12.7.07

Gwenno Teifi - Hanesyn Difyr

Llongyfarchiadau i Gwenno Teifi am dreulio ei hail gyfnod yn y carchar drosom ni wythnos yma. Mae ei charchariad yn arbennig o bwysig i mi yn bersonnol oherwydd fod Gwenno yn Gristion o argyhoeddiad a da yw gweld Cristnogion ar flaen y gad ym mrwydrau cymdeithasol yr oes yn ogystal a'r brwydrau ysbrydol. Mae Cristnogion o argyhoeddiad (meiddia i ddweud efengylaidd) môr llwath eu hagwedd tuag at faterion cymdeithasol a gwleidyddol ond diolch i Dduw bod yn grop ohonom gyda Gwenno yr enghraifft orau o bosib sy'n dewis peidio cyfyngu ein ffydd i'r Capel yn unig.

Dwi ddim wedi dod ar draws yr hanesyn isod yn y rhithfro eto felly dyma hi. Yng ngeiriau Ffred, tâd Gwenno:

Merch yn dod i mewn i gell Gwenno, eistelawr a chau'rdrws

Merch - What are you in for ?
Gwes - Non-payment of fines. What are you in for ?
Merch - Murder !

3 comments:

gethin said...
This comment has been removed by the author.
gethin said...

hmm. dwi ddim wedi fy argyhoeddi.
dwi'n siwr fod nifer wedi eisiau trafod hwn gyda ti felly dwi'n siwr fod ateb parod gen ti. ond yr hyn dwi'n methu osgoi ydi'r hyn dwi'n ei ddarllen yn 1 Pedr 2:13-17. er ei fod bwysig caru'n gwlad ac amddiffyn ein diwylliant, onid y blaenoriaeth yw dyrchafu Crist? h.y. na ddylai Cristnogion geisio amddiffyn ein diwylliant mewn ffordd gwahanol i bawb arall? na ddyliwn ni geisio darganfod ffordd o wneud hyn mewn modd sydd a ffocws ar ddyrchafu Crist. dwi'n eitha amau y byddai y fath fodd yn wahanol iawn i'r hyn sydd i'w weld heddiw. Yn amlwg, di'r ffeithiau ddim gen i - dwi ddim yn nabod Gwenno nac yn gwybod holl fanylion yr achos ac yn sicr does dim hawl gen i i farnu - dwi jyst ddim yn deall pam fod Cristion yn dewis fandaliaeth a charchar, a pham fod Cristnogion eraill yn ymfalchio yn y peth. onid yw hwn yn gyfle gwahanol i ni, yn ran arall o fywyd lle y ddyliwn ni fod yn disgleirio fel ser?

Rhys Llwyd said...

Mae'r cyfan yn dechrau gyda lle wyt ti'n rhoi terfyn ar Benarglwyddiaeth Crist. Yn ôl fy nehongliad i a'r traddodiad Calfinaidd does dim terfyn iddo.

Mae Gwladwriaethau ac Awdurdodau wedi u neulltuo a'i penodi gan Dduw, ydyn. Ond dydy Duw heb roi siec wag iddyn nhw ac lle bod nhw yn fforeddu eu cyfrifoldeb o flaen Duw (a dwi'n cyfri cam-wahaniaethu ar sail hil ac iaith yn ffordd o ffordeddu cyfrifoldeb o flaen Duw) mae cyfrifoldeb gan Gristnogion lefau a gwrthwynebu yn erbyn yr awdurdodau - wrth gwrs fod yn wahaniaethau mynd i fodoli rhwng Cristnogion ar y tactegau gorau o wneud hyn.

Y brif ddadl sydd gan bobl yn erbyn torri Cyfraith Gwlad ydy Rhufeiniaid 13:1. Ystyr y gair Groeg yn yr adnod hon ydy 'ymostwng' nid 'ufuddhau'. Dyna pam mae'r polisi di-drais sydd gan Gymdethas yr Iaith mor bwysig - a hefyd yr egwyddor o dderbyn cyfrifoldeb am ein gweithredoedd / hanufudd-dod sifil. Rwyt yn cydnabod hawl y llywodraeth i dy gosbi am dy weithred, ac yn esbonio mai nid drwg-weithredu na hunan-les ydy dy fwriad, ond daioni a lles y gymdeithas a threfn ordeiniedig Duw. Rhaid bod yn onest ac yn agored ynglyn a'n gweithredoedd a'n cymhellion, a bod yn fodlon wynebu canlyniadau ein penderfyniadau.

Mae hyn wedi cael ei wneud gan Gristnogion ar hyd y canrifoedd - yn y ganrif ddiwetha gellir meddwl am Gristnogion wnaeth safiad yn erbyn 'hiliaeth' yn UDA, Hitler yn yr Almaen, 'apartheid' yn Ne Affrica etc. Cyfiawnder a lles cyffredinnol y gymdeithas a'r ddynoliaeth oedd y tu ol i'w safiad ar un lefel, ond yn ddyfnach na hynny yr ymwybyddiaeth fod Duw yn Dduw sydd yn erbyn pob anghyfiawnder.

