Tystiolaeth o "Fedydd yr Ysbryd Glan" yn archifau Dr. Tudur II
Dyma barhad o'r blogiad blaenorol lle roeddwn yn sôn am dystiolaeth sy'n codi o archifau Dr. Tudur Jones am brofiadau pobl o 'fedydd yr Ysbryd Glan.'...
Dwi wedi bod yn ystyried ysgrifennu rhywbeth ar y blog am y Diwygiad Iachau sydd ar gerdded yn Lakeland Florida ar hyn o bryd ar y blog ond heb gael cyfle eto. Ond yn hanesyn y wraig isod ceir sôn am y modd bu i'r Ysbryd Glan ei iachau hi a rhai eraill yn eglwys Mount Pleasant, Abertawe yn 1985:
Digwyddodd dau beth allan o'r cyffredin i mi yn ystod yr wythnosau diwethaf. A fuodd chwi erioed yn cynnal gwasanaeth o weddi, eneinio, ac arddodiad dwylo? Iago V: 14,15. Ar ddiwedd pregeth nos Fercher galwodd ein hannwyl weinidog, y Parch. Glyn Morris ar nifer ohonom i eistedd yn y seddau blaen. Yr oedd wedi galw am enwau'r cleifion cyn y gwasanaeth, ac fe'm darbwyllwyd gan gyfeilles i ymuno â'r sawl oedd i'w heneinio.
Rhaid cyfaddef fod yn well gennyf y sedd gefn bob tro, Mae gan bobl eraill ddigon o broblemau heb i mi ychwanegu atynt. Fe ddaeth tua dwsin ohonom ymlaen, yn eu plith yr oedd Mrs Morris, gwraig annwyl ein gweinidog, sy'n dioddef o “slipped disc” yn ei chefn; daeth hen wraig a'i dwy ferch briod – y dair yn hanner dall; daeth hen ŵr cynhyrfus iawn sy'n dioddef gan ddiffyg anadl, ac yn gwneud stŵr ofnadwy pan fydd yn gweddïo – mae'r peth lleiaf yn ei gynhyrfu; daeth pobl eraill, ac eisteddais innau'n y canol.
Yr oedd llais Mr Morris yn crynu pan weddïodd dros ei wraig. Yr oedd yn gweddïo dros y claf, yn eneinio, ac yna'n uno gyda'r gweinidog ieuanc a'r diaconiaid yn arddodiad dwylo ac yn galw enw'r diacon oedd i weddïo dros y claf – cafodd bod un o'r diaconiaid weddïo dros un o'r cleifion.
Fel y gwyddoch, nid ffydd emosiynol sydd gennyf, ond dechreuais wylo'n dawel. Yr oedd pob cyhyr a nerf fel petaent yn ymestyn ac yn byrhau bod yn ail – yn boenus iawn. Yr oeddwn yn rhy brysur yn gweddïo dros y lleill i boeni'n ormodol amdanaf fy hun. Wylais drwy gydol y gwasanaeth – ac ni wn paham yr oeddwn yn wylo.
Y noswaith ganlynol, daeth bws y capel at fy nrws i'm dwyn i gwrdd chwiorydd yr Hafod. Haleliwia. Dringais i'r bws heb gymorth am y tro cyntaf oddi ar y ddamwain...
Cefais fy nwyn mewn car modur i'r oedfa fore Sul – Haleliwia – heb fy ffon am y tro cyntaf, ond rhaid cyfaddef fod disgyn yn fwy anodd nag esgyn a chefais rybudd y byddai'n gallach i mi gario'r ffon bob amser rhag ofn y bydd arnai ei hangen. Rwy'n gryfach ac yn fwy syth fel y gallwch ddychmygu “Mae'r haleliwia yn fy enaid i, A rhoddaf , Iesu, fy mawrhad i Ti” Mae'n wir na allaf blygu na gorwedd heb fod pethau o'm cylch yn troi, ond gwn y gall yr Arglwydd fy ngwneud yn holliach pan y myn.' @RTJ gan XXXXX XXXXXX, Abertawe, 25.7.85 [Ffeil 72]
Mae'r hanesyn yma yn ogystal a'r hanesyn yn y blogiad diwethaf am Theo Roberts yn codi calon pob Cristion oherwydd ei fod yn eich atgoffa o'r newydd fod Duw yn Dduw sy'n ymyryd mewn ffordd nerthol, pwerus a goruwchnaturiol HEDDIW ac nid dim ond yn oes yr apostolion fel ag y mae rhai Cristnogion sy'n arddel cessationism yn credu. Gobeithio eich bod chi, fel fi, yn ysu, yn dymuno ac yn gweddio i'r Ysbryd Glan ddod i lawr a gweithio fel yma eto yng Nghymru.
[Gan nad wyf yn sicr os ydy awdur y llythyr yma at Dr. Tudur yn fyw a'i peidio gwell fyddai i mi gadw'r enw'n gyfrinachol am y tro.]
No comments:
Post a Comment