23.1.08

Eciwmeniaeth ac Undod yng Nghrist

Mae undod Cristnogol yn wahanol i Eciwmeniaeth; hefyd rhaid gwahaniaethu rhwng y cysyniad o eciwmeniaeth a'r 'mudiad eciwmenaidd' (Noel Davies et al.) - mudiad rhyddfrydol oedd y mudiad eciwmenaidd a fethodd; ac fe fethodd oherwydd ei fod yn rhy barod i ildio tir ar yr hyn oedd llawer o bobl yn gweld yn greiddiol i'r ffydd. Er mae nid athrawiaeth yw'r be all and end all fe aeth y mudiad eciwmenaidd yn rhy bell a thaflu allan athrawiaeth yn llwyr ar gwaddol oedd this is my truth tell me yours - ildiwyd tir ar yr unig gwir ffactor oedd yn uno pobl sef Crist a'r dealltwriaeth ohono a'i waith.

Roedd rhywbeth ffug a forced iawn am y mudiad eciwmenaidd; roedd yn cael ei wthio mlaen gan bobl yn hytrach na gan weledigaeth ysbrydoledig. Roedd yn cael ei arwain gan bobl oedd mewn panics ac am achub yr hyn oedd ar ol o'r hen anghydffuriaeth yn hytrach na gan bobl oedd am weld gwawr newydd. Adain yr Eglwys oedd yn dirywio oedd yn cefnogi eciwmeniaeth - nid oedd gan Efengylwyr (boed o fewn enwadau neu tu allan) fawr ddiddordeb yn y mudiad eciwmenaidd ond yr adain yma oedd yn dal tir ac yn tyfu. Heb gefnogaeth yr adain o'r Eglwys oedd yn dal tir neu'n tyfu roedd y mudiad eciwmenaidd yn doomed o'r cychwyn.

Ond ers diwedd y nawdegau mae rhyw fath o eciwmeniaeth by proxy wedi bod yn datblygu. Maen fath gwahanol i'r hen fudiad eciwmenaidd oherwydd ei fod yn digwydd yn gwbl naturiol heb unrhyw unigolion na mudiad yn gwthio'r peth ac yn fwyaf allweddol mae'n dod o fy nghenhedlaeth i. Tra oedd rhin ddiwinyddol y mudiad eciwmenaidd yn ryddfrydol mae rhin eciwmenaidd is-ymwybod heddiw yn efengylaidd a dyna yw'r allwedd. Gan fod yr hen do rhyddfrydol yn marw i ffwrdd (yn llythrenol ac o ran dylanwad) yn yr Eglwysi mae'r ffordd yn glir i eglwysi a fy nghenhedlaeth i ddychwelyd at ffydd efengylaidd sef cyfundrefn ffydd wreiddiol yr holl eglwysi Cymraeg. Dros y flwyddyn ddiwethaf dwi wedi mynychu gweithgareddau ieuenctid yr Hen Gorff, Yr Annibynwyr a'r Mudiad Efengylaidd ac mae'r pwyslaid wedi bod yr un mor efengylaidd ym mhob un ac yn fwyaf arwyddocaol, give or take llond dwrn, yr un bobl sy'n mynychu gweithgareddau y tri traddodiad - hynny yw nid yw o bwys i'm cenhedlaeth i pwy sy'n trefnu pa weithgaredd yr hyn sy'n bwysig yw'r efengyl a chymdeithas a chyd-Gristnogion - does ots o fewn fframwaith yr Hen Gorff, Anibyns neu Mudiad Efengylaidd.

Mewn gair - nid oes yna Gristnogion rhyddfrydol yn perthyn i fy nghenhedlaeth i - neu os oes yna rai nid ydyn nhw yn weithgar o gwbl sy'n golygu fod y ffordd yn glir i Gristnogion uno yn annibynol o ba bynnag draddodiad eglwysig yn ei enw Ef gan wybod y bydd Iesu yn siwr o gael y parch maen haeddu. Eciwmeniaeth naturiol - wedi rhyfyg rhyddfrydiaeth mae'r llong yn medru ail-gychwyn ar ei thaith OND fel y gwyr pawb does dim hanner gymaint ohonom ar ol bellach wedi storom rhyddfrydiaeth. Ond i gymharu a hanner canrif yn ol dwi'n meddwl fod ein cenhedlaeth ol-ryddfrydol ni yn llai ydym, ond yn fwy effeithiol.

No comments: