30.4.08

Rev. Jeremiah Wright ac ymgyrch Obama

Un o'r pethau dwi'n gweld yn arbennig o ddifyr adeg brwydrau arlywyddol yr UDA yw rôl ffydd, yn arbennig y dadlau rhwng efengylwyr adain dde fel Jerry Falwell (rip) ac efengylwyr adain chwith (neu trydedd ffordd i fod yn fanwl gywir) fel Jim Wallis. Diddorol oedd clywed sylwadau hen weinidog Barack Obama heddiw, Y Parch. Jeremiah Wright, pan ddywedodd ar goedd ei fod yn gwbl o ddifri pan ddywedodd dro yn ôl mae yr UDA ei hun a berodd i 9/11 ddigwydd oherwydd fod pawb a phob cenedl yn medi eu had eu hunain yn y diwedd. Dywedodd:

"America's chickens came home to roost. You cannot do terrorism on other people and expect it never to come back on you. Those are Biblical principles, not Jeremiah Wright bombastic divisive principles."


Gan fod y Parch. Wright wedi ategu'r hyn a ddywedodd yn wreiddiol yn 2001 yn hytrach na chymryd ei eiriau yn ôl mae Obama wedi beirniadu ei hen weinidog yn hallt ac wedi torri pob cysylltiad gydag ef. I mi mae hyn yn dangos yn glir pa mor ddall yw'r Americanwyr i'w problemau nhw eu hunain – ddim mod i'n dweud fod pobl Efrog Newydd yn haeddu yr hyn ddigwyddodd ar 9/11, does neb yn haeddu y fath erchyllter, ond does dim dwywaith mae sgil-effaith gorthrwm America yn filwrol ar un llaw ac yn economaidd ar naill law ar rannau helaeth o'r byd wnaeth arwain at 9/11 ar casineb cyffredinol sydd yna tuag at yr UDA heddiw. Nid dim ond Gweinidogion radical fel Jeremiah Wright sy'n dadlau hyn ond mae ysgolheigion megis Ken Booth wedi bod yn dadlau hyn hyd yn oed cyn i 9/11 ddigwydd. Maen drist o beth fod Obama, er budd ei boblogrwydd gyda chonsensws boblogaidd bas pobl America, yn gorfod troi cefn ar y gwirionedd y mae ei hen weinidog yn glynu wrtho. Maen bryd i ni weld gwleidydd poblogaidd yn yr UDA yn gwneud safiad a mynnu fod ei gyd Americanwyr yn cymryd cam o ostyngeiddrwydd a chymryd hoe am eiliad i ystyried o ddifri pam fod 9/11 wedi digwydd a pam fod pawb yn eu casáu nhw. Yn anffodus mae Obama wedi dewis poblogrwydd o flaen gwirionedd real a dydy Clinton ddim gwahanol chwaith.

No comments: