Aberystwyth ar high terrorist alert?!
Stori ddifyr iawn am Aberystwyth heddiw. Maen debyg fod yr heddlu wedi gwneud archwiliadau manwl o holl westai y dref yn barod ar gyfer y seremonïau graddio wythnos nesaf. Yn ôl pob sôn mae Aberystwyth mynd i fod ar 'High Terrosrist Alert' wythnos nesaf ac mae staff uchaf y Brifysgol wedi cael eu symud i 'dai saff' am bythefnos. Fy theori i am y rheswm tu ôl i hyn yw, yn ogystal a'r risg uwch yn genedlaethol yw fod Prifysgol Cymru, Aberystwyth newydd apwyntio Sir Emyr Jones Parry fel olynydd i'r Arglwydd Elystan Morgan fel Llywydd y Brifysgol ac rwy'n cymryd y bydd Emyr Jones Parry yn cymryd rhan yn y seremonïau wythnos nesaf.
Emyr Jones Parry yw cynrychiolydd parhaol Prydain yn y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd ac felly maen ffigwr o bwys ym myd Gwleidyddiaeth a Diplomyddiaeth Rhyngwladol ac o ganlyniad mae'n darged posib i derfysgwyr druan.
Er ei bod hi'n ffaith bod yr heddlu yn Aberystwyth yn wyliadwrus am derfysgwyr ac ymosodiad ganddynt dwi'n amau'n gryf bod unrhyw gynlluniau ar y gweill gan unrhyw derfysgwyr i dargedu Aberystwyth wythnos nesaf. Ond mae yn sicr yn stori ddiddorol.
2 comments:
Emyr Jones Parry druan! Ges i'r fraint o'i gyfweld flwyddyn dwytha' a mae'n ddyn neis iawn.
Tydi EJP ddim yn cymryd drosodd tan ddechrau 2008.
Post a Comment