22.9.07

Cyrraedd Bangor a Chyfarfod ag Elvis

Dwi wedi cyrraedd Bangor ers ddydd Sul ond dim ond heddiw dwi wedi cael y ŵe i weithio. Dwi wedi fy siomi ar yr ochr orau gyda fy fflat yn JMJ – roedd e braidd yn frwnt pan gyrhaeddes ond ar ôl ychydig bach o hwfro, polish a codi ambell i lun ar y wal a ryg neu ddau ar lawr maen le reit braf – nid annhebyg i oasis yng nghanol yr anialwch. Mae'r fflat yn fawr iawn, mae gennai stafell wely sbâr hyd yn oed! Ddydd Sul y bydd y myfyrwyr yn cyrraedd a dyna pryd y bydd fy nyletswyddau, yn swyddogol, yn dechrau. Fodd bynnag, gydol yr wythnos yma dwi wedi bod mewn wythnos hyfforddi ar gyfer wardeiniaid – mae wedi bod yn wythnos drwm iawn iawn. Sawl sesiwn anodd megis sesiwn ar salwch meddwl a hunan-anafu ac yna sesiynau mwy ysgafn a hwyliog a 'hands-on' megis sut mae defnyddio diffoddyddion tân!

Ond uchafbwynt yr wythnos i mi maen siŵr oedd cyfarfod Elvis. Elvis yw'r trydydd warden yn JMJ a chyfrifoldeb arbennig dros y llawr lle mae'r myfyrwyr tramor yn byw. Mae Elvis Adjei yn frodor o Ghana ac mae'n 33 mlwydd oed. Cyn dod i astudio Busnes a Chyllid yma roedd ganddo swydd dda yn y sector gyllid yn ei wlad ac wedi dysgu mwy yma mae'n gobeithio dychwelyd i'w wlad. Maen ŵr tu hwnt o annwyl ac mae'n gymeriad, ond dyma lle mae'r stori yn troi hyd yn oed yn fwy cwl i mi – mae e hefyd yn Weinidog Pentacostalaidd!

Ar y cwrs wythnos yma roedd yna oddeutu 30 o wardeiniaid o gymysgedd o gefndiroedd gwahanol. Un peth wnaeth sefyll allan i mi wythnos yma oedd fod llawer mwy yn gyffredin gyda'r Cymry gyda'r myfyrwyr rhyngwladol na'r Saeson, er fod rhai Saeson (och a gwae) yn unigolyn ddigon dymunol. Ac yn olaf – beth ddigwyddodd i bolisi iaith Prifysgol Bangor? Roedd ar goll wythnos yma.

No comments: