Showing posts with label Tony Blair. Show all posts
Showing posts with label Tony Blair. Show all posts

3.5.08

Etholiadau Lleol IX (Casgliadau+Llundain+Ron Davies)

Dyna ni felly, etholiad arall drosodd, dyma grynhoi rhai o'r prif argraffiadau.

Gwynedd
Plaid Cymru yn colli Gwynedd gyda unigolion blaenllaw fel Dafydd Iwan a Richard Parry Huws yn colli eu seddau oedd newyddion yr etholiad i mi. Er mod i'n credu fod Plaid Cymru yn haeddu ysgytwad dydw i ddim yn hollol gyfforddus gyda buddugoliaeth Llais Gwyendd oherwydd nad ydw i'n credu mewn single issue politics. Er enghriafft pwy yw arweinydd grwp Llais Gwynedd ar y cyngor nawr? Pwy fydd a'r mandad i arwain y trafodaethau am glymbleidio? Ydy Llais Gwynedd eu hunain yn gwybod yr ateb i hyn heb son am ni'r etholwyr yma yng Ngwynedd - y cwestiwn tymor hir fydd yn hofran uwch ben Gwynedd fydd hyn - a aeth y brotest rhy bell?

Newyddion arwyddocaol arall yng Ngwynedd oedd bod Plaid Cymru wedi ennill tir mewn ardaloedd trefol fel Bangor a Bethesda. Buddugoliaeth arwyddocaol dwi'n meddwl oedd un Dyfri Jones, Golygydd Barn, a hynny yn Gerlan ger Bethesda. Er ei bod hi'n fuddugoliaeth dda ynddi hi ei hun dwi'n meddwl fod y fuddugoliaeth yn fwy arwyddocaol byth am y rheswm fod Dyfrig yn Olygydd Barn; yn yr hinsawdd post-Y BYD (na fu erioed) a lle mae ITV Wales yn diflannu'n ara deg ac bod monopoli di-diedd (honnedig) ddiflas y BBC ar newyddion ein cenedl yn cynyddu a chynyddu maen chwa o awyr iach fod newyddiadurwr/colofnydd fel Dyfrig yn fodlon arddangos ei werthoedd gwleidyddol yn gyhoeddus.

Ceredigion
Fe ddaeth Plaid Cymru o fewn trwch blewyn i gipio'r cyngor - ond methiant oedd yr hanes yn y diwedd. Sioc ac ergyd syfyrdanol y sir oedd i Penri James, darpar ymgeisydd Seneddol y Blaid, golli ei sedd yng Ngogledd y Sir, Tirmynach. Roedd y Dem-Rhyddion yn gwybod yn iawn beth oedden nhw'n gwneud yn targedu Penri ac maen debyg y bod Marc Williams AS ei hun wedi cael ei weld yn canfasio ar hyd ward Penri yn ystod yr wythnos ddiwetha. Mae amlwg fod y Dem-Rhyddion am roi ymgyrch galed iawn iawn at ei gilydd i gadw'r sedd Seneddol ac maen debyg y bydd y golled hon yn ergyd i ymdrechion y Blaid i ail-gydio ynddi. Er yn golled ar y diwrnod fe brofodd Ceredigion ei bod hi'n bosib rhyw ddydd i Blaid Cymru, ar ddiwrnod da, gipio'r cyngor sir.

Sir Gâr
Dyma oedd stori hapusa'r Blaid am y diwrnod. Collodd hen arweinydd y cyngor, Meryl Gravell (no relation), ei sedd sy'n newyddion pen i gamp oherwydd roedd eu dull arweinyddol hi yn ymylu ar fod yn ddictat! Fel a nodwyd mewn blog blaenorol daeth y Blaid o fewn trwch blewyn i gipio sawl sedd arall hefyd fel Rhydaman. Un o hanesion llai ffodus Sir Gâr oedd y John Dixon fethu ennill Cynwyl Elfed - mae'r golled yma yn yr un categori a cholled Penri James yng Ngheredigion oblegid John Dixon yw ymgeisydd y Blaid i sedd Gorllewin Caerfyrddin yn y Cynulliad.

Y Cymoedd
Stori y cymoedd oedd fod Llafur wedi colli sawl cyngor ond ni chollwyd i cynghorau i neb arall mewn gwirionedd. Do fe wnaeth Plaid Cymru a hyd yn oed y Ceidwadwyr beth cynnydd mewn rhai ardaloedd ond fe rhannwyd y bleidlais Lafur allan rhwng tipyn o bawb felly erbyn yr etholiadau nesaf a fydd, mwy na thebyg, yn digwydd gyda'r Ceidwadwyr yn llywodraethu yn San Steffan fe ddoith Llafur nol yn gryf a chipio'r siroedd yn ol a mwyafrifau enfawr unwaith eto.

Maer Llundain
Wrth basio, gair am fuddugoliaeth Boris yn Llundain. Er nad ydw i'n Geidwadwr dwi'n falch fod Boris wedi ennill oherwydd y bydd yn heb enfawr ymlaen i ymdrechion y Ceidwadwyr i ennill yr etholiad cyffredinol nesaf. A dwi'n dechrau gweld y ddadl nawr mae llywodraeth Lundeinig Geidwadol fydd y peth gorau i wthio datganoli ymhellach - mae angen chwistrelliad a seibiant ar Lafur i ail-wefru eu batrîs. Mae angen i ni weld antithesis unwaith eto rhwng Llundain a Chaerdydd er mwyn ail-radicaleiddio Llafur i wthio, gyda sêl o'r newydd, am fwy o ddatganoli ac mae angen corwynt trwy'r Blaid Lafur i gael gwared a dynion y gorfennol fel Paul Murphy a Don Touige, sy'n ein arwain ymlaen at....

Ron Davies - Arwr
Ydych chi'n cofio y gŵr hwn? I mi mae Ron Davies yn arwr, ei waith ef mewn partneriaeth gyda Dayfdd Wigely sydd wedi ein cael ni i lle ydym ni heddiw - nid yw'n gyfrinach nad oedd Tony Blair a Gordon Brown yn rhy keen ar ddatganoli ond yn wyneb y ddau ddeinasor yna fe lwyddodd Ron Davies i gael y maen i'r wal a chael y Blaid Lafur i gefnogi datganoli yn 1997. Dwi'n gwbl argyhoeddedig pe na byddai Ron wedi cael ei 'foment o wallgofrwydd' yng Nghlapton Common yn 1998 y byddai gyda ni Senedd Ddeddfwriaeth lawn heddiw. Pam sôn am Ron felly? Wel fe ennillodd sedd fel aelod annibynol ar gyngor Caerffili ac fe ennillodd ei wraig sedd dros Blaid Cymru ar yr un cyngor hefyd! Gwrogaeth a pharch i'r ddau.

24.6.07

Blair, Rhufain a Gwleidyddiaeth

Mae sî wedi bod ar led ers blynyddoedd fod Tony Blair yn Babydd tu ôl i ddrysau caeëdig ac ei fod yn bwriadu gadael yr Eglwys Anglicanaidd ac ymuno ag Eglwys Rufain wedi iddo adael 10 Stryd Downing. Gyda'r dyddiad yna yn nesáu, wythnos nesaf, mae'r diddordeb yn y saga yma yn poethi yn enwedig felly wrth i Blair, yn ei daith tramor olaf fel Prif Weinidog, ymweld a'r Pab. Beth yn union yw arwyddocâd hyn felly? Wel, ers 1688 mae deddf gwlad yn datgan na all Gatholig fod yn Sofran, yn briod i'r Sofran neu yn ddarpar Sofran, mae'r ddeddf dal mewn grym heddiw. Er, yn dechnolegol, fod perffaith hawl gyfreithiol gan Gatholig fod yn Brif Weinidog does dim un erioed wedi bod – oherwydd perthynas Gwladwriaeth ac Eglwys (h.y. Brotestannaidd) yn Lloegr/Prydain dydy cael Prif Weinidog sy'n Babydd ddim yn 'done thing.'

