I'd do anything... fasw ni ddim
Mae Menna, fel pob merch maen siŵr, wedi dotio gyda'r gyfres 'I'd do anything' – y gyfres ar y BBC i ganfod y Nancy nesaf. Mae Tara Bethan, ein Tara ni (!), allan wrth gwrs ond mae diddordeb Menna yn y rhaglen yn parhau. Ond wrth gwrs rhan o ffenomenon gyffredinol y byd darlledu yw'r gyfres ddiweddaraf yma oherwydd yn perthyn i'r un categori y mae'r rhaglenni canlynol: Pop Idol, X Factor, Stricktly Come Dancing, Dancing on Ice, Fame Academy ac wrth gwrs cyfresi fel I'd do Anything ac How do you find a girl like Maria. Fe ymddengys mae dyma yw big hitters y diwydiant teledu ar hyn o bryd gyda'r BBC ac ITV yr un fath. Maen rhaid mae apel rhagleni o'r fath yw'r cyfuniad od o berfformio a chystadlu, dyma yw'r peth mawr, y peth diweddaraf ar hyn o bryd ym myd teledu Anglo-Americanaidd.
Ond echnos pan oedd y rhaglen mlaen wnaeth e fy nharo i nad yw cysyniad y rhaglenni yma yn ddim byd newydd i ni yng Nghymru, nid yw'r rhaglenni yma yn ddim byd mwy na fersiynau cyfoes a jazzed-up o'r Eisteddfod!
2 comments:
Wi'n cytuno a thi Rhys - dyw'r petha 'ma ddim yn newydd inni na byd Hollywood hyd yn oed.
Rhaglenni sy'n dangos clyweliadau ydyn nhw o flaen y cyhoedd - ond gynt y tu ol i ddrysau caeedig y digwyddai'r fath beth.
Cofio darllen rhywben dy fod yn hoff iawn o ffilmiau Indiana Jones.
Wn i'm os wyt ti'n lico 'Star Wars' ond dyma linc i glyweliad Mark Hamill (Luke Skywalker) gyda Harrison ford yn ei helpu (Han Solo a Indiana Jones wrth gwrs).
Yr un teip o beth yw e ond pwrni dim ond y cyfarwyddwr odd yn cal dewish y bobol ac yn cal gweld y clyweliad.
Dyma'r linc - gobeitho gwithiff hi - os na, rho Carrie Fisher yn Youtube, cer at ei chlyweliad hi am Star Wars a deui di ar draws hon.
http://www.youtube.com/watch?v=lSjP2GBTr9U&feature=related
waw - diddorol - diolch Ceri.
Post a Comment