4.6.08

Tystiolaeth o "Fedydd yr Ysbryd Glan" yn archifau Dr. Tudur I

Dwi bellach yn adnabod fy hun fel Caresmatig-Diwygiedig ac dwi'n argyhoeddedig fod Duw yn, ac bod yn rhaid i Dduw anfon tywalltiad nerthol i lawr i unigolion ac i'r Eglwys trwy'r Ysbryd Glan. Dwi ddim yn meddwl fod y tywalltiad yna yn amod iachawdwriaeth a dwi ddim chwaith yn meddwl fod y tywalltiad yna yn amod sicrwydd ffydd ond mae, fe dybiaf, yn mynd a chi yn nes at Dduw ac yn eich gwneud chi, a'r eglwys, yn offeryn mwy effeithiol i dystiolaethu.

Wythnos yma yn yr Archifdy fe ddois ar daws dau hanesyn difyr gan ddau unigolyn fu'n gohebu ac R. Tudur Jones, y naill yn adrodd sut y bu iddynt gael "ail fendith" neu "bedydd yr Ysbryd Glan" a hynny nid er mwyn dod a nhw yn Gristnogion oherwydd roedden nhw yn Gristnogion eisoes ond er mwyn dod a gwefr a profiad dyfnach o Dduw iddynt:

Y cyntaf sy'n adrodd ei stori wrth Dr. Tudur yw Theo Roberts yn wreiddiol o Lerwl ond erbyn 1978 ac yntau'n 71 mlwydd oed yn byw yn Star, Môn. Y cyd-destun yw i Dr. Tudur amau a ddylid dysgu athrawiaeth "bedydd yr Ysbryd Glan" fel y'i deellir fel 'ail-fendith' (sylwch, dwi'n meddwl mod i wedi ffeindio rhywbeth dwi ddim yn cytuno gyda Dr. Tudur ynglyn ag ef!!):

“Nid oes le yn nysgeidiaeth y Testament Newydd [meddai RTJ] i athrawiaeth yr 'ail fendith.' Mae ei derbyn yn golygu ymarfer ffydd achubol ddwywaith.” Paul yn ysgrifennu at “Y saint sydd yn Effasus, a'r ffyddloniaid yng Nghrist Iesu” - credinwyr yn deisyf arnynt “ar rodio a honnoch yn addas i'r alwedigaeth y'ch galwyd iddi” - ac yn eu cynghori sut i ymddwyn ar y ffordd hon ac iddynt gael eu llenwi â'r Ysbryd. Onid hyn sydd yn bwysig ac yn dangos fod yr Effesiaid wedi methu i raddau? Ac yn ein hoes ni, onid oes gwahaniaeth rhwng y Cristnogion honedig, marwaidd, a phobl fel y “Pentacostals” sydd mor llawn o fywyd ac yn cael hyfrydwch wrth fyfyrio yn Ei gyfraith Ef, a'u capelau yn lawnach na'n capelau ni?

Y prif reswm i mi anfon atat yw'r ffaith, er nad wyf yn aelod o'r Eglwys Pentacostalaidd, yr wyf yn credu ym medydd yr Ysbryd Glân ac wedi cael profiad i hyn yn bersonol. Aelod ymhlith y Bedyddwyr ydwyf. Cefais fy medyddio (y Bedydd Crediniol ar broffes o ffydd yn yr Arglwydd Iesu Grist) pan yn 17 oed yn Lerpwl. Treuliais dros hanner cant o flynyddoedd yn yr ardal honno; yn ffyddlon i holl gyfarfodydd crefyddol yr Eglwys ac hefyd nifer yn perthyn i Eglwysi eraill (cyfarfodydd pregethu, ac ymlaen) a rhai Saesneg ar Nos Sadwrn yn y Central Hall yno. Dyna oedd fy mywyd.

Cymerais cwrs astudiaethau Beiblaidd am dair mlynedd; yr wyf wedi darllen y Beibl bedair o weithiau, beth bynnag, ar wahân i'r Testament Newydd yn amlach, a chefais y fraint o baratoi ychydig o bregethau, ac ar sail hyn, rhoddais i fyny fy ngwaith yn 55 oed i ddod i Gymru, yn awyddus i wasanaethu yr Eglwysi “bychain o ran nifer yr aelodaeth” - er bod y Gymraeg yn ail iaith i mi ac nid oeddwn yn cymeryd oedfaon yn yr iaith Saesneg am fy mod mor swil! Ond rhyw fore, llai na bedair o flynyddoedd ar ôl i ni ddod i Fae Colwyn i fyw, cefais profiad eithriadol wrth ddechrau codi ar ôl gweddïo – teimlad fod rhywbeth arbennig wedi fy lenwi yn gyfan gwbl o'm tu mewn a hyn mewn moment. Os oedd y llenwad yna yn un materol – o ddefnydd materol (fel “concreate”) y byddai fy nghorff wedi ymrwygo.

Y canlyniad? Negesau o'r Ysgrythur yn byrlymu allan un ar ôl y llall, a phob un wedi ei ysgrifennu i lawr ar unwaith ac wedyn wedi ei “typewritio.” Yr ysgrifau olaf hyn o'r peiriant yma yn cynnwys mwy o eiriau na'r Beibl ei hun. Wrth wasanaethu yn yr Eglwysi gwahanol – o bob enwad – yr wyf yn synnu nid yn unig at yr ymddiriedaeth wrth dderbyn y negesau hyn – nid wyf yn defnyddio esboniadau o gwbl – ond am y nerth i draethu ac i arwain y defosiwn.

Yr wyf dros 71 oed erbyn hyn, a dymunaf dystio i'r ffaith fy mod wedi cael y profiad arbennig a elwir yr “ail fendith”, neu “bedydd yr Ysbryd Glân” a chredaf fod hyn yn angenrheidiol i raddau mawr i wir lwyddiant yr Efengyl.

Yr oedd yr apostolion a'r disgyblion adeg yr Iesu yn bobl oedd yn gwybod y gyfraith ac yn ceisio deall y proffwydi, a'r Iesu yn rhoi goleuni ar yr Ysgrythurau. Credaf os ein bod yn barod i ddarllen a myfyrio Gair Duw yn yr oes hon, y bydd llawer mwy o bobl yn profi y Fendith ychwanegol, werthfawr hon. O dan arweiniad yr Ysbryd Glân.' @RTJ gan Theo Roberts, Star Gaerwen, 18.1.78 [Ffeil 67]


Ceir yr ail hanesyn yn y blogiad nesaf...

No comments: