Tesco - cyfalafiaeth a chomiwnyddiaeth yn agos iawn
Rhai wythnosau yn ôl dois ar draws yr olygfa hynod isod yn Tesco ac thynu llun ar gamera cŵl Menna. Yr hyn wnaeth fy ngharo i oedd hyn: er mae Tesco yw'r ymgnawdoliad o eithafiaeth y drefn gyfalafol ym Mhrydain ar ryw olwg mae'n ymdebyg i'r ymgnawdoliad o eithafiaeth y drefn gomiwnyddol hefyd! Dan y drefn gomiwnyddol yn Rwsia nid oedd dewis helaeth o nwyddau i'w prynnu dim ond y 'standard' oedd asiantiaethau'r Llywodraeth Sofietiaid yn canitau pobl i gael, roedd unffurfiaeth lwyr. Onid yw Tesco, yn eironig, yn dilyn trywydd tebyg wrth wthio eu cynnyrch own brand, nid anhebyg i'r olygfa isod fe dybiaf y byddai silffoedd siop fwyd dan drefn gomiwnyddol yn edrych - dim dewis dim o y standard.
Hefyd sylwch mor debyg yw'r olygfa yn Tesco i gymharu a bwyd y Dharma yn Lost!:
1 comment:
Dyna wir fydd yr olygfa o bosib yn y dyfodol os caiff yr archfarnadoedd eu ffordd. Yr unig beth fydd modd ei brynnu yw beth mae nhw eisiau werthu, nid beth ni eisiau brynnu. Dyna pam dwi ddimi yn diopa yn Tesco nac ASDA (a dwi'n ceisio cwtogi ar fy ymweliadau â Somerfield) a prynnu cymaint ag y gallaf o siopau lleol annibynnol.
Post a Comment