2.7.07

Recordio rhaglen gyda Aled Jones-Williams


Dwi wedi dychwelyd o lypder Pontrhydfendigaid ac wedi mwynhau fy hun mas draw. Roedd e'n ddigwyddiad gwych a gobeithio y tyfith e o nerth i nerth nawr. Ta waeth, ar ôl cyrraedd adref yn syth yn ôl i'r tresi es i oherwydd roeddwn ni'n cymryd rhan mewn rhaglen Radio Cymru p'nawma. Rhaglen a ddaeth i fod yn dilyn yr ohebiaeth rhyngtha i ac Aled Jones-Williams yn Golwg dros yr wythnosau diwethaf. Fformat y rhaglen oedd Gwilym Owen yn cadeirio a hynny o'i stiwdio ym Mangor ac yna Aled Jones-Williams (o'r stiwdio ym Mhenrhyndeudraeth) yn dod 'wyneb yn wyneb' a chriw Gristnogion ifainc 'diwygiedig' (neu Efengylaidd os y mynnwch).

Roeddwn ni braidd yn ofidus cyn dechrau recordio oherwydd roeddwn ni'n gwbl ymwybodol fod safbwynt Aled ar bron a bod popeth yn ymwneud a'r ffydd Gristnogol yn dra gwahanol i'm safbwynt i ar lleill yn y stiwdio yn Aberystwyth. Fodd bynnag ni chafwyd tan gwyllt go-iawn fel yr oedd Gwilym Owen wedi ei obeithio oherwydd er ein bod ni yn Aberystwyth yn arddel ffydd Efengylaidd dy ni ddim yn stereoteipiau cymdeithasol/wleidyddol o'r label 'Efengylaidd' yr oedd Aled yn eu collfarnu a'i galw yn biggots. Dydw i ddim yn 'gwth fenywod' nac yn 'gwrth hoyw'. Ac oherwydd hynny llwyddwyd i symud y drafodaeth ymlaen (er maen bosib er mawr siomiant i Gwilym Owen) o daflu mwd tuag at drafod craidd y ffydd Gristnogol. Duw.

Rwy'n cytuno gyda Aled 100% fod diwedd enwadaeth yn sicr fuan, ond i mi y cyfrwng sydd angen newid nid craidd y ddysgeidiaeth glasurol fel y mae Aled yn awgrymu. Dyna sydd, os liciwch chi, wedi 'gweithio' yma yn Aberystwyth gyda'r cwrs Alffa yn un o gaffis y dre a'n haddoliad ar nos Sul yn y Cwps. Mae craidd ein neges yn y cyfarfodydd yma yr un mor 'ddiwygiedig' a neges Cradoc i Hywel Harris i Tudur Jones, fodd bynnag dy ni wedi ei wisgo a iaith, delwedd a diwylliant cyfoes. Hyd y gwela i y ffydd ddiwygiedig ydy'r unig un sy'n cynnig fframwaith i ddod i sicrwydd ffydd o ddod o farwolaeth i fywyd fel sy'n cael ei esbonio yn Effesiaid 2:1-10.

Dwi'n eiddgar i gario ymlaen i drafod gyda Aled a phobol sy'n rhannu ei safbwynt, dydy encilio fel y gwna llawer o Gristnogion Efengylaidd di-asgwrn cefn ddim yn opsiwn i mi. Fodd bynnag rhaid mi gyfaddef mod i'n rhagweld anawsterau mawr mewn ffeindio tir cyffredin gyda Christnogion nad sydd i.) yn cydnabod bodolaeth y sffêr oruwchnaturiol ii.) yn gwrthod y posibilrwydd fod Duw yn dduw hollalluog all wneud ymysg pethau eraill wyrthiau. Y prawf cyntaf i mi wrth geisio tir cyffredin yw cytuno fod y goruwchnaturiol yn bodoli - cytuno NA ellid 'profi', yn wyddonol beth bynnag, rhai elfennau o Gristnogaeth - ond credu ynddynt fel pe baent YN ffeithiau gwyddonol – ffydd gadarn yn cymryd lle prawf wyddonol gadarn a hynny yn gwbl deilwng.

Dyna am tristaodd am eiriau Cynog Dafis yn Golwg wythnos diwethaf - mae e fel petai am dynnu'r ysbrydol a'r goruwchnaturiol (yn ei eiriau ef yr 'an-wyddonol') allan o Gristnogaeth ond, i mi, does dim o werth ar ôl os ydych chi wedi tynnu elfennau sy'n dibynnu ar 'ffydd' allan o system 'ffydd' fel Cristnogaeth.

A dyna fi wedi rhoi pregeth arall heb geisio. Rwy'n disgwyl ymlaen yn eiddgar i gael trafod gyda Aled rhywbryd eto. Er mod i yn, ac am barhau, i ddangos parch at Aled mae heddiw wedi cadarnhau y gwahaniaethau cwbwl sylfaenol rhwng ei Gristnogaeth ef a minnau. Ond maen beth iach i drafod yn tydy?

[Bydd y rhaglen yn cael ei ddarlledu am 6pm Nos Iau ar Radio Cymru]

3 comments:

Rhods said...

Dim am 6 nos Lun odd y rhaglen yn cael ei darlledu Rhys?

Rhys Llwyd said...

Dyma mae o'n ddeud ar wefan Radio Cymru:

"Manylu
Dydd Iau 18:03 - 18.30,
dydd Sul 18.00 - 18.30"

Ifan Morgan Jones said...

Trafodaeth diddorol! Ond fyddai'n well gen i ddarllen trafodaeth gymleth yn hytrach na chlywed fersiwn truncated ohoni ar y radio.

Ond dw i'n biased tuag at gyfrwng print wrth gwrs! ;)