2.4.08

Fideo o weithredu CYIG neithiwr

Ymddiheuriadau fod y blog wedi bod yn dawel ers wythnos a mwy, dwi wedi bod i ffwrdd yn Llanw - gwyl Gristnogol Gymraeg newydd - cawsom ni amser bendithiol iawn ffilmiais dipyn yna felly gobeithio bydd adroddiad fideo o'r wyl fyny ar y blog cyn bo hir.

Yn y cyfamser dyma fideo a ffiliwyd neithiwr tra'n targedu Tesco a Morrisons Bangor fel rhan o ymgyrch genedlaethol i Weddnewid y Sector Breifat ac i bwysleisio fod yn rhaid i Rhodri Glyn gynnwys rhannau helaeth o'r sector breifat o fewn y Ddeddf Iaith Newydd sydd ar y ffordd. Chware teg i'r merched a finnau'r wimp yn dal y camera!

No comments: