30.12.07

Adolygiad o lyfr Marc Driscoll 'Confessions of a Reformission Rev' [1/3]


Confessions of a Reformission Rev: Hard Lessons From an Emerging Missional Church gan Mark Driscoll (Zondervan, £9.99)

Mae'r adolygiad yma yn un hir a hynny mewn tri postiad gwahanol ac ar y dechrau hoffwn annog pob Cristion i ddarllen y blog ar ei hyd oherwydd fod cynnwys y llyfr yn ddifyr ac yn hynod berthnasol i chi. Maen flogiad hir oherwydd fod gymaint o gîg yn y llyfr i'w drafod. Ac yn olaf, mi wn fod y postiadau yn llawn typos ond maen hwyr nos Sadwrn a doedd dim amynedd genai ddarllen trwy'r cyfan eto cyn postio! (Sori Mam!)


Yn dilyn y gynhadledd am ddyfodol yr eglwysi ddechrau'r mis (blog am y digwyddiad yma) ym Mangor dwi wedi fy sbarduno i ddarllen ambell i lyfr gan aelodau mwyaf blaenllaw symudiad yr Emerging Church. Dyma adolygu'r llyfr cyntaf sef Confessions of a Reformission Rev: Hard Lessons From an Emerging Missional Church gan Mark Driscoll. Yn y llyfr hynod yma mae Driscoll yn gwneud sylwadau am gyflwr yr eglwys heddiw, sut mae sefydlu eglwysi a sut mae eu rhedeg a hynny wedi ei blethu gyda naratif am hanes ei eglwys ef, Mars Hill yn Seattle (maen werth i chi ymweld a'i gwefan), dros y deng mlynedd diwethaf. Teimlodd Driscoll alwad i sefydlu eglwys newydd yn ninas Seattle, y ddinas yn ystadegol oedd a'r nifer lleiaf o bobl yn mynychu eglwys. Ei fyrdwn o'r dechrau oedd cychwyn eglwys a fyddai'n estyn allan i'r genhedlaeth ôl-fodernaidd, eglwys wedi ei dargedu yn benodol at bobl oedd yn troi o gwmpas is-ddiwylliant poblogaidd y ddinas. Mewn ychydig dros ddeng mlynedd mae'r eglwys wedi tyfu i fod a dros 6,000 o aelodau yn cyfarfod ar bedwar campws gwahanol mewn unarddeg cyfarfod gwahanol ar y Sul a channoedd o gyfarfodydd llai yn ystod yr wythnos. Mewn gair, maen gweithio.

Ond cyn taro i fewn i naratif hanes ei eglwys mae Driscoll yn cyflwyno pedwar math gwahanol o Gristnogaeth sydd oll wedi ei gwneud i fyny o dri cynhwysiad. Y tri cynhwysiad ydy'r Efengyl, Yr Eglwys a Diwylliant a dyma sut mae'r esbonio adeiladwaith y pedwar math gwahanol o Gristnogaeth:

Efengyl + Diwylliant – Eglwys = Parachurch

Diwylliant + Eglwys – Efengyl = Rhyddfrydol

Eglwys + Efengyl – Diwylliant = Ffwndamentalaidd

Efengyl + Diwylliant + Eglwys = Reformission


Maen nodi y gallwn werthfawrogi cryfderau y gwendidau yn y tri traddodiad cyntaf hyd yn oed Rhyddfrydol OND dim ond y pedwerydd math, yn nhyb Driscoll sy'n ffyddlon i ddysgeidiaeth radical y Beibl – mae'r tri math cyntaf yn cyfaddawdu ar oleiaf un cynhwysyn.

Mae Driscoll yn anhygoel o onest yn ei lyfr, er enghraifft maen nodi manylion fel hanesion pan fo arwain yr eglwys wedi effeithio ar ei briodas (gyda llaw fe sylwodd ar y broblem mewn pryd i newid blaenoriaethau mewn pryd!). Mae hefyd yn cyfaddef fod rhai o'i syniadau ar adegau wedi bod yn dra fyrbwyll – mae'r gonestrwydd yma yn gwneud Driscoll yn gymeriad hoffus ac mae'r llyfr yn cydio oherwydd.

Parhad yn y postiad nesaf...

No comments: