6.6.08

Tonsillitis, Amoxicillin a Fi

Dwi wedi cael Tonsillitis ac maen anhygoel o anghyfforddus ac yn boendod go-iawn. Tonsillitis ydy pan fo eich tonsils yn heintio ac yna yn fflamio a chwyddo. Maen debyg mae diben eich tonsils ydy amddiffyn eich corff rhag heintiau, felly mewn ffordd mi ddyliwn ni fod yn falch fod fy nhonssils wedi cymryd yr haint yn fy lle! Oes delwedd o'r hyn wnaeth Crist drosom yma?

Dwi wedi hunan-bescreibio dos o Amoxicillin i fi fy hun i geisio taclo'r taclau! Roedd Menna, chwarae teg iddi (am ddioddef fy ngwyno yn ogystal a darparu'r cyffurfiau!), yn digwydd bod a phecyn dros ben. Beth yn union yw Amoxicillin felly? Wel dyma sut maen edrych:




Mae'n fath o benasilin sy'n cynnwys: “7-[2-amino-2-(4-hydroxyphenyl) -acetyl]amino-3,3-dimethyl-6-oxo -2-thia-5-azabicyclo[3.2.0]heptane -4-carboxylic acid.” Dydy hynny, wrth gwrsw, yn golygu dim i mi. Gobeithio fydd yr Amoxicillin yn gweithio oherwydd does dim byd mwy rhwystredig na'r rhen Toncillitis yma! Grrrr....

5 comments:

Emma Reese said...

Gobeithio gwnei di deimlo'n well yn fuan. Mae cymharu tonsils รข Christ yn syniad newydd ac yn ddiddorol!

Linda said...

Brysia wella rwan Rhys .....

Rhys Llwyd said...

Newydd fod i'r Doctor a doedd y Doctor ddim yn meddwl taw Tonsillitis oedd arna i wedi'r cyfan!!! Ond dwi wedi bod yn cymryd Amoxocillin ers 48awr felly efallai fod y Doctor methu gweld y symptomau oherwydd fod yr Amoxocillin wedi dechrau ar ei waith.!

Gwenno said...

Wi'n allergic i amoxocillin! Cymer ofal 'da nhw!

Rhys Llwyd said...

o diar!