Emerging Church a Brian McLaren
Mewn paratoad i'r gynhadledd dydd Iau nesaf yn y Coleg Gwyn, Bangor ar yr 'Emerging Church' dan arweiniad Dr. Robert Pope (fy nhiwtor PhD) dwi wedi dechrau edrych i mewn i'r peth. Ar ôl darllen ambell i ysgrif ar y wê ac edrych ar sawl fideo you tube gan arweinwyr y symudiad rwy'n cael y cyfan yn ddiddorol tu hwnt. Yn cytuno 100% gyda ambell i bwyslais ond ar hyn o bryd ddim yn hollol gyfforddus gyda'u pwyslais ar faterion eraill. Mae un o ffigurau amlwg y mudiad, Brian Mclaren, yn aelod blaenllaw o'r mudiad Sojourners sef mudiad Jim Wallis awdur y llyfr rhyfeddol 'God Politics: Why the right gets it wrong and the left don't get it.' Yr ochr yma i'r symudiad Emerging Church dwi yn gytuno 100% gydag ef – hynny yw pellhau gymaint ag sydd yn bosib oddi wrth Efengyliaeth Adain-Dde Weriniaethol. Yn y fideo yma mae Brian McLaren yn rhannu peth o'i feddyliau ar y mater:
Tu hwnt i'r gwleidyddol pwyslais Brian McLaren a'i gyd Emergents ydy tarro i mewn i drafodaeth gyda'r byd ôl-foderniaeth yn hytrach na jest pregethu iddyn nhw. Mae'r fideo nesa yn dangos sut y mae McLaren yn llwyddo i agor deialog heb o'r rheidrwydd pregethu i lawr at bobl. Unwaith eto rwy'n gweld y fath bwyslais yn gam da ymlaen i adfywio deialog gytbwys am ffydd:
Ond wedyn mae gan McLaren bwyslais arall hefyd sydd yn gwyro yn ormodol, yn fy nhyb i o Efengyl Crist. Dyma ddyfynu allan o'i lyfr A Generous Orthodoxy:
I don’t believe making disciples must equal making adherents to the Christian religion. It may be advisable in many (not all!) circumstances to help people become followers of Jesus and remain within their Buddhist, Hindu or Jewish contexts … rather than resolving the paradox via pronouncements on the eternal destiny of people more convinced by or loyal to other religions than ours, we simply move on … To help Buddhists, Muslims, Christians, and everyone else experience life to the full in the way of Jesus (while learning it better myself), I would gladly become one of them (whoever they are), to whatever degree I can, to embrace them, to join them, to enter into their world without judgment but with saving love as mine has been entered by the Lord...
Rwy'n gobeithio darllen y llyfr drosof fi fy hun dros y Nadolig ond ar sail dyfyniadau fel yr uchod maen bosib fod McLaren yn enw 'deialog' wedi agor y pyst yn rhy llydan. Ar yr olwg gyntaf dwi'n meddwl fod gan yr eglwys yng Nghymru llawer i ddysgu oddi wrth yr Emerging Church a'i arweinwyr fel McLaren; yn anad dim y pwyslais i gymryd rhan mewn deialog ar lefel gyffredin yn hytrach na dim ond deialog wedi i bobl ddod i mewn i'r eglwys (oherwydd dydy pobl ddim yn dod i mewn i'r eglwys!); yn ogystal ac ail ddarganfod radicaliaeth ehangach efengyl Crist a'i Deyrnas fel sy'n cael ei esbonio yn y fideo cyntaf.
O ran y dyfyniad uchod gan McLaren dwi'n meddwl fod yna un awgrym yna y gallaf gynhesu tuag ato sef y syniad yma o ddod i gyfarfod a pobl oddi mewn i'w diwylliant nhw – hynny yw os ydy Moslem yn dod i gredu a dilyn Iesu rhaid peidio disgwyl iddo anghofio ei holl ddiwylliant Moslemaidd o safbwynt diwylliannol a trio dros nos i fod yn rhan o ddiwylliant Cristnogol Gorllewinol. Mae Cristnogaeth yn ffydd aml-ddiwyllianol (sy'n wahanol i aml-ffydd cofiwch) edrychwch ar y gwahaniaeth pwyslais diwylliannol rhwng Anglicaniaeth Rowan Williams a Pentacosaliaeth Eglwysi Du America – yr un gwaredwr sydd yn y canol.
Fel y mae'r postiad anelwig yma yn dangos 'trafodaeth' a 'deialog' yw'r emerging church, maen gysyniad Cristnogol ôl-fodernaidd, sydd o bosib yn oxymoron yn ei hun. Rwy'n disgwyl mlaen i ddilyn y syniadau yma ymhellach yn y dyfodol.
No comments:
Post a Comment