Credaf fod y safbwynt yma o amau dilisrwydd gweithgaredd 'chwyldroadol' fel ffordd o ddyrchafu Crist a'i Deyrnas yn adlewyrchu dealltwriaeth o natur yr efengyl sy'n wahanol iawn i fy nehongliad i Bobi Jones, Dr Tudur Jones ac eraill. Mae'r traddodiad Calfinaidd yn pwysleisio y ffaith fod yr efengyl yn effeithio ar bob gwedd ar fywyd - y personol, y cymdeithasol, y gwleidyddol ... popeth! Mae Iesu ei hun yn dangos mai nid dim ond yr ochr "ysbrydol" / "grefyddol" i fywyd oedd yn bwysig

1. Rhaid i Gristion ymostwng i'r awdurdodau (Rhufeiniaid 13:1-5; 1 Pedr 2:13-14) Dyna pam mae'r egwyddor o dderbyn cyfrifoldeb am ein gweithredoedd mor bwysig. Ond noder mai 'ymostwng' ydy'r gair yn y Groeg, nid 'ufuddhau'. Dw i'n gallu anufuddhau mewn protest, ond derbyn cyfrifoldeb am fy ngweithred a thrwy hynny gydnabod hawl yr awdurdodau i'm cosbi i. (gw Pedr 2:19-22)

2. Dydy torcyfraith ac anufdd-dod sifil ddim yn rywbeth i ruthro iddo - rhaid defnyddio pob cyfrwng cyfansoddiadol posib i geisio sicrhau'r hyn sy'n iawn. Hefyd dw i'n credu y dylai pob anufudd-dod gael ei gadw o fewn ffiniau - h.y. yn weithred sumbolaidd sy'n tynnu sylw at anghyfiawnderau, a ble mae'r protestiwr yn derbyn cyfrifoldeb llawn am yr hyn mae'n ei wneud. Gweithred agored, ddi-drais.

3. Mae hanesion nifer o bobl yn yr Ysgrythur oedd yn anrhydeddu Duw trwy wrthod ufuddhau i'r awdurdodau:
a. Exodus 1:15-21 - roedd y bydwragedd Iddewig wedi cael gorchymyn gan Pharo i ladd pob plentyn gwryw (ond gw. adn17, 20 a 21)
b. Josua 2:1-6,15 - Rahab yn gwrthod trosglwyddo'r ysbiwyr i awdurdodau'r ddinas. Cuddiodd nhw, a'u helpu i ddianc (gw. Hebreaid 11:31)
c. Daniel 3:4-6, 12-30 - Shadrach, Mesach ac Abednego yn gwrthod addoli'r ddelw
ch. Daniel 6:6-22 - Daniel yn gwrthod ufuddhau i'r gorchymyn i beidio gweddio ar Dduw
d. Esther 5 - roedd hi'n anufudd i gyfraith y wlad pan aeth hi i mewn at y brenin(gw. Esther 4:9-11)
dd. Actau 4:15-20 a 5:27-29 - yr Apostolion yn gwrthod ufuddhau i orchymyn yr awdurdodau eu bod nhw i stopio pregethu'r efengyl

4. Mae'r cwestiwn yn codi yng ngolau'r Ysgrythyrau hyn "Pryd mae'n iawn i anufuddhau i'r awdurodau?" Yr ateb ydy pan mae gorchymynion a gweithredoedd yr awdurdodau yn groes i orchymynion ac ewyllys Duw (gw. Actau 5:29).

Mae 'iaith a diwylliant' yn ffitio i mewn i drefn Duw yn ol yr Ysgrythur. Mae lladd iaith a diwylliant, a phob gormes ac anghyfiawnder yn bechod. Ein lle ni ydy byw, a gweithredu, dros werthoedd y Deyrnas yn y presennol.

Dyna sut ydw i yn gweld hi - ydy mae'r safiad ar un ystyr yn un ymfflamychol ond wedi'r cyfan llawlryfr rhyddid ydy'r Beibl ac fe ddaeth Iesu a'i ddysgeidiaeth i ysgwyd y Byd pechadurus ym mhob ffordd - neges Iesu oedd yr un mwyaf chwyldroadol merioed oherwydd fe ddaeth i achub eneidiau ac hefyd i annog ei bobl i fod yn halen ac i daclo pechod y byd a'i ganlyniadau o ddifri. I mi, dydy gwlatgaredd ddiwylliannol ddim yn mynd i'r afael a'r broblem ddigon da.

Os oes baban mewn tŷ yn llosgi a bo'r drws yng nghlo rhaid torri'r drws i achub y baban - ffôl byddai aros i rywyn droi fynny gyda'r allwedd.