24.3.08

The Passion, BBC a'r hyn a gyflawnodd Iesu

Dros y flwyddyn diwethaf 'dy ni wedi gweld gwleidyddion fel Gordon Brown a David Cameron yn mwynhau iwfforia mis-mêl gwleidyddol un diwrnod, a'r diwrnod nesaf yn plymio i waelodion y polau piniwn wedi i rhyw sgandal dorri ar y newyddion. Ond does 'run gwleidydd dros y flwyddyn diwethaf wedi gweld y ffasiwn newid agwedd o fewn amser mor fyr ag y wynebodd Iesu wythnos y Pasg. Gychwyn yr wythnos gorymdeithiodd yn fuddugoliaethus i fewn i Jerwsalem gyda'r torfeydd yn gweiddi: 'Hosanna! Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd, yn Frenin Israel!' (Ioan 12:13) ac erbyn diwedd yr wythnos roeddent yn bloeddio â chynddaredd 'Ymaith ag ef, ymaith ag ef, croeshoelia ef' (Ioan 19:15). Ond dim ond yn arwynebol y gellid mewn gwirionedd cymharu cwymp Iesu o boblogrwydd cyhoeddus â chwymp gwleidyddion heddiw. Fel yr esboniodd Iesu ei hun wrth gael ei groesholi gan Peilat: 'Nid yw fy nheyrnas i o'r byd hwn' meddai Iesu, gan ychwanegu; 'Pe bai fy nheyrnas i o'r byd hwn, byddai fy ngwasanaethwyr i yn ymladd, rhag imi gael fy nhrosglwyddo i'r Iddewon. Ond y gwir yw, nid dyma darddle fy nheyrnas' (Ioan 18:36). A hithau felly yn dymor y Pasg a rhagleni gwych y BBC, The Passion, wedi dod ar cyfan yn fyw i ni eto o'r newydd mae’n briodol i ni oedi ac ystyried pam? Dywedodd Iesu ei hun mae 'er mwyn hyn yr wyf fi wedi cael fy ngeni, ac er mwyn hyn y deuthum i'r byd' (Ioan 18:37). Ond beth yn union ydy'r hyn?

Fe soniais mewn blogiad blaenorol fod yr hyn yn cynnwys nerth i ddelio gyda phob anhawster y mae bywyd yn taflu yn eich wyneb ond maen bwysig i mi ail-fynegi'r hyn sy'n swnio bron a bod yn ystradebol bellach yn ein geirfa ni, do fe fu Iesu farw dros fy mhechod i a dy bechod di ac mae hynny, ar ddiwrnod ei atgyfodiad, yn golygu bywyd newydd yng Nghrist i bawb sy'n credu ac yn ei garu. Pasg Hapus!

No comments: