4.12.07

Gwirionedd? This is my truth tell my yours...

Fis Medi 1998 rhyddhaodd y Manic Street Preachers eu pumed record hir sef This is my truth tell my yours. Dyfyniad o eiddo sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, Aneuryn Bevan, yw teitl y record. Mae'r dyfyniad yn grynodeb o feddwl yr oes rydym ni'n byw ynddi bellach. Fe all academwyr a llenorion bendroni a dadlau ynghylch ystyr a nodweddion yr oes ôl-fodernaidd hyd syrffed ond i mi does ond rhaid i mi edrych drwy fy nghasgliad cryno ddisgiau i ganfod y diffiniad cryfaf. Prif gonglfaen ôl-foderniaeth yw'r honiad nad oes yna'r fath beth a sicrwydd, rhaid gwrthod y posibilrwydd hyd yn oed fod yna'r ffasiwn beth ac un gwirionedd cosmig a therfynol. Fodd bynnag cyn edrych ar ôl-foderniaeth rhaid edrych a'r foderniaeth.

Oddeutu 1750 dechreuodd shifft ddiwylliannol mawr yn y gorllewin ac fe annwyd y mudiad yr adnabuwn heddiw fel moderniaeth. Seiniodd utgyrn moderniaeth yn glir yn y Chwyldro Ffrengig ac fe dyfodd y mudiad a'i syniadaeth o nerth i nerth hyd danchwa ddychrynllyd Yr Ail Ryfel Byd. Er fod ei hathronwyr yn dra cymhleth i'w deall a'i dehongli ar adegau roedd prif gonglfaen ei chredo yn ddigon clir i bawb sef y gred fod gan y ddynoliaeth bopeth oedd angen arni eisoes i feistroli'r byd a'i bethau - rheswm. Credwyd y bydd modd yn y diwedd ateb holl gwestiynau dyrys dyn o ddarganfod lled a maint y bydysawd, mecaneg y llaw ddynol a hyd yn oed tynged derfynol y ddynoliaeth. Credwyd bod yr ateb i hyn oll i'w ganfod trwy reswm dyn. Roedd gan ddyn y gallu oddi fewn iddo ef ei hun, ond iddo ei ysgogi, i ddatrys pob un dirgelwch. Un o brif themâu eraill moderniaeth oedd ei bwyslais ar unffurfiaeth - nid oedd yn rhoi lle i blwraliaeth. Dyma'r wedd o foderniaeth law yn llaw a honiad Hegl fod y popeth yn ymgnawdoliad o dduw a ddaeth a moderniaeth i'w ben-llanw dychrynllyd yng nghyfundrefn dotalitaraidd ffasgaidd y Natsiaid. Yn yr Almaen yn nhri degau'r ugeinfed ganrif trowyd yr hil a'r wladwriaeth yn eilyn – fe gymerodd le Duw – ac fe ŵyr pawb beth oedd y canlyniadau hyll. Bellach mae myfyrwyr a disgyblion ysgol yn ymweld ac yn profi drostynt hwy eu hunain blentyn siawns moderniaeth yn Auschwitz.

Syrthiodd moderniaeth yn fflat ar ei wyneb ac fel ymateb i foderniaeth gymaint a datblygiad ohono y ganwyd ôl-foderniaeth. Mae ôl-foderniaeth yn gymhleth ac er i mi gyfeirio eisoes at y cymal this is my truth tell me yours fel diffiniad posib maen anodd i ddiffinio mewn gwirionedd. Ag a dweud y gwir byddai gwir ddilynwyr ôl-foderniaeth yn dadlau fod y syniad o geisio gosod un ddiffiniad iddo yn rhedeg yn groes i holl ysbryd ôl-foderniaeth beth bynnag – 'dyma fy niffiniad i beth yw dy un di?' Lle roedd moderniaeth yn ddathliad o hunan hyder a hunan glod y ddynoliaeth mae ôl-foderniaeth yn pwysleisio gostyngeiddrwydd ac ymwadiad. Lle roedd modernwyr yn datgan fod yna reswm cosmig i'w ganfod trwy resymeg dyn fe ddadleua ôl-foderniaeth nad oes rheswm ond yn hytrach 'rhesymau'. Lle roedd yna gred mewn gwirionedd fe sonia ôl-foderniaeth am y 'gwirioneddau'.

Gwahaniaeth pwysig arall rhwng moderniaeth ac ôl-foderniaeth yw agwedd y ddwy at ysbrydolrwydd a'r cysyniad o dduw. Ceisiodd moderniaeth ladd duw, neu o leiaf ddwyn ymaith ei wedd ysbrydol a'i esbonio'n unig yng nghyd destun esboniadau megis rhai seico-analasis, yn achos Freud, ac ofergoeliaeth y dychymyg, yn achos Marx. Gan mai elfen o ddychymyg dyn yn unig oedd duw i'r modernwyr credasant fod modd ei fanipiwleiddio drwy gyfundrefnau addysg i ba bynnag ddiben y gwêl y wladwriaeth orau. Mae ôl-foderniaeth wedi rhoi ail-enedigaeth i dduw, a menthyg gair eingl-americanaidd, maen “ok” bellach i gredu mewn duw a phethau ysbrydol. Dyma ddywed Alister McGrath yn ei lyfr The Twilight of Atheism (2004):

Although many postmodern writers identify themselves as atheists... this does not for one moment imply or entail that there is no God. Postmodernity affirms a philosophical modesty, noting limits to our knowledge; it does not – and, indeed, cannot – make declarations concerning what exists and what does not exist. [tt. 226-7]   


Mae hyn wrth gwrs yn gwbl gyson gyda'r gosodiad this is my truth tell me yours – 'dwi ddim yn credu mewn duw ond os wyt ti yna grêt dwi'n falch drosta ti'.

Mae'r her i Gristnogion ac i'r Eglwys wedi newid felly wrth i'n cymdeithas ni newid o fod yn un modernaidd i fod yn un ôl-fodernaidd. Nid brwydr dros y gwirionedd mae'r Eglwys yn ei wynebu bellach ond brwydr i argyhoeddi fod yna'r fath beth a gwirionedd o gwbl. Er mai crefydd sy'n sôn am edifarhau yw Cristnogaeth a'r un ystyr maen grefydd ddi-edifar gan ei bod hi, yn groes i duedd yr oes, yn honni gwirionedd terfynol. Does ond rhaid cyfeirio at rai o adnodau mwyaf cyfarwydd y Beibl i ddangos hyn: 'Myfi yw'r ffordd a'r gwirionedd a'r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi.' (Ioan 14:6) 'Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall, oblegid nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roi i'r ddynolryw, y mae'n rhaid i ni gael ein hachub drwyddo.' (Actau 4:12) Er fod ôl-foderniaeth yn derbyn crefydd, oherwydd ei fod yn derbyn popeth, mae yna anhawster yn codi wrth ofyn i ôl-foderniaeth dderbyn Cristnogaeth. Mae Cristnogaeth yn grefydd sy'n hawlio gwybodaeth am wirionedd absoliwt am bwrpas a threfn y byd ond ni rydd ôl-foderniaeth le i wirionedd absoliwt.

Gadewch i ni droi yn ôl at y dyfyniad o'r casgliad recordiau eto – this is my truth tell me yours. I ddechrau gwerth fyddai i ni edrych ar y gair truth – gwirionedd. Nid yw'r gair gwirionedd yn perthyn i fyd teimlad na'r emosiwn, yn ei hanfod maen air gwyddonol. Cymerwch fod un person yn honni fod 1 + 1 yn gwneud 2 ac fod rhywun arall yn honni i'r gwrthwyneb fod 1 + 1 yn gwneud 3. Mae'r person cyntaf yn dweud y gwir ac mae'r ail-berson yn euog o anwiredd – ni fyddai neb yn dadlau gyda hynny. Ffolineb fyddai dadlau fod ateb y ddau, er yn wahanol, yr un mor gywir a'i gilydd – a defnyddio un o hoff eiriau moderniaeth y mae 'rheswm' yn dangos hynny'n glir i ni. Eto i gyd onid dyma yw cri fawr ôl-foderniaeth – this is my truth tell me yours? Er mai nid gwyddor ac iddo gyfyngiadau o fewn ei ddisgyblaeth ei hun yw Cristnogaeth ac y perthyn yn hytrach i'r sffêr ysbrydol y mae'r rhesymeg ac ystyr y gair 'gwirionedd' yr un peth. Fy nadl syml i yw ei bod hi'n amhosib ac yn an-rhesymegol credu ei bod hi'n bosib cael mwy nag un gwirionedd yn y sffêr ysbrydol gymaint ag mewn mathemateg.

Oni chofia Eglwys Crist ei bod yn pregethu gwirionedd am waith iawnol Crist dros y ddynoliaeth fe gyll ei grym a'i sêl genhadol – onid ydym wedi gweld hynny eisoes? Nid yw honni, neu wybod, fod y gwirionedd yn eich meddiant heb ei beryglon chwaith. Yn achos y bobl uchod oedd mewn dadl am 1 + 1 = 2 ac 1 + 1 = 3 nid yn unig y credwn mae'r cyntaf sy'n gywir ond fe gredwn hefyd fod yr ail yn anghywir a hynny o argyhoeddiad; wrth edrych ar fathemateg mae hyn yn amlwg. Ond efallai ein bod ni'n dal yn ôl wrth drosi'r rhesymeg yma at fater ysbrydol? Os y credwch mae'r gwirionedd yw mai Iesu yw'r unig ffordd yna fe ddylai ddilyn yn resymegol y credwch (er y parchwch yr unigolyn bid siŵr) fod y person sy'n credu i'r gwrthwyneb yn sylfaenol anghywir. Y realiti yma sydd wedi peri, yn anffodus, i'r Eglwys a Christnogion fod yn euog ar wahanol adegau mewn hanes o fod yn hunan-gyfiawn a snobyddlyd. Ymateb i geisio dad-wneud y niwed yma yw'r duedd ymysg rhai Eglwysi a Christnogion i wadu gwirionedd absoliwt Cristnogaeth. Pen y daith yma oedd i Eglwysi beidio pregethu'r efengyl yn ei lawn ogoniant a phan gyll yr efengyl ei thramgwydd fe dro'r Eglwys yn ddim byd mwy na chymdeithas ddiwylliannol arall – un ymhlith nifer.

Mewn oes ôl-fodernaidd sydd wedi gwahardd gwirioneddau absoliwt i ddynoliaeth sydd, fe dybiaf, yn chwilio am y gwirionedd, yn chwilio am bwrpas ac yn chwilio am le lle gall roi ei ben i lawr a lle gall ollwng ei angor y mae'r ffydd Gristnogol yn hynod atyniadol. Os y ceisir cyfaddawd rhwng ôl-foderniaeth a Christnogaeth fe gyll Cristnogaeth ei rym a'i phwrpas. Sylfaen y gwirionedd Cristnogol yw Iesu Grist a'r cymodi sydd rhwng dyn a Duw trwyddo a dyna fydd rhagdyb ac asgwrn cefn cyfres o ysgrifau yn gyntaf ar y blog dros y misoedd nesaf ac o bosib i'w cyhoeddi rhywle?

No comments: