13.3.08

Y Gyllideb, Petrol Car a Trenau gwael Cymru

Maen ddiwrnod y gyllideb heddiw a dyma fydd y gyllideb gyntaf i'w draddodi gan rywun heblaw am Gordon Brown ers dros ddengmlynedd - Alister Darling fydd yn ei thraddodi heddiw. Un o'r cwestiynnau sydd wastad yn codi adeg y gyllideb ydy treth ar danwydd yn arbennig tanwydd petrol i geir. Mae pris petrol wedi codi 19% year-on-year dros y flwyddyn diwethaf, cynydd sylweddol iawn; pan yn llenwi'r Ddraig (fy Almera Coch!) mae tanc o betrol yn costio'n agos i £50 bellach cynnydd sylweddol er pan gychwynais fy ngyrfa fel perchenog car ddeunaw mis yn ol. Ond, er mod i yn yrrwr brwd ac aml (oherwydd y rheidrwydd i mi ddychwelyd i Aberystwyth o Fangor i bwyllgorau a ballu yn llawer amlach nag y buaswn yn dymuno) ac fod fy waled yn cael ei eiffeithio dwi, mewn theori, o blaid treth weddol uchel ar danwydd er mwyn annog mwy o bobl, fel fi, i wneud defnydd helaethach o drafnidiaeth gyhoeddus.

Fodd bynnag, os ydy'r llywodraeth am barhau i godi treth ar danwydd yna dwi'n meddwl fod hawl genym ni fel treth-dalwyr yma yng Nghymru i weld safon a dwyster y strwythur drafnidiaeth gyhoeddus yn gwella a phris trafnidiaeth gyhoeddus yn gostwng ac, ar y cyfan, nid ydy trafnidiaeth gyhoeddus yn gwella mewn cymhariaeth a chodi'r treth ar danwydd. Dyma ddau enghraifft, wythnos diwethaf fe es i a fy ffrind i Landudno, £5 yr un (felly £10 i gyd) oedd tocyn bws return o Fangor ac fe gymerodd y daith, un ffordd, 60 munud. Mi fyddai mynd yn y car ddim wedi costio mwy na £10, llai os rhywbeth ac mi fyddai'r daith, un ffordd, wedi cymryd ugain munud ar y fwyaf.

Dyma'r ail enghraifft, ddydd Gwener dwi a Menna yn teithio o Fangor i Gaerfyrddin. Pe bae ni i fynd ar y tren mi fyddai tocyn arferol ar y diwrnod yn costio £60 yr un (£120 rhwng y ddau ohonom) ac mi fyddai'r siwrne yn cymryd chwe awr a hanner! Mi fyddai'r Bws yn sylweddol rhatach, £10 dwin meddwl (felly £20 i gyd), ond byddai dal i gymryd chwe awr. O ran y car, gyda lonydd clir gellid gwneud y daith mewn teir awr a hanner, pedair awr ar y mwyaf, ac mi fyddai'r petrol yn costio rhyw £30 (£15 yr un).

Felly mewn gair, mae cyflwr trychunebus trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn ei gwneud hi'n rhy ddrud a rhy anghyfleus i boeni am yr amgylchedd! Codwch dreth ar danwydd ar bob cyfri ond maen rhaid buddsoddi mewn rhwydwaith drenau newydd i Gymru law yn llaw a hyn!

1 comment:

Rhys Wynne said...

Cytuno'n llwyr. Byddwn fwy na bodlon talu mwy am dren os yw'r gwasaneth yn wych, neu'n fodlon dioddef gwasaneth gwael(ish) petai'n ddull rhad o deithio, ond no way talu prisiau afresymol am wasaneth diffygiol. Dwi'n aml eisiau gadael y car a defnyddio'r tren pan yn mynd adref i'r gogledd neu iweld teulu'r wraig yn Efrog, ond hyd yn oed gyda phrisiau petrol uchel, odes dal dim cymhariaeth o gymharu a chost dau docyn tren.

Clywais ar y radio'n ddiweddar nad yw'r Cynulliad bellach ers blwyddyn neu ddwy yn rhoi rebate i gwmniau trafniaidaeth cyhoeddus bellach am ryw reswm - ac eto mae nhw'n gallu fforddio rhoi cymorthdal i'r gwasaneth awyr gogledd-de sy'n mynd yn groes i unrhyw bolisiau gwyrdd.