26.9.07

Y Blaid Lafur Gymreig-Brydeinig

Dwi wedi fy atgoffa wythnos yma am y gwahaniaeth sylfaenol sydd rhwng cenedlaetholwyr ac unoliaethwyr. Gan gofio fod y Blaid Lafur wedi methu a chael mandad clir gan yr etholwyr yn ôl ym mis Mai ac eu bod nhw wedi gorfod dibynnu ar Genedlaetholwyr i sefydlu Llywodraeth mi fyddech yn tybio y buasent yn dysgu rhai gwersi. Ond lai na chwe mis ar ôl yr etholiad mae'r hen Genedlaetholdeb Brydeinig yn dangos ei ben unwaith yn rhagor yn y Blaid Lafur Gymreig.

I ddechrau yr oedd sylwad hynod Peter Hain a Rhodri Morgan wrth lansio eu taflen "Keep Wales British!" eu bod nhw'n synnu fod Pleidwyr dal am wthio am fwy o awtonomi nawr eu bod nhw wedi cael pwer yn eu meddiant. Maen annodd gwneud pen a chynffon o'r syniad yma. Maen rhaid eu bod nhw'n ymwybodol mae nid pwrpas Plaid wleidyddol yw ennill pwer ac yna rhedeg y status quo? Pwrpas Plaid wleidyddol yw ennill pwer er mwyn rhoi eu hegwyddorion newydd a gwahanol nhw ar waith. Er, gallaf ddeall, wedi bron i ganrif mewn pwer yng Nghymru fod y Blaid Lafur wedi anghofio beth yw pwrpas plaid wleidyddol ac mae'r polisi ers 1999 yw jest aros mewn pwer a chadw'r status quo ar bob cyfri fel a bortreadwyd mor effeithol yn narllediadau gwleidyddol Plaid Cymru fis Mai.

Mae ymchwil Richard Wyn Jones a Roger Scully yn dangos yn glir fod y Cymry yn "barod" am fwy o awtonomi ond dydy'r Blaid Lafur ddim - does ganddyn nhw ddim gweledigaeth i Gymru fel cenedl awtonomws boed o fewn Prydain ffederal neu Ewrop ffederal. Tan eu bod nhw'n canfod gweledigaeth i'r Gymru awtonomws eu polisi maen amlwg yw ceisio "dal gafael ar yr hyn sy'n dda o'r hen Brydain" - nid anhebyg i Dafydd Glyn Jones yn ei chael hi'n annodd ymdopi i'r ffaith fod Prifysgol Cymru fel sefydliad ffederal yn toddi i ffwrdd yn sydyn.

Ac yna 'rhen Eluned Morgan ASE. Dyma'r gwleidydd mwyaf trahaus yng ngwleidyddiaeth Cymru (er bod Alun Davies AC yn cystadlu'n frwd ar hyn o bryd am y teitl); rwy'n falch mae draw ym Mrwsel mae hi rhan fwyaf o'r amser fel nad oes rhaid i ni wrnado ar ei rhethrheg hi'n amlach. Yr hyn sydd wedi ypsetio 'Luned fach tro yma yw fod y Blaid Lafur Gymreig wedi ymbellhau yn ormodol oddi wrth y Blaid Lafur yn Llundain. I raddau fe fedrai ddeall dadl Eluned, pan nad oedd yna'r fath beth a Llafur Gymreig (sef o'r dechrau tan tua 1997) roedd y Blaid Lafur yn mwynhau cefnogaeth mwyafrif o bobl Cymru'n ddi-gwestiwn. Ond ers i Lafur Cymru ymbellhau o'r blaid yn Llundain (1997 ymlaen) mae poblogrwydd Llafur yng Nghymru wedi syrthio. Felly hyd at rhyw bwynt gellid deall rhediad dadl 'Luned.

Ond mae hi'n methu a deall un pwynt sylfaenol am wleidyddiaeth Cymru ôl-ddatganoli sef fod y gefnodaeth i fesur cryfach o awtonomi ar gynnydd ac fod y syniad unoliaethol yn syrthio ymaith. Eironi mawr hyn yw fod y Ceidwadwyr (y gwir unoliaethwyr o argyhoeddiad) wedi derbyn ac addasu i'r reliti yma ers tro ond bod y Blaid Lafur, sef, yn ôl eu honiad nhw, "gwir blaid cymru", wedi methu'n llwyr hyd yma a derbyn ac addasu i'r Gymru newydd.

Unwaith yn rhagor mae Eluned yn dangos yn glir nad oes gan y Blaid Lafur weledigaeth go-iawn i'r Gymru newydd dyna pam mae'r unig gyfraniad sydd gan Eluned, Peter Hain a Rhodri Morgan hyd yn oed ei wneud i'r drafodaeth am Gymru newydd yw cofio am "y dyddiau da" a diolch am haelioni'r Sais trosom ni'r Cymru nad sy'n ddigon o ddynion i lywodraethu drosom ni ein hunain.

"Ond Rhys," fe glywai chi'n dweud, "mae dy blaid di mewn llywodraeth gyda Llafur!" Rwy'n gwybod er na ddeallaf yn llawn.

No comments: