28.2.08

MYFYRWYR YN DYFARNU GRADDAU I'R PRIFYSGOLION

Heddiw, ar ddiwrnod canlyniadau semester un y myfyrwyr mi fydd y myfyrwyr eu hunain yn dyfarnu graddau i Brifysgolion Aberystwyth a Bangor. Dywed Bethan Griffiths, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth:

“Os ydy'r Prifysgolion yn ein arholi ni maen ddigon teg i ni arholi eu darpariaeth Cymraeg nhw! Ein gobaith ni yw dangos fod yna rai cryfderau gan y Prifysgolion, y pynciau sy'n draddodiadol dda gydag addysg Gymraeg fel Hanes ond fod y Prifysgolion yn parhau i gael marciau isel, ac yn methu yn llwyr weithiau, gyda phynciau eraill fel rhai gwyddonol. Nid yw myfyrwyr yn derbyn gradd oni bai iddynt sgorio'n dda ym mhob modiwl yn yr un modd rydym ni'n disgwyl i'r Prifysgolion ddarparu addysg Gymraeg mewn amrediad eang o bynciau nid dim ond mewn rhai.”


Mae Myfyrwyr Aberystwyth wedi rhoi’r enghreifftiau canlynol fel pynciau sydd yn cael 2.1 am eu darpariaeth Cymraeg: Drama a Hanes. Mae'r enghreifftiau canlynol wedi eu dyfarnu a 2.2 gan y myfyrwyr: Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Daearyddiaeth. Ond mae yna adrannau sydd yn parhau i fod ar ei hol hi gyda ddarpariaeth Gymraeg megis Astudiaethau Gwybodaeth ac adrannau Gwyddonol, trydydd dosbarth rhoddir i rhain.

Yn yr un modd mae Myfyrwyr Bangor wedi dyfarnu gradd 2.1 i'r adran Gerdd fel enghraifft o adran sy'n darparu llawer trwy gyfrwng y Gymraeg; 2.2 i'r Adran Coedwigaeth a’r Amgylchedd fel enghraifft o adran sydd a pheth darpariaeth cyfrwng Cymraeg ond â llawer o le i wella a thrydydd dosbarth i'r Adran Gwyddorau Eigion fel enghraifft o adran sy'n wan iawn eu darpariaeth ar hyn o bryd.

Cred y myfyrwyr ei bod hi'n arwyddocaol nad oes yr un adran wedi eu dyfarnu a dosbarth cyntaf o ran eu darpariaeth Cymraeg. Fe ddywed Bethan Williams, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor:

“Rydym ni'n cefnogi'r datblygiadau sy'n cymryd lle ar hyn o bryd i ddatblygu Addysg Gymraeg yma ym Mangor ac yn Aberystwyth, fodd bynnag, credwn fod tipyn o waith gan y Prifysgolion i wneud eto cyn y medrwn ni fel myfyrwyr ddyfarnu gradd dosbarth cyntaf i unrhyw adran am eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Fel myfyrwyr credwn mae dim ond wedi i'r Coleg Ffederal Cymraeg, sydd wedi ei addo gan y Llywodraeth Glymblaid, ddod i weithrediad y gwelw ni addysg Gymraeg yn cymryd camau breision ymlaen.”


Ni theimla'r myfyrwyr y bod Prifysgol Caerdydd yn barod i sefyll yr arholiadau hyd yn oed gan fod eu darpariaeth Cymraeg nhw yn anweledig i bob pwrpas. Cred y Myfyrwyr y bod yn rhaid i'r Llywodraeth gynyddu eu cyllideb o £4.3 miliwn dros dair mlynedd i ddatblygu addysg Gymraeg i o leiaf £15 miliwn os am wireddu eu haddewid o Goleg Ffederal Cymraeg gyflawn ac effeithiol.

- Mi fydd Myfyrwyr Aberystwyth yn cyflwyno canlyniadau gradd Prifysgol Aberystwyth i'r sefydliad o flaen Yr Hen Goleg am 1pm, Dydd Iau yr 28ain o Chwefror.

- Mi fydd Myfyrwyr Bangor yn cyflwyno canlyniadau gradd Prifysgol Bangor ar risiau Prif Adeilad y Celfyddydau am 10 fore Iau yr 28ain o Chwefror.


Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Bethan Griffiths (Aberystwyth): 01970 621739 / 07764260670
Bethan Williams (Bangor): 01248 388 006 / 07981 343313

Beth yw Coleg Ffederal Cymraeg? Dogfen YMA (PDF)

No comments: