1.7.08

Adroddiad Cymdeithas Cledwyn

Dwi newydd ddarllen dros Adroddiad Cymdeithas Cledwyn, 'Y Fro: Ennill pleidleisiau yn y Gymru Gymraeg (Mehefin 2008)', yn frysiog. Y diddordeb arbennig i mi wrth gwrs yw unrhyw sôn am ddatblygu Addysg Gymraeg yn y Sector Addysg Uwch. Er fod Coleg Ffederal Cymraeg yn rhan o bolisi Llywodraeth Lafur nid oes gan Gymdeithas Cledwyn ddim byd i ddweud am y mater. Mae hyn yn gwbl nodweddiadol ac yn dangos mae arwynebol yw unrhyw sôn a strategaeth o dŷ'r Blaid Lafur i ddatblygu Addysg Gymraeg os nad oes gair gyda nhw ddweud am eu polisi nhw eu hunain.

Ac mae'r dyfyniad isod o'r adroddiad yn dweud y cyfan:

Dylai’r Blaid Lafur yng Nghymru fod yn ffyddiog nad magwrfa i gefnogwyr y cenedlaetholwyr yw ysgolion Cymraeg. Gallwn ni sicrhau hynny drwy annog cefnogwyr Llafur i ymwneud yn weithgar â rheoli eu hysgolion cyfrwng Cymraeg lleol.


Hynny yw y dylai cefnogwyr Llafur ymwneud yn weithgar â rheoli eu hysbolion cyfrwng Cymraeg a parhau i fwydo'r plant a phropeganda Prydain, cario mlaen a ddysgu am hanes Lloegr ac nid Hanes Cymru etc etc... Wrth cwrs yn Lloegr mae Gordon Brawn a'i gyd-Lafurwyr yn gwbl agored fod angen defnyddio'r ysgolion i ddysgu am Brydeindod a dysgu am hanes a gwerthoedd Prydain. Pam fod Llafur ddim yn fodlon gwneud yr un peth yma yng Nghymru, defnyddio'r ysgolion i ddysgu am Gymreictod a gwerthoedd a hanes Cymru. Oherwydd er eu gwisg Gymreig, diwedd y dydd Plaid Brydeinig ac nid Gymreig yw y Blaid Lafur o hyd.

Y Fro: Ennill pleidleisiau yn y Gymru Gymraeg (Mehefin 2008) (PDF)

1 comment:

Cer i Grafu said...

Odd y fenyw 'na Eluned Morgan yn trafod y ddogfen 'na ar raglen Gwilym Owen ddydd Llun. Un o'i pherlau hi oedd y dylen ni gyfeirio arian sy'n cal ei iwso at gyfieithu dogfennau i'r Gymraeg at gynnal ysgolion meithrin yn llefydd fel Ty Ddewi. Wi'm yn credu bod y ddou beth yn rhannu'r un ffynhonnell ariannol ond bid a fo am hynny. Maen nhw jwst yn moyn troi'r dwr at eu melin nhw eu hunain. Sdim syndod bo dim cefnogaeth iddyn nhw yn 'y fro'.