Amos yn ymweld a Chymru [1/2]
“Yn y dydd hwnnw, codaf furddun dadfeiliedig Dafydd; trwsiaf ei fylchau a chodaf ei adfeilion.” Amos 9:11
Mae un o'm cyfeillion yn hoff o wahaniaethu rhwng yr Hen Destament a'r Newydd drwy nodi fod yr hen yn adain-dde a'r newydd yn adain-chwith. Gellid deall sut fydd pobl yn neidio i'r fath gasgliadau ond o edrych ar rai o lyfrau'r Hen Destament a'u negeseuon, daw'n amlwg yn weddol sydyn nad oes modd tynnu cymhariaeth wleidyddol môr bendant rhwng y ddwy destament. Mae Amos a sawl proffwyd arall yn yr Hen Destament yr un mor feirniadol â Iesu Grist ei hun o anghyfiawnderau ac achosion o orthrymu'r tlawd. Felly cyfeiliorni yw datganiadau ysgubol fod yr hen destament yn 'adain-dde'. Prin yw'r bobl bellach yng Nghymru sy'n credu fod y Beibl yn siarad yn uniongyrchol gyda ni heddiw a phrinnach fyth yw rheini sy'n credu fod negeseuon yr Hen Destament yn apelio i'n sefyllfa gyfoes ni. Unwaith eto gellid gwerthfawrogi'r sentiment ond o graffu'n ddigon gofalus ac o dreulio peth amser dros y gair gwelir fod digonedd o gig i'w gael yn yr hen destament i'n sefyllfa heddiw. Yn yr ysgrif hon fe drown ein golwg at broffwydoliaeth Amos, a rhoi ein hunain yn esgidiau'r Isreiliaid a holi ein hunain os ydym wedi mynd yn ddifater? Ydym ni wedi gadael i ystyriaethau eraill gymryd lle Duw yn ein bywydau a bywyd y genedl? Ac a ydym ni'n anwybyddu'r rhai mewn angen? Ni fydd modd, wrth reswm, gwneud cyfiawnder â holl gynnwys y broffwydoliaeth mewn un ysgrif ond gobeithio y medrwn ystyried prif themâu y broffwydoliaeth a'i berthnasedd i Gymru heddiw.
Yn ystod oes Amos roedd Israel yn mwynhau cyfnod o heddwch a chynnydd economaidd llewyrchus. Fodd bynnag fe berodd y fendith yma i'r gymdeithas droi yn hunanol, materol a difater. Fe ddechreuodd rhai oedd yn gyfforddus eu byd anwybyddu anghenion rhai llai ffodus ac fe drodd llawer o bobl yn hunan-longyfarchiadol gan anwybyddu Duw. Nid oes modd gwadu fod Cymru wedi gweld dyddiau blin, does ond rhaid cyfeirio at ddigwyddiadau fel Tryweryn o ran yr iaith Gymraeg a diwylliant, a chau'r pyllau glo yn yr wythdegau a'i effaith economaidd i ddangos fod Cymru wedi taro'r gwaelod lawer tro. Er nad yw'r genedl mor llewyrchus ag y gallai ddatblygu i fod petai ganddi Senedd go-iawn ac er nad ydy'r iaith Gymraeg wedi ei chodi'n ôl i'w phriod le fel iaith swyddogol Cymru mae pethau fel pe tasent yn gwella. Mae gan Gymru bellach egin hunan-lywodraeth sy'n angenrheidiol i weithredu fel asgwrn-cefn moesol i'r genedl; heb yr asgwrn cefn does gan y genedl ddim gobaith cerdded yn gefnsyth. Er fod brwydrau pellach i'w hennill mae'r iaith Gymraeg wedi trechu sawl brwydr eisoes ac mae'r iaith – yn ystadegol o leiaf – yn tyfu mewn niferoedd wedi canrif a mwy o ddirywiad. Ond fel yr Israel lewyrchus yn nyddiau Amos onid yw Cymru yn ei chyfforddusrwydd cymharol wedi datblygu i fod yn genedl hunan-longyfarchiadol ac wedi alltudio Duw? Mae sefyllfa Israel a phroffwydoliaeth Amos yn berthnasol iawn i ni felly.
Yn ei broffwydoliaeth mae Amos yn cyhoeddi barn Duw ar yr holl genhedloedd cyfagos nid dim ond ar Israel. Duw yw penarglwydd yr holl genhedloedd a rhaid i bob cenedl a'i phobol fod yn atebol i Dduw yn y diwedd am ei gweithredoedd a'i gwrthgiliad. Fel y pwysleisiodd Emrys ap Iwan, pennaf reswm Duw am ordeinio cenhedloedd oedd er mwyn i'r cenhedloedd ei ogoneddu Ef. Er fod Cymru bellach yn wlad seciwlar rhaid i ni fel Cristnogion gofio ei bod hi yn parhau i fod yn atebol i Dduw er gwaethaf ei anufudd-dod. Nid oes hawl gan ddyn ddiswyddo Duw o'i waith fel penarglwydd ond dyna y mae'r Gymru gyfoes yn eu hyfdra digywilydd wedi gwneud. Mae'n gwbl hurt i dybio fod ewyllys a barn Duw ond yn berthnasol i rheiny sy'n credu mewn Duw. Oherwydd llwyddiant materol Israel roedden nhw wedi dod yn bobl ddifater a ddaeth i ddibynnu ar gadernid a diogelwch gwag, rhyw fath o false sense of security ys dywed y Sais. Wrth gwrs epil llwyddiant ydy llygredd a chamwri moesol a dyma oedd i'w weld yn blaen i Amos. Byddai'r sinigiaid yn ein plith yn dweud wrthych fod Senedd Bae Caerdydd yn nythfa llygredd eisoes a'n trefn ddatganoledig heb gyrraedd ei ben-blwydd yn ddeng mlwydd oed! Nid lle cylchgrawn fel Cristion ydy pwyntio bys ond gwleidyddion ydy gwleidyddion a pheidiwn â meddwl am enyd bod gwleidyddion Cymreig yn llai tebygol o syrthio i gors llygredd na gwleidyddion Prydeinig; dyn yw dyn. Hunan-hyder yn hytrach na rhoi eich hyder yn Nuw yw dechrau'r diwedd.
Parhad yn y postiad nesaf...
No comments:
Post a Comment