2.7.07

Cyflogau AC'au, Y Prif Weinidog ac Arweinydd yr Wrthblaid

Wrth bori ar wefan y Cynulliad bore ma des i ar draws dogfen tra fanwl oedd yn nodi faint yr oedd yr Aelodau Cynulliad yn ei ennill. Mae'n gwneud darllen tra diddorol. Cyflog AC cyffredin (cyn tynnu treth) ydy £46,191. Yna mae'r Prif Weinidog, Gweinidogion, Y Llywydd a'r Is-Lywydd ac, yn tra ddiddorol, arweinydd yr wrth-blaid yn derbyn cyflogau fel a ganlyn (eto, cyn treth):

Prif Weinidog (Rhodri Morgan): £122,682

Gweinidogion Cabinet (e.e. Carwyn Jones): £85,868

Llywydd (Dafydd El): £85,868

Is-Lywydd (Buttler): £71,117

Arweinydd yr wrthblaid (Ieuan Wyn Jones): £85,868


Mae'r cyflogau yn hael bid siŵr ond a bod yn hollol onest roeddwn ni'n eu disgwyl i fod yn uwch.

[Ffynhonnell: 'Penderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Aelodau’r Cynulliad a Swyddogion) (Cyflogau, Lwfansau etc.)', Y Swyddfa Ffioedd, Rhagfyr 2006]

1 comment:

david h jones said...

dyw'r cyflog i AC cyffredin ddim yn lot o feddwl am y strach a'r ffaith fod rhywun (nytar yn amlach na heb) yn mynd i stopio chi a rhoi rant pob tro fyddwch chi'n mynd i'r dafarn neu i'r siop.

mae'n siwr fod cyflog MP yn uwch ... ond wedyn, senedd 'go-iawn' (h.y. Prydeinig yw hwnnw) a gall Cymru ddim fod ar yr unstatws ag hynny.

Beth yw cyflog prifathro ysgol gynradd neu cyfarwyddowr teledu sgwn i?