2.3.08

Concro Tryfan

Heddiw fe goncrais Tryfan. Roedd hwn yn dipyn o sialens ac rwy'n deall yn iawn nawr pam fod cymaint wedi pwysleisio i mi cyn dechrau “mi wyt ti yn gwbod fod Tryfan yn sgramble yn dwyt?” Dyma hanes y daith.



i.) Fel fy ymweliad diwethaf ar ardal parciais y car ym Mwthyn Idwal [1] sydd rhyw ddeng munud wedi i chi basio trwy Bethesda ar yr A5 o Fangor. Mae yna Faes Parcio pwrpasol yna yn ogystal a chaffi bach, sy'n gwerthu byrbrydau cynnes (Pastai ayyb...), panediau o de yn ogystal a nwyddau cerdded basic fel mennyg a cotiau glaw ysgafn. Mae toiledau cyhoeddus yn y fan hon yn ogystal – ni fydd unrhyw doiledau eraill en route felly gwagiwch eich pledren fan yma cyn cychwyn! Mae'r llwybr yn cychwyn i'r chwith o'r bloc toiledau.

ii.) Dilynais y llwybr cerrig pwrpasol o amgylch a chroesi pont bren fach ac yna parhau i ddilyn y llwybr cerrig amlwg tan iddo ddechrau troi i'r chwith [2]. Yn y fan yma dilynwch y llwybr ychydig llai amlwg ac anelu at waelod y nant sy'n dod lawr ymyl y bryn o'ch blaen [3]. Erbyn hyn dylai'r llwybr fod yn gliriach.

iii.) Dringwch y llwybr o bwynt [3] i bwynt [4]. Er fod y llwybr yn un pwrpasol maen serth... wel yn fwy serth nag y tybiais y byddai o edrych ar y map. Ar ôl i chi gyrraedd pwynt [4] ar lannau Llyn Bochlwyd. Croeswch y nant sy'n arwain allan o'r llyn ac yna dilyn y llwybr amlwg o [4] heibio [5] ac yr holl ffordd fyny i [6] sef Bwlch Tryfan. Ar gymal olaf y rhan yma mi fydd y llwybr yn mynd yn annelwig ond erbyn hynny fe ddyliech weld wal gerrig ar y brig, anelwch at hwnnw.

iv.) Fe ddyliaswn wedi troi i'r chwith ychydig cyn cyrraedd y wal a dilyn y linell doredig ddu a phasio'r 'Far South Peak' ar yr ochr chwith ar y ffordd i'r copa. Ond rhywsut fe gollais y llwybr a cael fy hun ar lethrau ochr dde y South Peak [7] oedd yn dipyn o sialens a dweud y lleiaf. Wedi ambell i naid a gafaeliad medrus (yn ogystal a gair o Weddi) llwyddais drwy ragluniaeth Duw i lusgo fy hun fyny dros ymyl y South Peak ac ail ymuno a'r briffordd i'r copa. Maen debyg nad oeddwn mewn cymaint a hynny o drafferth ond i mi, heb fawr o brofiad, roedd yn dipyn o fraw.

v.) Wedi ail ymuno a'r brif lwybr roedd yn reit syml o fan yna i'r brig [8] er bod y sgramble yn dipyn o waith caled ar adegau ac roedd rhaid i chi wylio eich cam a dal eich balans yn gall. Yn ystod y dringiad olaf yma y gwnes i ddyfaru nad oedd par o fennyg gyda mi, nid oherwydd yr oerfel ond oherwydd fod y creigiau roedd rhaid i chi ddal gafael tyn arnyn nhw yn rai garw. Oherwydd y gwynt cryf yn ogystal a'r ffaith mod i wedi fy ysgwyd braidd gyda fy near miss yn [7] ni fentrais ddringo Adda ac Efa, y ddau bolder mawr sydd ar y brig. Dyma fideo gymerais ar y digidol ar y brig:



vi.) Roeddwn ni'n benderfynol o ddilyn llwybr haws a llai peryglus ar y ffordd i lawr felly yn hytrach na dilyn y sgramble i lawr yr holl ffordd nol i fwlch tryfan fe ddilynais lwybr nant fach i lawr llethr orllewinol Tryfan ac ail ymuno a'r llwybr pwrpasol yn [5]. Ac yna ail-ddilyn yr un llwybr yn ôl i'r Maes Parcio ym Mwthyn Idwal.

Dwi'n eithriadol o falch mod i wedi concro Tryfan heddiw yn enwedig felly gan ei bod hi wedi bod yn ddiwrnod gwyntog iawn ar y llethrau – hanner ffordd fyny roeddwn ni'n dechrau poeni y byddai rhaid i mi roi'r gorau iddi oherwydd y gwynt.

Offer Angenrheidiol: Sgidiau cerdded addas gyda'r boot yn codi dros eich ffêr i'w gynnal ynghyd a chot a throwser dal dwr os bydd hi'n dywydd gwlyb. Hyd yn oed ar ddiwrnod braf gall uchelderau Tryfan fod yn oer iawn gyda'r win chill. Bydd angen mennyg hefyd arnoch i amddiffyn eich dwylo rhag y creigiau garw wrth Sgramblo.



Map OS: Explorer Map OL 17

1 comment:

Linda said...

Campus! Diolch am yr hanes.