2.7.07

Ar y Diwrnod hwn: Gorffennaf 2

Gorffennaf yr ail, diwrnod diddorol. Ar y diwrnod hwn yn 1644 y digwyddodd Brwydr Marston Moor – un o frwydrau enwocaf a mwyaf arwyddocaol Rhyfel Cartref Lloegr. Wedi i'r Seneddwyr drechu'r Brenhinwyr nepell o ddinas Efrog roedd y Seneddwyr yn rhydd, wedi i'r Brenhinwyr a oroesodd y frwydr ffoi i'r de, i gipio dinas Efrog cadarnle olaf y Brenin yn y Gogledd. Dyma frwydr arall lle gwelwyd Oliver Cromwell yn dod i amlygrwydd – llwyddodd i gyfeirio ei reng ef yr holl ffordd o amgylch y Brenhinwyr gan eu taro o'r cefn a rheng Fairfax yn eu taro o'r blaen. Maen siŵr ei bod hi wedi bod yn uffern ar y ddaear, yn llythrennol, i'r Brenhinwyr y diwrnod hwnnw. Ar y diwrnod hwn hefyd yn 1853 y dechreuodd Rhyfel y Crimea wrth i Rwsia ymosod ar Dwrci.

Ond mae yna bethau cadarnhaol i'w dweud am y diwrnod yma ac yn berthnasol i ni'r Cymry bethau yn ymwneud a hawliau lleiafrifol a rhyddhau y gorthrymedig. Ar y diwrnod yma yn 1777 gwaharddwyd caethwasiaeth yn Vermont, y dalaith gyntaf i'w wahardd. Ac ar y diwrnod yma yn 1964 arwyddodd yr Arlywydd Lyndon B. Johnson y 'Civil Rights Act of 1964' oedd yn gwahardd arwahanrwydd mewn llefydd cyhoeddus.

Wedyn beth am bobl enwog a fu farw ar y diwrnod yma? Neb llai na'r athronydd mawr Jean-Jacques Rousseau. Beth am bobl yn cael eu penau blwyddau ar y diwrnod hwn? Wel, neb llai na'r Ceidwadwr Ken Clarke, ac o ie, un bach arall – fi!

1 comment:

Ifan Morgan Jones said...

Penblwydd hapus!