7.7.07

Llafur-Plaid: dwi WEDI fy argyhoeddi

Do, fe ges i fy argyhoeddi gan Ieuan neithiwr. Roedd ei ddadl dros Llafur-Plaid yn resymol ac hefyd yn rhoi Cymru yn gyntaf. I ddechrau mynegodd ei bryderon gyda'r Enfys yn bennaf anwadalrwydd y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr – roedd yn gofidio y byddai'r llywodraeth enfys yn torri i lawr hanner ffordd trwy'r tymor ac y byddai y llywodraeth Plaid Cymru cyntaf erioed yn cael ei weld fel un gwan, byrhoedlog a thrychinebus. Roedd Ieuan yn tybio fod y risg yn un rhy fawr i'w gymryd – fe gytunais ag ef erbyn y diwedd.

Hefyd, pwyntiodd Ieuan allan bod hwn yn gyfle pwysig i lacio grym San Steffan ar Gymru ac hefyd i Rhodri Morgan bellhau fwy fwy oddi wrth yr AS Llafur yn Llundain. Dywedodd fod y Blaid Lafur yn debygol o weld rhwyg rhwng y bobl sydd am weld Cymru yn llwyddo ac rhwng yr unoliaethwyr sy'n hapus i weld dim byd yn digwydd am genhedlaeth arall.

Ond yn bwysicach fyth tynnodd Ieuan sylw at y ffaith fod cymaint o faniffesto'r Blaid yn y ddogfen Llafur-Plaid – ac yn bwysicach fyth fod raison d'etre y Blaid wedi ei gynnwys sef dyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Fe fynegwyd peth amheuaeth o'r llawr yn bennaf y bryder o orfod wynebu etholwyr Ceredigion o fod wedi bod mewn llywodraeth gyda Llafur. Fodd bynnag dwi'n credu mod i'n gywir i Ieuan ac Elin Jones argyhoeddi pob wan jac un yna. Does dim un clymblaid mynd i fod yn berffaith – hanfod clymblaid yw cyfaddawdu ar rai pethau ond dwi wedi fy argyhoeddi fod Ieuan wedi cael y gorau i ni allan o'r sefyllfa anodd a chymhleth yma. Efallai fod bod mewn gyda Llafur ddim yn bywiogi'r meddwl ond mae bod mewn llywodraeth gyda'n polisïau ni yn rhan ganolog i'r llywodraeth honno yn gynhyrfus iawn.

2 comments:

Aled said...

raison d'etre ia Rhys? A minnau'n meddwl dy fod o dras Ffrengig ;-)

Rhys Llwyd said...

do! Ia, wedi golygu rwan! Rh