8.2.08

Rowan "Sharia" Williams?

Mae'r Archesgob Rowan Williams wedi tynnu nyth cacwn i'w ben prynhawn yma drwy ddweud y bod hi'n “anorfod” y bydd rhai agweddau o gyfraith Sharia Islam yn dod yn rhannau cydnabyddedig o gyfraith gwledydd y DG. Mae'r gwleidyddion wedi pellhau eu hunain yn syth bin o safbwynt Rowan, fe ddywedodd Gordon Brown ei fod yn credu y dylai “British laws should be based on British values" ac fe ddywedodd Nick Clegg, arweinydd newydd y Lib Dems "Whilst having an enormous amount of respect for Rowan Williams, I cannot agree with his conclusions on this issue.”

Beth wna i o sylwadau Rowan? Fy ymateb cyntaf oedd anghytuno'n gryf, wedi'r cyfan dwi ddim yn cytuno gyda unrhyw fath o theocratiaeth, ddim hyd yn oed theocratiaeth Gristnogol heb son am theocratiaeth Islamaidd. Ond o wrando ar sylwadau Rowan drosof fi fy hun (clec yma i wneud) rwy'n gallu deall a gwerthfawrogi ei sentiment. Yn fras yr hyn maen dadlau, o beth y deallais i, yw y dylai Moslemiaid gael yr hawl i ddelio gyda phroblemau megis dyledion ariannol a thrafferthion priodasol oddi mewn i'w system gyfreithiol diwylliannol penodol nhw (h.y. Sharia) ac y dylai cyfraith y DG barchu a dilysu dyfarniad y broses Sharia. Roedd Rowan yn pwysleisio fod y dewis yna i fodoli, pe bai gwell gan un ochr o'r ffrwgwd ddefnyddio'r system gyfreithiol brif-ffrwd yna dyna fyddai'n digwydd – byddai'n rhaid i'r ddwy ochr optio i mewn cyn i unrhywbeth gael ei broses trwy gyfryngau Sharia.

Roedd Rowan yn brysur i ychwanegu na ellid derbyn rhannau o Sharia a fyddai'n rhedeg yn groes i hawliau-dynol yn enwedig gan gofio fod rhaid gwarchod hawl merched, hawl sydd yn go-brin yn y Sharia. Ond wedyn y cwestiwn yw hyn, lle mae tynnu'r llinell? A phwy sydd i farnu pa rannau o'r Sharia sydd yn oce a pha rannau sy'n no way? Gorllewinwyr mwy na thebyg ac mae hynny yn annhebygol o fod at ddant Moslemiaid fydd ond yn edrych ar y fath weinyddu fel y Gorllewinwr yn codi ei hun i statws “pwysicach” na'r Moslem. Er fod yna le i arweinwyr eglwysig wneud sylwadau am faterion ehangach na bywyd eglwysig yn bersonol mi fuasai gwell gennyf i weld Rowan Williams, fel pen-bandit un o eglwysi Cristnogol “protestannaidd” mwyaf y byd, yn canolbwyntio mwy ar adfer teyrnas Crist yn hytrach na thynnu nythod cacwn i'w ben o hyd. I ninau'r anghydffurfwyr nid yw cael ein “derbyn” gan gyfraith gwlad rioed wedi bod yn issue, o bosib fod y broblem hon yn poeni Rowan oherwydd ei fod yn arwain Eglwys Sefydledig sy'n gorfod poeni am ei statws “gyfreithiol” o fewn y sefydliad.

2 comments:

Huw said...

Fi'n anghytuno gyda "Er fod yna le i arweinwyr eglwysig wneud sylwadau am faterion ehangach na bywyd eglwysig yn bersonol mi fuasai gwell gennyf i weld Rowan Williams, fel pen-bandit un o eglwysi Cristnogol “protestannaidd” mwyaf y byd, yn canolbwyntio mwy ar adfer teyrnas Crist yn hytrach na thynnu nythod cacwn i'w ben o hyd"
Mae'n dibynnu beth wyt ti'n olygu gan "adfer teyrnas Crist", ond fi'n cymryd taw rhywbeth along the lines o gael 'bums on seats' nol yn yr eglwysi/capeli ti'n golygu. Os felly, fi'n credu fod yr hyn ma'r Archesgob yn ei wneud/ddweud actually yn eitha perthnasol i hynny am ei fod e'n dangos fod na le i Gristnogaeth/Crefydd yn y byd gwleidyddol, seciwlar, ac y gall y beibl yn 'informio' (sori!) ni ar ffurf cymdeithas fodern ddelfrydol. Ok, dyw hyn ddim yn efengylu traddodiadol, ond dwi ddim yn gweld fod efengylu traddodiadol yn cael llawer o lwc dyddie 'ma. Mae rhan helaeth o'r boblogaeth yn 'disenfranchised' o Gristnogaeth, a'r cam cyntaf fydde ni'n dweud, yw dangos iddyn nhw fod Cristnogaeth/Crefydd yn parhau i fod yn relevant heddiw. (Falle nai geisio ysgrifennu am hyn fy hunan, ond ma cadw blog a chadw swydd yn beth annodd i wneud!)

Rhys Llwyd said...

Diolch am y sylwad Huw:

"Mae'n dibynnu beth wyt ti'n olygu gan "adfer teyrnas Crist", ond fi'n cymryd taw rhywbeth along the lines o gael 'bums on seats' nol yn yr eglwysi/capeli ti'n golygu."

Ddim o gwbl. Nid yw'n agenda gena i gael mwy o bums on seats, yr agenda sgenai a phob Cristion yw dod a mwy o bobl i berthynas gyda Christ, ac yn ein dydd ni mae hynny'n golygu, mwy na thebyg, ffurfiau newydd o eglwysi ac nid ail lenwi'r hen grageni.