'God, Guns, Glory!' Cristnogion o ryw fath... od
Maen debyg y byddwch wedi clywed am yr hanes ofnadwy o'r UDA heddiw am y saethu mewn canolfan siopa. Saethwyd wyth yn farw ac yna trodd y saethwr ar ei hun a saethu ef ei hun yn farw. Fe wyr pawb y bod gynnau yn broblem fawr yn yr UDA ond mae'r stori drist heddiw fy ysgogi i edrych yn ddyfnach ar y broblem o safbwynt Gristnogol oherwydd y bo Cristnogion Efengylaidd yr UDA ar y cyfan o blaid perchnogaeth gynnau, maen nhw'n gweld y peth fel hawl ac maen nhw'n gweld y peth yn gwbl naturiol.
Meddai Andrew Sandlin yn y Christian Statesman;
The problem is not six-shooters; the problem is sinners. Eliminating guns won’t solve that problem.… The proximate (civil) solution to gun-related violence is stiffer (biblical) penalties for harming humans and property – whether by guns, knives, axes, spray paint, or computers. The ultimate solution to gun-related violence is the transformation of individuals by the Gospel of Jesus Christ.... The ironic solution of liberals is to lock up the guns and liberate the criminals after a mere wrist slap...
Er mod i'n deall ac yn cytuno gyda'i bwynt yr hyn sydd yn fy nychryn i yw eu bod nhw felly yn credu, yn y cyfamser (tra fo pawb yn aros i gael eu 'achub'), y bod perchnogi gynnau yn iawn ac yn angenrheidiol. Ar y wefan yma mae'r awdur yn dweud 'An evil person will use his guns to do evil, and a good person will use his guns to defend himself and others. It is people who are good or evil, not guns.' Fe â awdur y wefan ymlaen i ddadlau;
Further, gun-control is the key to tyranny, because a dicator would find virtually no resistance if the people are unarmed... So it is very hard to justify, from a Christian point of view, a law whose prime effect is to disarm honest people. One may believe banning guns is a good thing, and campaign for gun control; nobody has the right to do it in the name of God.
Mae'r awdur yn gwbl ddall i'r ffaith mae'r broblem yw fod gormod o ynau o amgylch y lle a bod cael gafael ar wn yn rhywbeth rhy hawdd i'w wneud ar hyn o bryd yn yr UDA. Sut yn union y mae'n gobeithio gweithredu'r polisi 'gynau i Gristnogion'? Eu gwerthu nhw trwy'r gweinidog ei aelodau ei Eglwys yn unig? Ond mae pethau yn gwaethygu, fe ddes i ar draws y wefan yma, 'God, Guns, Glory!' Dyma yw mission statment y wefan;
This weblog is intended for the enlightenment and/or entertainment of any individual(s) who have a desire for All-American, Pro-Guns, Pro-Life, Pro-Freedom, Pro-Constitution, Anti-Liberal, and most importantly Pro-Jesus ramblings.
Mae gweld y termau 'Pro-Guns' yn cael ei ddilyn gan 'Pro-Life' yn dra eironig ac mae gweld y cyfan yn gorffen gyda 'Pro-Jesus' yn fy nigaloni'n fawr. Fe dynna 'JJ' (un o awduron 'God, Guns, Glory!') sylw at hanes disgybl ysgol sydd wedi ei ddisgyblu am ymgyrchu am yr hawl i ddod a gwn i'r ysgol ac maen gorfod mynychu sesiynau therapi i ddelio a'r peth – mae JJ yn cytuno gyda'r disgybl yn hytrach na'r ysgol wrth gwrs. Dywed JJ
...there are only 215 million privately owned guns America (compared to America’s population of 294 milllion), huh? That’s a lot of crazy people. And to you Stalinists out there: thats a whole lotta comrades to re-educate...
Ond ar ol tipyn o chwilio fe ddes ar draws ysgrif ar y wê gan Gristion Efengylaidd o America oedd yn erbyn perchnogi gynnau, haleliwia!
I myself am a conservative, born-again, believer in Jesus Christ. Politically speaking, I am generally considered a conservative, and in some instances, an ultra-conservative. However' meddai 'if there were ever any one issue that I personally would be considered a liberal with, then this is it. Guns and gun ownership. I SIMPLY HATE GUNS. I wish they never existed.
Dyweddodd eto;
Up until now, for the most part of my life never did I think it was wrong to own or even shoot a gun. After all, they're fun to shoot, I won't deny that. But, for the most part of my life, there was always a still small voice that would on occasion whisper into my heart asking me, is this right? There was something about holding a weapon that is able to literally take away the lives of dozens of people with a simple pull of the trigger, whether it be by accident or in times of war that made me often squeamish inside. Therefore, as a result of a closer examination of both my faith, and what Jesus taught concerning the use of force and the owning of a deadly weapon, I have totally abandoned my belief in owning or even using a gun be it for self-defense and/or recreational purposes.
Y broblem ydy fod y rhelyw o Gristnogion Efengylaidd yn yr UDA heb ystyried oblygiadau ehangach yr efengyl ac y bod nhw heb wir ystyried neges radical Iesu yn y Testament Newydd. Y gwir amdani yw mae nid eu ffydd Gristnogol sydd wedi gwneud iddyn nhw feddwl eu bod hi'n iawn i berchnogi gynnau ond yn hytrach eu diwylliant Cristnogol ac mae hwnnw yn ddiwylliant sy'n cynnwys llawn gymaint o ddysgeidiaeth adain-dde imperialaidd pesemistig ag ydyw'n cynnwys dysgeidiaeth optimistaidd obeithiol Iesu.
4 comments:
Mwynhais y post yn fawr iawn, cytuno'n llwyr.
Sylw digon tila sydd gyda fi, ond sut byddai awgrym y gwr cyntaf ti'n ddyfynnu
"stiffer (biblical) penalties for harming humans"
wedi helpu yn y syfyllfa diweddar yma yn Nabraska?
Petawn i'n Gristion, byddwn innau'n anobeithio bron gyda sylwadau a meddylfryd fel hyn. Tra dwi yn cytuno mai'r llaw sy'n tynnu'r trigger sy'n gyfrifol yn y pen draw, rhaid eu bod yn sylweddoli bod argaeledd drylliau yn chwarae rhan fawr mewn (amledr?) digwyddiadau fel hyn.
Cytuno'n llwyr.
Mae gan gymdeithas Sojourners yn yr UDA lot fawr i'w ddweud ar y pwynt hyn. Grwp o Gristnogion ydyn nhw, sy'n meddwl eu bod nhw'n fwy blaengar na'r rhelyw o Gristnogion yn yr UDA. Mae Jim Wallis (enw mawr erbyn hyn yn sgil God's Politics) yn eitha gweithgar gyda'r mudiad hwnnw.
Mae erthygl reit ddeifiol a pherthnasol ar eu safle gwe nhw fan hyn (bosib fod angen cofrestru os nad wyt ti wedi gwneud hynny'n barod, ond dydyn nhw ddim yn gofyn am llawer o wybodaeth).
Dwi'n ffan mawr o waith Jim Wallis mae wir yn chwa o awyr iach. Dwi'n derbyn cylchgrawn Sojuners yn fisol ac wedi darllen God's Politics hefyd, gwych.
Post a Comment