27.6.07

Pamffledi'r Piwritaniaid

Dwi ddim wedi sôn ar y blog am fy ngwaith ymchwil ers tro. Felly, gan wybod bod fy nhiwtor yn darllen y blog o dro i dro, dyma sôn am yr hyn dwi wedi bod yn darllen dros yr wythnosau diwethaf. Dwi, o'r diwedd, wedi gorffen cropian drwy gyfrolau sychion Thomas Richards a bellach wedi symud ymlaen i edrych beth sydd gan haneswyr eraill i ddweud am y cyfnod Piwritanaidd yn ogystal ac edrych ar weithiau'r Piwritaniaid eu hunain – ffynonellau gwreiddiol hynny yw. Gair am y rheini i ddechrau.

Roedd y Piwritaniaid yn deall yn iawn beth oedd grym y gair printiedig. Dyna oedd asgwrn cefn y symudiad i ddweud y gwir sef gallu y werin bobl i edrych ar yr ysgrythurau drostynt hwy eu hunain a dod i argyhoeddiadau yn annibynnol o unrhyw Offeiriad neu awdurdodau Eglwysig. Yng ngeiriau Christopher Hill;

...its exaltation of preaching and the study of the Bible was continually training consciences which would stand out against any attempt to regiment them or dictate to them. After their defeat in the 1590s the Puritan clergy put more emphasis on preaching, character-forming, morale-building, less on forms of church organization and discipline. In the long run they forged a better weapon, which in 1640 was too strong to be broken as it had been in the 1590s.


Yn ogystal ar Gair ei hun gwelodd y Piwritaniaid fod cyhoeddi tractiau yn fodd o ledu eu neges a'u cenhadaeth yn ogystal. Mae'r rhain ar gael, yr argraffiadau cyntaf, i'w darllen yn y Llyfrgell Genedlaethol heddiw. Ymysg y rhai dwi wedi eu darllen y mae: “Christ and Moses Excellency, or Sion and Sinai's Glory”, “'Saving Faith' set forth In Three Dialogues, or Conferences.. Whereunto is added Two Sermons One of them Preached before the Parliament the other Before the Lord Mayor of the City of London” a “Common-Prayer-Book No Divine Service” oll gan Vavasor Powell, a Vavasor, wrth gwrs, oedd testun traethawd D.Phil R. Tudur Jones.

Ar ddechrau'r llyfrau mae Vavasor Powell yn rhestru termai ac yn eu diffinio. Pam? Wel, mi dybiaf er mwyn apelio at y werin ac er mwyn addysgu'r werin. Mae prif gorff ei weithiau yn cymryd ffurf cwestiwn ac ateb – nid annhebyg i fformat llyfrau mwy diweddar Thomas Charles, Yr Hyfforddwr a Rhodd Mam. Unwaith eto, tybiaf fod y ffurf yma er mwyn gwneud y gwaith yn hygyrch i bobl cyffredin. Diddorol nodi hefyd fod Vavasor Powell yn troednodi popeth maen dweud gyda cyfeiriad Beiblaidd, bron fel petai yn bedantig am y peth. Yn amlwg yn bwysig iddo fod y ddysgeidiaeth maen gyflwyno yn ei lyfr yn ddysgeidiaeth ag iddo seiliau Beiblaidd.

Mae'r Beibl yn cael lle cwbwl ganolog yn athrawiaeth Vavasor Powell – dyma yn amlwg oedd ei arf yn erbyn ei wrthwynebwyr. Gan ei fod yn gwrthwynebu awdurdod y Pab (wrth reswm) ac awdurdod Eglwys Loegr roedd rhaid troi i rywle arall am awdurdod ac fe aeth, yn amlwg, i edrych ar yr ysgrythurau drosto ef ei hun ac felly roedd yn medru dadlau yn erbyn safbwyntiau an-Feiblaidd oedd yn codi yn ei ddydd. Dyma yn wir yw'r patrwm clasurol o Ddiwygio (Reformation), unigolion yn mynd i edrych eto ar y Gair trostynt hwy eu hunain gan oddiweddyd gau-pwysleisiau a gau-awdurdod yr Eglwys sefydledig a'i harweinwyr.

Dyma fi wedi rhoi pregeth i chi heb sylwi. Gair am y llyfrau eilradd (ond nid o ran safon) dwi wedi bod yn eu darllen rhywbryd eto!

No comments: