Showing posts with label Gordon Brown. Show all posts
Showing posts with label Gordon Brown. Show all posts

1.7.08

Adroddiad Cymdeithas Cledwyn

Dwi newydd ddarllen dros Adroddiad Cymdeithas Cledwyn, 'Y Fro: Ennill pleidleisiau yn y Gymru Gymraeg (Mehefin 2008)', yn frysiog. Y diddordeb arbennig i mi wrth gwrs yw unrhyw sôn am ddatblygu Addysg Gymraeg yn y Sector Addysg Uwch. Er fod Coleg Ffederal Cymraeg yn rhan o bolisi Llywodraeth Lafur nid oes gan Gymdeithas Cledwyn ddim byd i ddweud am y mater. Mae hyn yn gwbl nodweddiadol ac yn dangos mae arwynebol yw unrhyw sôn a strategaeth o dŷ'r Blaid Lafur i ddatblygu Addysg Gymraeg os nad oes gair gyda nhw ddweud am eu polisi nhw eu hunain.

Ac mae'r dyfyniad isod o'r adroddiad yn dweud y cyfan:

Dylai’r Blaid Lafur yng Nghymru fod yn ffyddiog nad magwrfa i gefnogwyr y cenedlaetholwyr yw ysgolion Cymraeg. Gallwn ni sicrhau hynny drwy annog cefnogwyr Llafur i ymwneud yn weithgar â rheoli eu hysgolion cyfrwng Cymraeg lleol.


Hynny yw y dylai cefnogwyr Llafur ymwneud yn weithgar â rheoli eu hysbolion cyfrwng Cymraeg a parhau i fwydo'r plant a phropeganda Prydain, cario mlaen a ddysgu am hanes Lloegr ac nid Hanes Cymru etc etc... Wrth cwrs yn Lloegr mae Gordon Brawn a'i gyd-Lafurwyr yn gwbl agored fod angen defnyddio'r ysgolion i ddysgu am Brydeindod a dysgu am hanes a gwerthoedd Prydain. Pam fod Llafur ddim yn fodlon gwneud yr un peth yma yng Nghymru, defnyddio'r ysgolion i ddysgu am Gymreictod a gwerthoedd a hanes Cymru. Oherwydd er eu gwisg Gymreig, diwedd y dydd Plaid Brydeinig ac nid Gymreig yw y Blaid Lafur o hyd.

Y Fro: Ennill pleidleisiau yn y Gymru Gymraeg (Mehefin 2008) (PDF)

3.5.08

Etholiadau Lleol IX (Casgliadau+Llundain+Ron Davies)

Dyna ni felly, etholiad arall drosodd, dyma grynhoi rhai o'r prif argraffiadau.

Gwynedd
Plaid Cymru yn colli Gwynedd gyda unigolion blaenllaw fel Dafydd Iwan a Richard Parry Huws yn colli eu seddau oedd newyddion yr etholiad i mi. Er mod i'n credu fod Plaid Cymru yn haeddu ysgytwad dydw i ddim yn hollol gyfforddus gyda buddugoliaeth Llais Gwyendd oherwydd nad ydw i'n credu mewn single issue politics. Er enghriafft pwy yw arweinydd grwp Llais Gwynedd ar y cyngor nawr? Pwy fydd a'r mandad i arwain y trafodaethau am glymbleidio? Ydy Llais Gwynedd eu hunain yn gwybod yr ateb i hyn heb son am ni'r etholwyr yma yng Ngwynedd - y cwestiwn tymor hir fydd yn hofran uwch ben Gwynedd fydd hyn - a aeth y brotest rhy bell?

Newyddion arwyddocaol arall yng Ngwynedd oedd bod Plaid Cymru wedi ennill tir mewn ardaloedd trefol fel Bangor a Bethesda. Buddugoliaeth arwyddocaol dwi'n meddwl oedd un Dyfri Jones, Golygydd Barn, a hynny yn Gerlan ger Bethesda. Er ei bod hi'n fuddugoliaeth dda ynddi hi ei hun dwi'n meddwl fod y fuddugoliaeth yn fwy arwyddocaol byth am y rheswm fod Dyfrig yn Olygydd Barn; yn yr hinsawdd post-Y BYD (na fu erioed) a lle mae ITV Wales yn diflannu'n ara deg ac bod monopoli di-diedd (honnedig) ddiflas y BBC ar newyddion ein cenedl yn cynyddu a chynyddu maen chwa o awyr iach fod newyddiadurwr/colofnydd fel Dyfrig yn fodlon arddangos ei werthoedd gwleidyddol yn gyhoeddus.

Ceredigion
Fe ddaeth Plaid Cymru o fewn trwch blewyn i gipio'r cyngor - ond methiant oedd yr hanes yn y diwedd. Sioc ac ergyd syfyrdanol y sir oedd i Penri James, darpar ymgeisydd Seneddol y Blaid, golli ei sedd yng Ngogledd y Sir, Tirmynach. Roedd y Dem-Rhyddion yn gwybod yn iawn beth oedden nhw'n gwneud yn targedu Penri ac maen debyg y bod Marc Williams AS ei hun wedi cael ei weld yn canfasio ar hyd ward Penri yn ystod yr wythnos ddiwetha. Mae amlwg fod y Dem-Rhyddion am roi ymgyrch galed iawn iawn at ei gilydd i gadw'r sedd Seneddol ac maen debyg y bydd y golled hon yn ergyd i ymdrechion y Blaid i ail-gydio ynddi. Er yn golled ar y diwrnod fe brofodd Ceredigion ei bod hi'n bosib rhyw ddydd i Blaid Cymru, ar ddiwrnod da, gipio'r cyngor sir.

Sir Gâr
Dyma oedd stori hapusa'r Blaid am y diwrnod. Collodd hen arweinydd y cyngor, Meryl Gravell (no relation), ei sedd sy'n newyddion pen i gamp oherwydd roedd eu dull arweinyddol hi yn ymylu ar fod yn ddictat! Fel a nodwyd mewn blog blaenorol daeth y Blaid o fewn trwch blewyn i gipio sawl sedd arall hefyd fel Rhydaman. Un o hanesion llai ffodus Sir Gâr oedd y John Dixon fethu ennill Cynwyl Elfed - mae'r golled yma yn yr un categori a cholled Penri James yng Ngheredigion oblegid John Dixon yw ymgeisydd y Blaid i sedd Gorllewin Caerfyrddin yn y Cynulliad.

Y Cymoedd
Stori y cymoedd oedd fod Llafur wedi colli sawl cyngor ond ni chollwyd i cynghorau i neb arall mewn gwirionedd. Do fe wnaeth Plaid Cymru a hyd yn oed y Ceidwadwyr beth cynnydd mewn rhai ardaloedd ond fe rhannwyd y bleidlais Lafur allan rhwng tipyn o bawb felly erbyn yr etholiadau nesaf a fydd, mwy na thebyg, yn digwydd gyda'r Ceidwadwyr yn llywodraethu yn San Steffan fe ddoith Llafur nol yn gryf a chipio'r siroedd yn ol a mwyafrifau enfawr unwaith eto.

Maer Llundain
Wrth basio, gair am fuddugoliaeth Boris yn Llundain. Er nad ydw i'n Geidwadwr dwi'n falch fod Boris wedi ennill oherwydd y bydd yn heb enfawr ymlaen i ymdrechion y Ceidwadwyr i ennill yr etholiad cyffredinol nesaf. A dwi'n dechrau gweld y ddadl nawr mae llywodraeth Lundeinig Geidwadol fydd y peth gorau i wthio datganoli ymhellach - mae angen chwistrelliad a seibiant ar Lafur i ail-wefru eu batrîs. Mae angen i ni weld antithesis unwaith eto rhwng Llundain a Chaerdydd er mwyn ail-radicaleiddio Llafur i wthio, gyda sêl o'r newydd, am fwy o ddatganoli ac mae angen corwynt trwy'r Blaid Lafur i gael gwared a dynion y gorfennol fel Paul Murphy a Don Touige, sy'n ein arwain ymlaen at....

Ron Davies - Arwr
Ydych chi'n cofio y gŵr hwn? I mi mae Ron Davies yn arwr, ei waith ef mewn partneriaeth gyda Dayfdd Wigely sydd wedi ein cael ni i lle ydym ni heddiw - nid yw'n gyfrinach nad oedd Tony Blair a Gordon Brown yn rhy keen ar ddatganoli ond yn wyneb y ddau ddeinasor yna fe lwyddodd Ron Davies i gael y maen i'r wal a chael y Blaid Lafur i gefnogi datganoli yn 1997. Dwi'n gwbl argyhoeddedig pe na byddai Ron wedi cael ei 'foment o wallgofrwydd' yng Nghlapton Common yn 1998 y byddai gyda ni Senedd Ddeddfwriaeth lawn heddiw. Pam sôn am Ron felly? Wel fe ennillodd sedd fel aelod annibynol ar gyngor Caerffili ac fe ennillodd ei wraig sedd dros Blaid Cymru ar yr un cyngor hefyd! Gwrogaeth a pharch i'r ddau.

6.12.07

Christianophobia

Heddiw yn Nhy'r Cyffredin yn Llundain mae yna ddadl 90 munud ar 'Christianophobia' yn digwydd. Rhoed y cynnig gerbron i gael dadl gan y Ceidwadwr Mark Pritchard, AS The Wrekin yn Shropshire. Maen dadlau fod y ffydd Gristnogol dan fygythiad arbennig yn ystod tymor y Nadolig gan y 'politically correct brigade.' Maen pwysleisio mae nid ei fwriad yw condemnio crefyddau eraill ond yn hytrach mynnu fod y wlad hon (hy Prydain iddo ef bid siwr!) yn parchu ei threftadaeth Gristnogol cryf. Fel y byddech chi'n disgwyl mae llefarydd ar ran y Gymdeithas Seciwlar Genedlaethol wedi difrio Mark Pritchard eisioes gan nodi:

Christians have absolutely nothing to complain about in this country. 26 bishops sit in the House of Lords and England has an established church.The head of state is a Christian, the prime minister is a Christian and almost all the cabinet are self-identified Christians. How on earth can anyone imagine that Christians are disadvantaged or pushed to the margins? Christians are not being pushed out of public life, if anything they are over-represented.


Fodd bynnag mae galwad Mark Pritchard wedi derbyn cefnogaeth y gweinidog dros community cohesion sef Parmjit Dhanda sydd yn Sikh. Pwysleisia Parmjit Dhanda fod Cristnogion wedi gweithio'n galed i sicrhau rhyddid barn, crefyddol a dileu caethwasiaeth yn benodol yn y gorffennol. Dywedodd Dhanda 'The Christian tradition has had a significant impact on the way these freedoms have been shaped.' I mi maen anhygoel o ddiddorol y bo Cristion a Sikh yn medru cyd-werthfawrogi gwerth treftadaeth Gristnogol ond bod y secwlarwyr yn hollol ddall i'r lles cyffredinol ehangach y mae Cristnogaeth wedi dod i Loegr a Chymru.

Ond ar yr un pryd fe fedrai ddeall pwynt y secwlarwyr wrth iddynt bwyntio at y ffaith y bo gan Eglwys Loegr statws aruchel a bod ganddynt gynrychiolaeth sefydlog an-nemocrataidd yn Nhy'r Arglwyddi. Er mod i'n credu fel Mark Pritchard y bo angen i Gristnogaeth a Christnogion gael eu clywed a'i parchu dwi ddim, fel Cymro Anghydffurfiol, yn hawlio statws gwladol i Gristnogaeth trwy ddeddf. Ac a bod yn deg dydy Mark Pritchard ddim yn nodi hynny chwaith, ei fyrdwn ef gyda'r ddadl yma yw i Gristnogion gael "full minority rights" fel pob grŵp ffydd arall ym Mhrydain – ni ddylai Cristnogion a Christnogaeth gael ei difrio yn gyhoeddus dim ond oherwydd ein treftadaeth Gristnogol. Mae bodolaeth treftadaeth yn rhywbeth i'w barchu a'i werthfawrogi nid yw yn rhywbeth i'w ddefnyddio fel esgus i ddifrio.

Digon hawdd yw hi i'r secwlarwyr gyfeirio at fodolaeth Eglwys Wladol a rhyw berthyn Cristnogol llac sydd gan aelodau o gabinet Gordon Brown ond gofynnwch chi i Gristnogion llawr gwlad beth mae hynny yn ei olygu dydd i ddydd i'w bywyd a'i cenhadaeth Gristnogol nhw. O'm safbwynt i maen fyrdwn mwy na chymorth – maen 'faggage' di-angen.

13.1.07

SNP Vs Gordon Brown / Cyfiawn Vs Anghyfiawn?

Mae cynnwrf mawr yn yr Alban ar hyn o bryd gyda'r SNP yn debygol o wneud yn dda iawn yn etholiadau Senedd Caeredin yn hwyrach eleni. Pan fo'r cyfiawn yn dechrau ennill y dydd mae'r anghyfiawn yn taro'n ôl gyda'r unig arf sydd ganddo i daro'n ôl sef propaganda di sail a rhagfarnllyd. Mewn ymgais i ladd momentwm yr SNP mae Gordon Brown wedi nodi mewn ysgrif fod yr Alban yn elwa'n fwy o fod mewn undeb gyda Lloegr. Wrth gwrs dydy hyn ddim yn wir ac mi fyddai'r Alban, yn fwy felly na Chymru, yn wlad gyfoethocach a chryfach o fod yn annibynnol. Mae Llywodraeth Prydain yn gwybod yn iawn fod hyn yn wir a dyna pam eu bod nhw, unwaith yn rhagor, wedi troi at bropaganda. Celwydd anfoesol ac anghristnogol o enau darpar Brif Weinidog y Wladwriaeth Brydeinig yn enw hunanoldeb imperialaidd.

Dyma ddau fideo gan yr SNP, ie mi wn mae diben propaganda yw rhain hefyd OND yn wahanol i Brown mae'r SNP yn cyflwyno'r gwir! Mae'r cyntaf yn fideo diweddar dan y thema 'It's Time' ac mae'r ail yn un ychydig bach yn hyn sy'n gosod y ddadl y byddai yr Alban yn well ffwrdd yn economaidd ar ben ei hun oherwydd yr Olew ym Mor y Gogledd. Y cyntaf sy'n eich cyffroi fwyaf, mae'r ddelwedd a'r rhethreg sydd gan yr SNP yn rhagorol ond yn yr ail mae'r dadleuon economaidd gorau o blaid annibyniaeth: