27.5.08

Coleg Ffederal Cymraeg, nid bwrdd (arall) plis Cymru'n Un

Cynhelir Cynhadledd i'r Wasg am 3pm Mercher 28/5 yn uned Cymdeithas yr Iaith ar Faes Eisteddfod yr Urdd

Byddwn yn datgan fod pryder gwirioneddol y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cefnu ar ei addewid i sefydlu Coleg Cymraeg, sy'n rhan sylfaenol o Gytundeb "Cymru'n Un". Yn union fel y mae perygl y bydd y llywodraeth yn ildio i bwysau gan gwmnïau preifat mawr i'w hesgusodi o anghyfleustra Deddf Iaith newydd, y mae hefyd berygl y bydd y llywodraeth yn ildio i bwysau Sefydliadau Addysg Uwch i beidio a newid y statws quo trwy sefydlu Coleg Cymraeg grymus. Yn hytrach na Choleg Cymraeg aml-safle gyda'r holl rym a chyllid i sicrhau darpariaeth lawn o addysg uwch Gymraeg trwy'r sefydliadau ac yn ein cymunedau, y mae perygl na bydd ond cwango bach i di-nod i rannu cyllid bach ychwanegol i sicrhau ychydig o gyrsiau Cymraeg ychwanegol. Mae'r Gymdeithas wedi trafod ein pryderon gyda darlithwyr sy'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein Sefydliadau Addysg Uwch, ac y mae'r teimlad mor gryf fel bod 29 o'r academyddion eisoes wedi arwyddo llythyr agored at y Gweinidog Addysg, Jane Hutt, yn mynnu fod y llywodraeth yn cadw at ei haddewid i sefydlu Coleg Cymraeg llawn. Mae'r llythyr at Jane Hutt yn rhestru criteria sylfaenol Coleg Cymraeg, sef:

1. Statws statudol fel sefydliad addysg uwch â chyfansoddiad annibynnol.

2. Siarter annibynnol yn nodi ei gylch gorchwyl, gan gynnwys addysgu ac ymchwil, a darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru-gyfan.

3. Llif arian annibynnol, yn hytrach na derbyn cyfran o gyllid addysg uwch Saesneg. Yn hyn o beth, galwn ar y llywodraeth i sicrhau llif arian £20 miliwn fan leiaf, £15 miliwn yn ychwanegol at yr hyn a addawyd ym mis Tachwedd 2007.

4. Cofrestr myfyrwyr annibynnol a fyddai’n galluogi myfyrwyr i gofrestru gyda’r Coleg Ffederal Cymraeg yn ogystal ag un coleg penodol fel bod gan y coleg gorff o fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ynddo ac yn teimlo perchnogaeth drosto.


Isod mae copi o'r llythyr agored bydd yn cael ei basio ymlaen i Jane Hutt ynghyd ac enwau'r llofnodwyr hyd yma.

Y Llythyr Agored:

Annwyl Weinidog,

Yn dilyn ymrwymiad Llywodraeth Cymru’n Un i sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg mae gennym gyfle arbennig yng Nghymru heddiw i wneud gwahaniaeth o bwys i addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Ni ellir colli’r cyfle hanesyddol yma i sicrhau bod darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein sefydliadau addysg uwch yn cael ei gyd-drefnu’n briodol mewn modd sydd yn ennyn parch y sefydliadau hynny a bod darlithwyr a myfyrwyr yn teimlo bod ganddynt berchnogaeth dros y cynllun. Er mwyn manteisio ar y cyfle hwn, mae'n bwysig bod coleg Cymraeg aml-safle yn cael ei sefydlu yn hytrach na phwyllgor neu fwrdd arall "i ddatblygu addysg uwch Gymraeg". Credwn mai nodweddion hanfodol coleg yw:-

1. Statws statudol fel sefydliad addysg uwch â chyfansoddiad annibynnol.

2. Siarter annibynnol yn nodi ei gylch gorchwyl, gan gynnwys addysgu ac ymchwil, a darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru-gyfan.

