29.12.07

Amos yn ymweld a Chymru [2/2]

parhad o'r postiad blaenorol...

Ym mhroffwydoliaeth Amos maen amlwg fod dosbarth pwerus a chefnog o drigolion Samaria, prifddinas Israel, wedi dod i fod yn bobl gyfoethog, hunanol ac anghyfiawn. Oherwydd i'r dosbarth uwch drethu'n drwm a chipio tiroedd dechreuodd caethwasiaeth anghyfreithlon ac anfoesol yn ogystal â chreulondeb tuag at y tlawd yn gyffredinol. Ar yr olwg gyntaf nid oes modd tynnu cymariaethau amlwg rhwng y sefyllfa yn oes Amos â'r sefyllfa gyfoes yng Nghymru ac nid wyf am ddechrau beirniadu trên grefi Caerdydd ond gadewch i ni ystyried rhai cymariaethau. Wrth goffáu diweddu'r fasnach gaethwasiaeth eleni fe dynnwyd sylw gan elusen Gristnogol Tearfund fod caethwasiaeth ar ffurf human-trafficing at ddiben y diwydiant rhyw yn broblem fawr yn y gorllewin a phroblem sy'n digwydd o dan ein trwynau hyd yn oed yma yng Nghymru. Yna beth am y miloedd o Gymry ifanc sydd wedi eu caethiwo yn economaidd rhag cael cyfle i brynu cartref yn eu cymunedau oherwydd milwrio annheg ac anfoesol y farchnad rydd yng Nghymru? Rhai yn cael eu gorfodi i ffoi i ganfod gwaith a chartref hyd yn oed. Disgrifiodd R. Tudur Jones y ffenomenon yma nôl yn y saithdegau fel dim byd llai na 'Sataneiddiwch' – wrth edrych ar anhegwch can gwaith gwaeth y farchnad dai heddiw o'i gymharu a'r saithdegau rwy'n siŵr y byddai'r hen Athro yn fud. Nid ymateb arwynebol a thocenistaidd y dylem ni Gristnogion yn ogystal â'n gwleidyddion roi i anghyfiawnderau o'r fath ond yn hytrach dylem ymateb mewn modd difrifol ag allasai olygu aberthu ein cyfforddusrwydd ni ein hunain. Mae beirniadaeth Amos ynghylch ddifaterwch pobl bwerus Samaria yr un mor berthnasol i ddifaterwch gwleidyddion Cymru heddiw.

Yn olaf mae Amos yn condemnio Israel am fod yn euog o grefydda arwynebol. Yn nyddiau Amos roedd llawer o'r Isreiliaid wedi troi cefn ar ffydd real yn Nuw er eu bod nhw'n parhau â'r defodau crefyddol a gysylltir â ffydd yn Nuw. A hithau'n dymor y Nadolig mae'r cymariaethau a Chymru fan yma yn amlwg. Er bod dan 10% bellach o Gymry yn addoli'n gyson mi fydd pawb yn morio canu geiriau fel 'ganwyd ef o ryfedd drefn, fel y genid ni drachefn,' dros dymor y Nadolig; ie llinell sy'n sôn am ddim byd llai na'r gair taboo hwnnw – troedigaeth! Wrth gwrs dydy morio canu carolau amser 'dolig neu fynychu'r gymanfa bob chwe mis yn twyllo neb ond chi eich hun. Nid gwir ffydd, fel y mae Amos yn pregethu, yw ffydd sy'n dibynnu ar ddefodau a thraddodiadau ond yn hytrach gwir ffydd yw ffydd sydd wedi ei seilio ar berthynas fyw a phlygu'n fodlon i ewyllys Duw.

Oherwydd y crychau yma ar gymeriad y cenhedloedd a restrir gan Amos, crychau sy'n amlygu ei hunain i raddau ar ein Cymru ni heddiw, fe bregetha Amos farn Duw ar y cenhedloedd am eu camwedd a'i hanufudd-dod. Ond fel pob cennad gwrth ei halen nid yw Amos yn ein gadael yn y gors oherwydd wedi cyhoeddi'r farn y mae'n dangos ffordd gwaredigaeth, mae'n dangos ffordd adferiad. Ni cheir gwaredigaeth drwy gyfrwng unrhyw arweinydd bydol neu wleidyddol ond yn yn hytrach gan y Meseia – Iesu Grist.

Agorodd ddrws i'r caethion
I ddod o'r cystudd mawr;
Â'i werthfawr waed fe dalodd
Eu dyled oll i lawr:
Nid oes dim damnedigaeth
I neb o'r duwiol had;
Y gwaredigion canant
Am rinwedd mawr ei waed.


Gydol yr Hen Destament fe welir Israel yn mynd yn bell ac yna ei thynnu'n agos eto at Dduw. Does dim gwadu fod Cymru ar hyn o bryd yn bell ac y mae'r dystiolaeth, o ddwyn cymariaethau â'r enghreifftiau a rydd Amos, yn gwneud hynny'n ddigon eglur. Hyd yn oed os yw'r Cymry bellach yn gwadu ei benarglwyddiaeth fe wyddom ni Gristnogion fod Duw yn parhau yn benarglwydd ar ein cenedl a'n gweddi ymbiliol ni yw i'r Cymry, fel Israel yng nghyfnod Amos, ddychwelyd at y Tad drwy ei fab rhyfeddol Iesu Grist. Rwy'n hyderu nad oedd yr ysgrif hon yn adain-dde nac yn adain-chwith ond yn hytrach yn dilyn y drydedd ffordd – ffordd Crist.

Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Cristion (Rhifyn Nadolig 2007)

No comments: