13.3.08

Pam fu Iesu farw? Mwy iddo nag y tybir yn wreiddiol dwin meddwl...

Wythnos yma daeth yr ail gwrs Alffa Cymraeg i ben ym Mangor ac wrth gyd-redeg y Cwrs gyda rhai o'm cyfeillion daeth un peth yn glir yn y ddeialog gyda'r mynychwyr oedd yn chwilio ond heb eto ddod i adnabod Duw*. Daeth i'r amlwg nad oedd y syniad o Iesu fel antidôt i bechod yn atyniadol ac nad oedd yn golygu dim byd i gymdeithas heddiw oherwydd fod y gymdeithas heddiw ddim yn gweld fod yna ddim o'i le i'r antidôt fynd i'r afael ag ef! Wrth gwrs yr ateb systematig i'r ddeilema yma byddai pwyntio allan nad oedd y mynychwyr wedi cael eu hargyhoeddi o'i pechod eto ac mae dyna fyddai'r cam cyntaf i werthfawrogi pam y bu Iesu farw. Er fod hynny wrth gwrs yn ysgrythurol gywir, mewn realiti nid yw hi'n ymarferol hel mynychwyr y cwrs Alffa adref a dweud wrthyn nhw ddychwelyd wedi iddyn nhw gael eu hargyhoeddi o'i pechod! Perodd y ddeilema hon i mi edrych yn ddyfnach i mewn i'r rheswm pam y bu Iesu farw ac fe wawriodd arna i y bod y groes a gwirionedd Iesu yn gymaint mwy nag antiodôt i bechod yn unig.

Yn llythyr Paul at y Philipiaid daw’n eglur fod croes a gwirionedd Crist wedi ein harfogi i wynebu problemau a helbulon y byd hwn yn ogystal a'n paratoi ar gyfer y daith olaf. Dyma rai enghreifftiau: does dim gwadu fod unigrwydd yn broblem enfawr yn ein cymdeithas heddiw – mae’n broblem sy'n cael ei guddio drwy ddibyniaeth pobl ar gwmni y teledu a chyfryngau tebyg. Yn adnodau agoriadol yr epistol at y Philipiad (1:1-11) mae hyder a gobaith Paul yn rhyfeddol a hynny yn wyneb yr unigrwydd difrifol yr oedd yn ei wynebu mewn cell. Ymhellach yn y bennod gyntaf mae Paul yn dangos sut mae croes a gwirionedd Iesu yn gynhaliaeth yn wyneb dioddefaint (1:12-18) a hyd yn oed marwolaeth (1:19-30). Ymlaen yn y drydedd bennod gwelwn groes a gwirionedd Iesu yn gynhaliaeth yn wyneb tensiynau a chynnen (3:1-11) a'r blinder (3:12-4:1) sy'n ein goddiweddid ni gyd o bryd i'w gilydd. Maen debyg mae'r cyflwr meddyliol sy'n llorio'r mwyaf o bobl heddiw yw pryder (anxiety) ac yn achos llawer o bobl mae'r cyflwr mor ddifrifol fel fod angen cymryd cyngor doctor a da o beth fod y cyngor hwnnw ar gael. Ond fe all y Meddyg Da yn ogystal a'r GP ein cynnal a'n cynorthwyo pan yn wynebu pryder difrifol, oherwydd fel y dywed Paul:

'Llawenhewch yn yr Arglwydd bob amser; fe'i dywedaf eto, llawenhewch. Bydded eich hynawsedd yn hysbys i bob dyn. Y mae'r Arglwydd yn agos. Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil, ynghyd â diolchgarwch' (3:4-6)
.

Yn olaf mae croes a gwirionedd Iesu yn gynhaliaeth i ni yn wyneb tlodi (4:10-23).

Dwi'n gobeithio fod mynychwyr y Cwrs Alffa wedi cael budd, mi ges i fel un o'r trefnwyr fudd yn sicr a gwnaeth les i mi ystyried o'r newydd pam y bu Iesu wir farw ar y Groes? Do fe fu farw 'yn ein lle ni' ond roedd yn golygu gymaint mwy na hynny hefyd. Croeso mawr i chi fynychu Cyrsiau Alffa yn eich ardal chi.

Mwy o wybodaeth ar www.alffa.org

*Disclemer: Nhw eu hunain sy'n dweud hyn nid yfi sy'n collfarnu a neidio i gasgliadau. Maen eithriadol o bwysig i Alffa hefyd fod enwau y mynychwyr yn ysbryd 'what happens on tour stays on tour' yn aros yn guddiedig!

2 comments:

Anonymous said...

Hello. This post is likeable, and your blog is very interesting, congratulations :-). I will add in my blogroll =). If possible gives a last there on my blog, it is about the Smartphone, I hope you enjoy. The address is http://smartphone-brasil.blogspot.com. A hug.

gethin said...

rhywun di bod yn dilyn pregethu mark driscoll?
ti rioed di clywed am y cwrs "the world we all want"? mae'n gallu gweithio efo, neu yn lle, alpha neu christianity explored - mae'n gwrs gwych sy'n rhoi "overview" o'r beibl sy'n dangos pwysigrwydd y groes mewn ffordd sy'n llawnach - hefyd yn dangos difrifoldeb ein pechod mewn ffordd clir.
http://www.thecrowdedhouse.org/gccroom/evangelism/twwaw_overview