Ond os ydy Blair wedi bod yn Babydd tu ôl i ddrysau caeedig ers blynyddoedd maith (rhai yn awgrymu ers 30 mlynedd) pa wahaniaeth mewn difri calon a wna ffydd bersonol Prif Weinidog i'w swydd? Wel, mwy na fyddech chi'n meddwl. Mae'r un dadleuon a oedd o amgylch yn 1688 yn bodoli heddiw sef bod Gwleidyddion a phobl mewn swyddi dylanwadol sydd hefyd yn perthyn i Eglwys Rufain yn, ag o fethu meddwl am air gwell, 'euog' o ddilyn cyngor/canllaw y Pab rhagor na cyngor/canllaw yr ysgrythur a'r etholwyr. Er enghraifft yn 2004 fe wrthododd rhai Esgobion Pabyddol weinyddu'r cymun i John Kerry a'i ymgyrchwyr oherwydd eu bod nhw'n fwy 'meddal' ar 'faterion mosegol' na Bush a'i ymgyrchwyr (i beg to differ!)

Yn ogystal ar ddeilema foesegol yna mae'r Pabyddion yn dal safbwynt tra gwahanol i'r Protestaniaid ar ymwnelo yr Eglwys a Gwleidyddiaeth. Mae Eglwys Rufain yn gyfrifol am osod yr Eglwys a'r Byd yn erbyn ei gilydd. Y naill yn Sanctaidd a'r llall yn parhau dan felltith. Gwelant bopeth sy tu allan i'r Eglwys fel petai dan ddylanwad yr un drwg ac fe ddefnyddiwyd Tynghedwr (Exorcist) i ddifa'r grym drwg yma o bopeth ddeuai dan ddylanwad, yn ddylanwad neu yn ysbrydoliaeth ar yr eglwys. Mewn gwlad Gristnogol (fel y mai Prydain Tony Blair) byddai rhaid i bopeth cymdeithasol gael ei roi dan adain yr Eglwys – yr unig le 'saff' i fod (dyma sy'n arwain gwleidyddion catholig i wrando ar y Pab cyn eu Beibl a chyn eu etholwyr). Canlyniad hyn fyddai fod rhaid i'r arweinwyr gwleidyddol a chyfreithiol fod yn eneiniog ac wedi eu clymu i gyffes.

Rhaid cyfaddef mod i'n ysgrifennu'r postiad yma gyda fy het diwinydd Calfinaidd ymlaen ond fy marn niwtral, academaidd hyd yn oed, i yw nad oes gan Babyddiaeth 'rational' lawn/gall i ymwneud a'r gwleidyddol all ffitio i mewn i wleidyddiaeth a threfn ddemocratiaeth gyfoes heddiw. Hyd y gwela i yr opsiynau mae Pabyddiaeth yn cynnig yw tynnu allan o'r sffêr wleidyddol yn llwyr NEU ceisio adfer trefn Theocrataidd a gorfodi moeswedd Gatholig-Gristnogol ar wrthrychau eu gwladwriaeth – ni fyddai yr un o rhain yn 'ymarferol' i Tony Blair ag yntae yn Brif Weinidog Gwladwriaeth neo-Seciwlar Ddemocrataidd Fodern. Fe wydda Blair hyn fe dybiaf, ac drwy gadw ei Babyddiaeth yn dawel tan iddo adael 10 Stryd Downing mae wedi arbed llawer iawn iawn o helynt a dadleuon mosegol, cyfansoddiadol hyd yn oed, am berthynas ffydd – gwladwriaeth – eglwys – moesau – rhyfel – sancteiddrwydd bywyd ayyb.... Yn y bôn, mae wedi dilyn cyngor ei gyn-gyfarwyddwr cyfathrebu, Alister Cambell ac mae wedi cadw at; “We don't do God.” Di-asgwrn cefn? Ofn beth fyddai'r Pab yn dweud am ei benderfyniadau? Tybiaf mai'r prif reswm am beidio 'dod allan' yn gynt oedd er mwyn osgoi gorfod ymdrin a'r gwleidyddol o safbwynt Cristnogol-Babyddol. Pe bawn i'n credu'r hyn mae'r Pabyddion yn ei gredu baswn ni'n ei chael hi'n anodd iawn gweithio o fewn unrhyw Blaid/trefn wleidyddol ym Mhrydain heddiw.