Cerdded yng Nghwm Idwal
Ers i mi symud i Fangor dwi wedi bod yn eiddgar i droedio tipyn ar hyd lethrau Eryri; nawr fod y tywydd yn dechrau gwella dwi wedi dechrau crwydro. Wythnos diwethaf fe es i Gwm Idwal gyda'r bwriad o gerdded o Fwthyn Idwal [1] i fyny at Lyn y Cwn [6]. Wedi'm dylanwadu gan flog Joss Jones dwi am adrodd am fy nghrwydradau ar y blog dros y misoedd nesaf. Felly dyma hanes y daith gyntaf.
i.) Parciais y car ym Mwthyn Idwal [1] sydd rhyw ddeng munud wedi i chi basio trwy Bethesda ar yr A5 o Fangor. Mae yna Faes Parcio pwrpasol yna yn ogystal a chaffi bach, sy'n gwerthu byrbrydau cynnes (Pastai ayyb...), panediau o de yn ogystal a nwyddau cerdded basic fel mennyg a cotiau glaw ysgafn. Mae toiledau cyhoeddus yn y fan hon yn ogystal – ni fydd unrhyw doiledau eraill en route felly gwagiwch eich pledren fan yma cyn cychwyn! Mae'r llwybr yn cychwyn i'r chwith o'r bloc toiledau.
ii.) Dilynais y llwybr cerrig pwrpasol o amgylch a chroesi pont bren fach ac yna parhau i ddilyn y llwybr cerrig amlwg tan i mi gyrraedd glannau Llyn Idwal. Wedi i chi gyrraedd y pwynt hwn parhewch i'r chwith tan i chi gyrraedd pwynt [2] lle byddwch yn pasio trwy giât fechan mewn wal gerrig.
iii.) Ar y pwynt yma fe es i y ffordd anghywir, ar ôl pasio trwy'r giât fe ddechreuais esgyn y llethr i'r chwith (h.y. y saethau oren) tan i mi gyrraedd pwynt [3] gan dybio mae dyma oedd y llwybr i fyny at Y Twll Du [5]. Roedd yr esgyniad yma yn serth tu hwnt ac fe gymerodd dipyn o egni allan ohona i! Erbyn i mi gyrraedd pwynt [3] roeddwn yn medru gweld mod i wedi cymryd y llwybr anghywir ac fe gerddais yn ôl i lawr y llethr ac ail ymuno a'r saethau coch. Y rheswm i mi gymryd y troad anghywir ar y pwynt yma oedd oherwydd fod y llwybr heb ei nodi'n glir gyda llinell ddotiog werdd ar y map OS – mae'r llwybr o lan Llyn Idwal ar hyd ochr y llyn i fyny at bwynt [4] yn linell ddotiog ddu ar y mapiau OS.
iv.) Ar ôl i mi ail ymuno a llwybr y saethau coch dechreuais esgyn llethrau Cwm Idwal o ddifri [4]. Roedd y llwybr yma yn fwy o sialens nag yr oedd yn ymddangos ar y map ac nid oedd y llyfr cerdded mewn gwirionedd wedi nodi y peryglon chwaith. Er fod yr esgyniad ar hyd llwybr cerrig sydd wedi ei beiriannu gan y Parc Cenedlaethol maen parhau i fod yn dipyn o sialens gan fod y camau rhwng y creigiau yn fawr ar adegau ac maen rhaid i chi lamu dros nentydd bach a rhaeadrau fan hyn fan draw. Rhaid oedd defnyddio eich dwylo ar adegau i ddal balans – ddim cweit yn sgramble, ond roedd angen gwneud mwy na 'cherdded' fynny'r llwybr. Amwni fod y rhan yma o'r daith wedi bod yn annoddach nag y dyliasai fod oherwydd ei bod hi wedi rhewi yn galed y noson cynt ac felly roedd llawer o'r nentydd a'r rhaeadrau wedi rhewi'n binwydd gan adael rhannau llithrig tu hwnt ar y llwybr.
v.) Wedi pasio pwynt [4] roedd y llwybr yn mynd yn gynyddol fwy serth, creigiog ac anodd i'w wneud allan. Fan yma y bwriad oedd esgyn i dop llethrau Cwm Idwal a chodi trwy y Twll Du [5] ac yna ymlaen i Lyn y Cwn [6]. Gyda llaw nid yw'r 'twll' yma ar dop y llethrau yn amlwg tan eich bod chi bron a bod yna felly peidiwch ac ofni eich bod chi o bosib yn esgyn y llethr anghywir gan nad ydy'r bwlch yn glir wrth i chi weithio tua'r top. Wrth i mi nesáu at y Twll Du roedd y rhew caled yn mynd yn fwy o drwch ar y llwybrau ac ar y clogwyni uwch fy mhen roedd pinwydd yn haul y prynhawn wedi dechrau toddi a syrthio'n dameidiau mawr i lawr o'm cwmpas! Felly ar y pwynt yma [5] penderfynais nad oedd hi'n ddiwrnod addas i barhau trwy'r Twll Du tuag at Lyn y Cwn.
vi.) Syrthiais i lawr y llethrau gan ddilyn y llwybr ochr arall y Llyn y tro hwn. Gwerth nodi fod y llwybr yr ochr yma yn dipyn fwy anodd a serch na'r ochr lle esgynnais [4]. Felly o ddewis esgynnwch yr un ochr a gwnes i a syrthiwch yr un ochr a gwnes i, os nad syrthio yr un ochr a [4] hefyd. Dilynais y llwybr o amgylch ochr draw y Llyn (sy'n linell ddotiog werdd ar fapiau OS) ac yna ail-ddilyn y llwybr yn ôl i'r Car.
Roeddwn wedi siomi i mi fethu ac esgyn trwy'r Twll Du; ond gan mod i yn cerdded ar ben fy hun, tipyn o ia ar hyd lle a'r signal ffon yn anwadal dwi'n meddwl i mi wneud y peth call wrth droi yn ôl ar dop y llethrau a pheidio parhau i Lyn y Cwn.
Offer Angenrheidiol: Yr unig offer angenrheidiol ar gyfer y daith yma ydy sgidiau cerdded addas gyda'r boot yn codi dros eich ffêr i'w gynnal ynghyd a chot a throwser dal dwr os bydd hi'n dywydd gwlyb. Hyd yn oed ar ddiwrnod braf gall fod yn gythreulig o oer allan o gysgod yr haul yn llethau'r Cwm.
Map OS: Explorer Map OL 17
Dwi am fynd i gerdded eto Ddydd Sadwrn – wn i ddim i ble eto – unrhyw syniadau?
1 comment:
Dos i fyny Moel Siabod, ddim yn ofnadwy o serth os gymri di'r llwybr o Gapel Curig a golygfa werth chweil o'r copa os fydd hi'n glir!
Post a Comment