Fy Steddfod i
Dwi wedi dychwelyd o'r Eisteddfod ac wedi mwynhau fy hun mas draw. Yn ôl yr arfer fe renais fy amser yn gywrain rhwng gweithgareddau a gigs y Gymdeithas a gweithgaredd y Gorlan. Fe aeth gigs y Gymdeithas yn wych, roedd yr awyrgylch yn arbennig y system sain yn rhagorol a'r gallu i osod eich pabell yna mewn awylgylch lot mwy ymlaciol na maes b yn goron ar y cyfan. Dau set wnaeth aros allan yn arbenniog i mi oedd set Sibrydion a set Y Derwyddon. Sibrydion heb os yw pros mwya y Sin Roc Gymraeg – roedd profiad dros 15 mlynedd ar y sîn (Beganifs>Big Leaves>Sibrydion) yn amlwg yn aeddfedrwydd eu set. Mae'r Derwyddon yn fand fydd yn tyfu i fod yn fand enfawr – roedd eu set nhw yn hollol sgleiniedig ac eu sengl ddiweddara 'Madrach' yn profi i fod yn anthem y 'steddfod.
Fe aeth gweithgareddau'r Gorlan yn gret eleni hefyd yn fy nhyb i. Yn ôl yr arfer fe fwydwyd sawl mil o Gymry ifanc a hynny am bris rhesymol iawn ac allan o gariad tuag at ein cyd-Gymru. Ond y datblygiad newydd eleni oedd digwyddiadau 'Limbo' yn ystod y dydd – sef dangos ffilmiau a sesiynau meiciau agored. Hynny yw troi y Gorlan yn fwy o hang-out yn hytrach na jest pit-stop. Dwi'n gobeithio i'r weithgareddau limbo ddangos i rai bobl mae nid jest Cristnogion sych-syber oeddem ni ond ein bod ni'n Gymry normal fatha pawb arall hefyd – oherwydd i'r mur yna gael ei dynnu i lawr ro ni'n gweld pobl yn fwy hapus i drafod ffydd gyda ni.
Ond ar nodyn llai cadarnhaol rhaid mi ddweud mod i'n brawychu o weld sut mae maes b a'r maes ieuenctid wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf. Plant bach iawn yna yn feddw rhacs – bydd rhaid mynegi fy marn am hyn mewn postiad ar wahan – ond yn fyr – mae'n broblem fawr mae'r steddfod, sefydliad mwyaf parchus Cymru, rhywsut yn ei anwybyddu'n llwyr.
1 comment:
Fues i ddim draw i Faes B, ond fe ddywedodd bron i pob un person welais i oedd wedi bod yno, eu bod nhw hefyd wedi cael tipyn o sioc - sy'n dweud llawer o ystyried ein hagweddau arferol ni Gymry Cymraeg ifanc(ish) at alcohol.
Post a Comment