

Ifan,

Tybed pam mai'r unig frawddeg a dynwyd allan o fy llythyr cyn ei gyhoeddi oedd hwn:

"Trwy'r genhadaeth yma mae llond dyrnaid o Gymry ifanc wedi dod i berthynas real â’r Iesu eleni."

Agenda gwrth-efengylaidd?