3. Llif arian annibynnol, yn hytrach na derbyn cyfran o gyllid addysg uwch Saesneg. Yn hyn o beth, galwn ar y llywodraeth i sicrhau llif arian £20 miliwn fan leiaf, £15 miliwn yn ychwanegol at yr hyn a addawyd yn eich cynllun a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd.

4. Cofrestr myfyrwyr annibynnol a fyddai’n galluogi myfyrwyr i gofrestru gyda’r Coleg Ffederal Cymraeg yn ogystal ag un coleg penodol fel bod gan y coleg gorff o fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ynddo ac yn teimlo perchnogaeth drosto.

Dim ond trwy gyfuno pob un o’r pedwar pwynt uchod y gellir creu Coleg Ffederal Cymraeg a fydd yn newid cwrs addysg cyfrwng Cymraeg mewn modd cwbl arloesol. O’u cyfuno, bydd yr uchod yn sicrhau bod y Coleg Ffederal Cymraeg yr un mor annibynnol a safonol a phob un SAU arall yng Nghymru. Ofer fyddai cael sefydliad â chyfansoddiad annibynnol heb sicrhau cyllid digonol ar ei gyfer.

Fel ymarferwr yn y maes pwysaf arnoch i sicrhau bod y pwyntiau uchod yn cael eu gweithredu rhag blaen.

Yn gywir,


Y Llofnodwyr (hyd yma):

- Dr. Delyth Morris, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor

- Bryn Jones, Canolfan ESRC dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd, Prifysgol Bangor

- Enlli Haf Huws Deiliad Ysgoloriaeth ôl-raddedig 'Mantais', Ysgol Gemeg, Prifysgol Bangor

- Dr. Wyn Thomas Uwch-ddarlithydd, Ysgol Gerddoriaeth, Prifysgol Bangor

- Dr William Griffith Ysgol Hanes a Hanes Cymru, Prifysgol Bangor

- Gwenda Rhian Jones Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor

- Dr. Dyfed Wyn Roberts Ysgol Ddiwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol, Prifysgol Bangor

- Yr Athro Peredur Lynch Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor

- Dr. Angharad Price Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor

- Dr Wini Davies Darllenydd mewn Almaeneg, Adran Ieithoedd Ewropeaidd Prifysgol Aberystwyth

- Dr. Iolo ap Gwynn Adran Gwyddorau Biolegol, Prifysgol Aberystwyth

- Dr. Roger Owen Adran Theatr Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth

- Andy Freeman, Adran Theatr Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth

- Charmain S Savill, Adran Theatr Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth

- Liz Fenwick Deiliad Ysgoloriaeth ôl-raddedig 'Mantais', Adran Theatr Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth

- Meilyr Emrys, Deiliad Ysgoloriaeth ôl-raddedig 'Mantais', Adran Hanes, Prifysgol Aberystwyth

- Rhun Emlyn, Deiliad Ysgoloriaeth ôl-raddedig 'Mantais', Adran Hanes, Prifysgol Aberystwyth

- Hywel Griffiths Deiliad Ysgoloriaeth ôl-raddedig 'Mantais', Adran Ddaearyddiaeth, Aberystwyth

- Yr Athro Gruffydd Aled Williams Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth

- Yr Athro Marged Haycock Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth

- Dr. Huw Meirion Edwards Uwch-ddarlithydd, Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth

- Dr. Daniel Williams Adran Saesneg, Prifysgol Abertawe

- Yr Athro Dafydd Johnston Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe

- Dr. A. Cynfael Lake Uwch-ddarlithydd, Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe

- Dr. Tudur Hallam Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe

- Dr. Mererid Hopwood Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe

- Dr. Simon Brooks Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd

- Llion Pryderi Roberts Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd

- Dr. Dylan Foster Evans Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd


[English Summary: Cymdeithas yr Iaith are launching an open letter which will be sent to Jane Hutt, Education Minister, calling on her to keep her promise of a strong, fully funded Welsh Federal Collage as promised by the One Wales Government and not hold back and establish nothing more than a weak board/quango. The open letter is signed, so far, by 29 leading academics working in the field of Welsh medium education - their names are seen above.]

No comments: