9.12.07

American Gangster a'r gangster+angel sydd ynom ni gyd

Neithiwr fe es i ar y trên draw i Gyffordd Llandudno i wylio American Gangster. Nid ffilm gangster cyffredin oedd hi ond yn hytrach ffilm wedi ei seilio ar stori go-iawn sef hanes Frank Lucas – barwn cyffuriau croenddu enwocaf Efrog Newydd. Ef oedd yn rheoli (hynny yw yn answyddogol) Harlem ddiwedd y 60au a dechrau'r 70au. Ei gamp mawr yn y diwydiant cyffuriau oedd torri allan y dyn canol a chael ei Heroin yn syth o'r cynhyrchwyr yn Vietnam, roedd ganddo ddynion llwgr tu mewn i awyrlu'r UDA a fyddai'n cuddio'r Heroin tu fewn i goffins milwyr marw wrth iddyn nhw gael ei hedfan adref o Ryfel Fietnam. Roedd llwyddiant ei fusnes mor ysgubol oherwydd wedi i'w gyflenwadau 'pur' gyrraedd o Vietnam roedd yn gwerthu'r Heroin yn Harlem am hanner y pris arferol er bod y cyffur ddwy-waith yn gryfach na'r math arferol, oherwydd hyn cipiodd fonopoli o'r diwydiant dros nos ac ar ddiwrnod da gwnnai dros filiwn doler o elw y diwrnod (!) ar strydoedd Harlem.

Pan gafodd ei ymerodraeth ei ganfod a'i ddiberfeddu gan yr awdurdodau fe ddedfrydwyd Lucas i 70 mlynedd o garchar. Ond fe'i rhyddhawyd ar ôl 15 oherwydd iddo gynorthwyo'r heddlu wrth enwi swyddogion llwgr ymysg yr Heddlu oedd yn rhan o'r cylchoedd cyffuriau. Wedi i Lucas roi cymorth i'r heddlu fe ganfuwyd tri chwarter (!) o holl swyddogion adran cyffuriau a nercotics heddlu Efrog Newydd yn euog o fod yn rhan o'r llygredd. Ers 1991 mae Lucas a'i draed yn rhydd, maen 77 mlwydd oed bellach.

Gwnaeth y ffilm i mi feddwl am lawer o bethau. I ddechrau roedd Lucas yn un o'r cymeriadau 'dyn drwg da' yma rydych chi'n cael mewn ffilmiau weithiau. Er enghraifft, gydol y ffilm roeddech chi'n cael eich hun yn cydymdeimlo gyda Lucas ac yn edmygu ei fenter, hynny yw maen well i gangster croenddu wneud yr arian yr Harlem yn hytrach na gangster gwyn fel oedd cyn dyddiau Lucas. Yn ogystal roedd Lucas (ag eithrio'r ffaith ei fod wedi troi ei gymuned gyfan i fod yn gaeth i heroin) yn gofalu am Harlem mewn ffordd nad oedd awdurdodau'r ddinas na'r llywodraeth Ffederal yn gwneud – adeg dolig roedd hi'n arfer gan y bwrwniaid fel Lucas ddosbarthu tyrcod am ddim i gymunedau tlawd Harlem. Roedd y barwniad yn gofalu am Harlem mewn ffordd nad oedd y llwydoraeth yn ei wneud. Gydol y ffilm roedd Lucas yn cael ei bortreadu fel 'dyn teulu' da ac egwyddorol – maen dweud dro ar ôl tro mae'r unig reswm iddo adeiladu ei ymerodraeth oedd er mwyn medru rhoi cartref cysurus i'w fam a'i wraig. Ond er y 'lles' honedig yma yr oedd ymerodraeth Lucas yn dod i Harlem a'i deulu roedd y cyfan wedi ei seilio ar gyfoeth ac arian 'brwnt'. Amwni mae'r hyn wnaeth i mi feddwl dros bethau oedd y cwestiwn oesol does the end justifie the means? Do maen debyg i Lucas ddod a pheth llewyrch yn ôl i Harlem ond roedd y pris yn ddrud.

Prif gymeriad arall y stori oedd Richi Roberts o adran cyffuriau a narcotics yr heddlu. Roberts a lwyddodd yn y diwedd i chwalu ymerodraeth Lucas a'i gael yn euog. Roberts yn ogystal a lwyddodd i negodi gyda Lucas i gael enwau swyddogion yr heddlu oedd yn rhan o'r plot. Maes o law fe newidiodd Roberts o fod yn erlynydd i fod yn criminal defense attorney ac oherwydd i Lucas edmygu Roberts gymaint am lwyddo i ddymchwel ei ymerodraeth fe huriodd Lucas Robers i'w amddiffyn yn erbyn troseddau cyffuriau pellach yn yr wythdegau a bellach mae'r ddau yn gyfeillion agos! Cymod yn wir!

Efallai mod i'n gor-ysbrydoleiddio'r hanes ond 'doeddw ni methu peidio a sylwi ar y ddeuoliaeth oedd yng nghymeriadau Lucas a Roberts. Wrth wylio'r ffilm dy' chi'n gweld y ddau ohonyn nhw yn gwneud pethau cwbl erchyll sydd ond yn tanlinellu'r realiti ein bod ni'n byw mewn byd syrthiedig sydd wedi cymryd troad annisgwyl oddi wrth y ffordd mae pethau i fod. Ond ar y llaw arall maen rhyfeddol gweld ochr dyner a hoffus, gweithredoedd da hyd yn oed, yng nghymeriadau Lucas a Roberts hefyd sydd yn adlewyrchu'r gobaith sydd ynom ni gyd a'r ffaith yn y diwedd ac er gwaethaf holl effaith pechod ein bod ni gyd wedi ein llunio ar lun a delw Duw yn wreiddiol a bod y mymryn o ddaioni cynhenid yna ym mhawb; hyd yn oed heddwas pengaled fel Roberts a barwn cyffuriau mawr fel Lucas. Y gyfrinach a'r allwedd i ddal gafael a datblygu yr ochr yna o gymeriadau Lucas a phob un ohonom ni yw perthynas gyda Iesu ac yna gweithio i brysuro ei deyrnas.

No comments: