13.9.07

Dylunio i Sir FFlint

Wedi neud jobyn bach dylunio i Fenter Iaith Sir Fflint wythnos yma. Mae'r gwaith i'w weld isod. Os ydych chi'n hoff o'r dylunio yna cofiwch amdana i pan fo angen dylunydd arnoch - mae fy nghyfraddau tua hanner pris y 'going rate'. A gallwch fod yn saff o wybod fod y pres yn mynd tuag at gynnal myfyriwr ymchwil tlawd ac nid i boced cwmni cyfalafol!

Poster:

talent1.jpg

Dwy-ochr flyer/cerdyn post:

talent2.jpg

talent3.jpg

4 comments:

Anonymous said...

lliwgar iawn!

Ifan Morgan Jones said...

Da iawn!

Wnes ti'n meddwl trio am job dylunydd golwg pan gath o'i hysbysebu ryw fis yn ol Rhys?

Rhys Llwyd said...

Geiriau caredig Ifan. Mae fy nghwrs ymchwil yn un llawn amser a dwy flynedd i fynd ac rwy'n hapus fy myd felly ddim mewn sefyllfa i chwilio am swyddi (boed ddylunio neu arall) llawn amser ar hyn o bryd. Ond yn eiddgar i wneud mwy o waith achlysurol fel yma oherwydd mod i'n fyfyriwr tlawd ac angen yr arian!

Clywed dy fod yn symud i Aberystwyth? Maen siwr y gwnei di fwynhau byw yn Aber cymaint a gwnes i.

Ifan Morgan Jones said...

Ydw dw i'n symud i Benparcau. Wedi blino braidd ar Lambed, a mae angen i mi gael fy nhroed ar yr ysgol eiddo.