1.6.08

Obama a'i berthynas a'i Eglwys

Fe ddois ar draws y fideo difyr isod ar wefan y BBC bore ma. Yn y datganiad mae Barack Obama yn cyhoeddi ei fod yn ildio ei aelodaeth Eglwysig o'i Eglwys yn yr UDA. I ddechrau yr hyn sy'n drawiadol yw y modd cwbwl agored maen trafod ei ffydd, "It was here" meddai am yr Eglwys "that i found Christ." Ond mae hefyd yn ddifyr iawn sut y bo Obama yn bendant iawn fod angen gwahanrwydd o ryw bellter rhwng gwleidyddiaeth y dalaith a'r eglwys ac ei fod yn credu y bydd ei ymddiswyddiad fel aelod o'r Eglwys yn rhyddhau'r Eglwys i fynd yn ôl at ei phriod waith sef moli Duw.

Fideo: Obama breaks with Chicago church

3 comments:

Huw said...

Un peth nad ydwyf yn hoff o gwbwl yw fod Obama wedi beirniadu pregethwr yr oedd arfer a bod yn gefnogol am iddo meiddio beio'r UDA am Medi 11.

Yr oedd yn ceisio gosod y sefyllfa, dyle'r UDA fod yn gofyn beth ma nhw wedi ei wneud i wahodd y fath ymosodiad; fod pobol ddim yn gwneud pethe fel yma heb reswm.

Gan fod America'n dwp, ma nhw'n cymyd y safbwynt fod "God bless America" a'u bod yn iawn ym mhob agwedd o fywyd.

Rhys Llwyd said...

Ti'n iawn Huw. Roeddw ni'n cytuno gyda cyn-Bregethwr Barack a ddim yn gweld ei sylwadau yn outspoken o gwbl - ac a bod yn onest dwi'n meddwl fod Barack yn cytuno gyda'i gyn-Weinidog hefyd yn y bon ond fod y "farn boblogaidd" yn America yn golygu fod rhaid i Barack bellhau ei hun o synwyr cyffredin ei gyn-Bregethwr er mwyn cadw'n boblogaidd yn y polau piniwn, fonadwy o beth!

Fe gofiwch fod Barack llawer mwy agored na Clinton (ac yn sicr John Mcaine) i'r ffyrdd o ddatrus problem tramor UDA oherwydd pan ofynwyd i'r ddau am Iran ateb Clinton oedd bygwth Iran gyda "grym a phwer" yr UDA (parhad o bolisi y Gweriniaethwyr dan Bush) tra cynnigodd Barack ateb llawer mwy synhwyrol gan ddweud mae beth oedd angen oedd holi pam fod y fath densiwn yn bodoli rhwng yr UDA a gwledydd tebyg yn gyntaf a dim ond wedi i bob pob gael ei geisio ffordd yna y dylid mynd i siarad am "rym a phwer" milwrol.

Huw said...

Na, doedd o ddim yn outspoken o gwbwl.

Mae rhai perthnasau i mi sy'n byw yn Nghaliffornia wirioneddol yn ystyried symud i Ganada, am fod yr UDA wedi mynd mor sensitif i feirniadaeth a chywirdeb gwleidyddol.

E.e. byse rhaglen deledu fel Have I Got News For You byth yn cael ei hystyried ei ddarlledu ar y teledu fancw.