4.9.07

Yn ol i Fangor

Fel Ceri Cunington "geshi ngeni ym Mangor" - ac 18 mlynedd yn ddiweddarach dwi'n symud yn ol i fy nhref enedigol. Symudodd fy nheulu i Aberystwyth o Fangor yn 1989 a gan i mi aros yn Aberystwyth i fynd i'r Brifysgol dyma fydd y tro cyntaf i mi, mewn gwirionedd, adael cartre go-iawn (er i mi fyw mewn neuaddau breswyl yn Aber am dair blynedd 2003-2006). Dwi braidd yn nerfus ond hefyd yn disgwyl mlaen i'r benod nesaf yma. Bydd darllenwyr y blog yn gwybod mod i wedi bod yn fyfyriwr ymchwil ym Mangor ers blwyddyn eisioes ond penderfynais beidio symud i fyny yr haf diwethaf am sawl rheswm ond daeth yr amser i mi fudo bellach. Dwi wedi bod ddigon ffol i gymryd swydd Warden Neuadd John Morris Jones (ymysg rhesymau eraill am hyn yw'r ffaith fod fy ysgoloriaeth ddim yn ddigon mewn gwirionedd i dalu rhent, costau byw a ffi fy nghwrs). Fe fydda i wedyn - och a gwae - yn un o'r ychydig rhai prin hynny bydd wedi byw ym Mhantycelyn a JMJ! Mae hynny yn fwy o claim-of-maddness na claim-to-fame mi wn, ond dyna ni.

Mae'r Bangor-lad yn dwad adra!

6 comments:

Gareth said...

Croeso i Fangor! Dwi wedi symud i fyw ma ers rhyw 3-4 mis ac yn mwynhau yn arw.

Linda said...

Lwc dda i ti ym Mangor Rhys ...ac yn Neuadd JMJ !

Adrian Morgan said...

Pob bendith iti yn Mangor. Dymuniadau gorau a phob llwyddiant ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf ac, yn wir, wrth iti ddechrau ar dy waith fel Warden yn Neuadd Syr John Morris-Jones.

Bu'n fraint imi gael bod gymaint yn dy gwmni di yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n arbennig o ddiolchgar iti am fod yn fodlon gweddio drosof (a chyda fi hefyd), i wrando arnaf, ac am fod yn fodlon sgwrsio a fi am bynciau dyrus y ffydd: rwy'n gymeriad cyfoethocach fy ysbryd a'm meddwl o dy herwydd di.

Dysgais un peth tyngedfennol eleni: rwy'n bechadur! Gwelais gip ar fawredd anhygoel ein Harglwydd a chreodd y profiad hwnnw gymaint o ostyngeiddrwydd ynof fi hyd nes imi orfod syrthio i lawn a gweddio ar Dduw am faddeuant a diolch iddo am fod yn fodlon marw i mi. Rwy'n sicr yn awr bod yr Iesu yn waredwr personol i mi.

Diolch iti am fod yn fodlon gwrando ac hefyd am ddadlau gyda fi am hyn i gyd. Rwyt ti'n ffrind da ac ni all yr un gair ddisgrifio maint fy nyled iti.

Cadwa mewn cysylltiad.

Rhys Wynne said...

Treuliais flwyddyn yn JMJ, nol yn y 90'au ac mae na ambell dilledyn yn fy wardrob yn nhŷ fy rheini sy'n dal i arogli o'r lle!

Ifan Morgan Jones said...

Ges i fy ngeni yn PC World Bangor.

Siôn Meredith said...

Cea innau fy ngeni yn PC World Bangor (cyn bod sôn am PCs) a threuliais 3 blynedd yn JMJ - y JMJ go iawn (dros nesa) cyn symud i'r neuadd ddrewllyd sy'n gartref y myfyrwyr Cymraeg erbyn hyn. Pob lwc i ti fel warden - mae'n rhaid nad wyt ti'n gall!