24.6.07

Blair, Rhufain a Gwleidyddiaeth

Mae sî wedi bod ar led ers blynyddoedd fod Tony Blair yn Babydd tu ôl i ddrysau caeëdig ac ei fod yn bwriadu gadael yr Eglwys Anglicanaidd ac ymuno ag Eglwys Rufain wedi iddo adael 10 Stryd Downing. Gyda'r dyddiad yna yn nesáu, wythnos nesaf, mae'r diddordeb yn y saga yma yn poethi yn enwedig felly wrth i Blair, yn ei daith tramor olaf fel Prif Weinidog, ymweld a'r Pab. Beth yn union yw arwyddocâd hyn felly? Wel, ers 1688 mae deddf gwlad yn datgan na all Gatholig fod yn Sofran, yn briod i'r Sofran neu yn ddarpar Sofran, mae'r ddeddf dal mewn grym heddiw. Er, yn dechnolegol, fod perffaith hawl gyfreithiol gan Gatholig fod yn Brif Weinidog does dim un erioed wedi bod – oherwydd perthynas Gwladwriaeth ac Eglwys (h.y. Brotestannaidd) yn Lloegr/Prydain dydy cael Prif Weinidog sy'n Babydd ddim yn 'done thing.'

Ond os ydy Blair wedi bod yn Babydd tu ôl i ddrysau caeedig ers blynyddoedd maith (rhai yn awgrymu ers 30 mlynedd) pa wahaniaeth mewn difri calon a wna ffydd bersonol Prif Weinidog i'w swydd? Wel, mwy na fyddech chi'n meddwl. Mae'r un dadleuon a oedd o amgylch yn 1688 yn bodoli heddiw sef bod Gwleidyddion a phobl mewn swyddi dylanwadol sydd hefyd yn perthyn i Eglwys Rufain yn, ag o fethu meddwl am air gwell, 'euog' o ddilyn cyngor/canllaw y Pab rhagor na cyngor/canllaw yr ysgrythur a'r etholwyr. Er enghraifft yn 2004 fe wrthododd rhai Esgobion Pabyddol weinyddu'r cymun i John Kerry a'i ymgyrchwyr oherwydd eu bod nhw'n fwy 'meddal' ar 'faterion mosegol' na Bush a'i ymgyrchwyr (i beg to differ!)

Yn ogystal ar ddeilema foesegol yna mae'r Pabyddion yn dal safbwynt tra gwahanol i'r Protestaniaid ar ymwnelo yr Eglwys a Gwleidyddiaeth. Mae Eglwys Rufain yn gyfrifol am osod yr Eglwys a'r Byd yn erbyn ei gilydd. Y naill yn Sanctaidd a'r llall yn parhau dan felltith. Gwelant bopeth sy tu allan i'r Eglwys fel petai dan ddylanwad yr un drwg ac fe ddefnyddiwyd Tynghedwr (Exorcist) i ddifa'r grym drwg yma o bopeth ddeuai dan ddylanwad, yn ddylanwad neu yn ysbrydoliaeth ar yr eglwys. Mewn gwlad Gristnogol (fel y mai Prydain Tony Blair) byddai rhaid i bopeth cymdeithasol gael ei roi dan adain yr Eglwys – yr unig le 'saff' i fod (dyma sy'n arwain gwleidyddion catholig i wrando ar y Pab cyn eu Beibl a chyn eu etholwyr). Canlyniad hyn fyddai fod rhaid i'r arweinwyr gwleidyddol a chyfreithiol fod yn eneiniog ac wedi eu clymu i gyffes.

Rhaid cyfaddef mod i'n ysgrifennu'r postiad yma gyda fy het diwinydd Calfinaidd ymlaen ond fy marn niwtral, academaidd hyd yn oed, i yw nad oes gan Babyddiaeth 'rational' lawn/gall i ymwneud a'r gwleidyddol all ffitio i mewn i wleidyddiaeth a threfn ddemocratiaeth gyfoes heddiw. Hyd y gwela i yr opsiynau mae Pabyddiaeth yn cynnig yw tynnu allan o'r sffêr wleidyddol yn llwyr NEU ceisio adfer trefn Theocrataidd a gorfodi moeswedd Gatholig-Gristnogol ar wrthrychau eu gwladwriaeth – ni fyddai yr un o rhain yn 'ymarferol' i Tony Blair ag yntae yn Brif Weinidog Gwladwriaeth neo-Seciwlar Ddemocrataidd Fodern. Fe wydda Blair hyn fe dybiaf, ac drwy gadw ei Babyddiaeth yn dawel tan iddo adael 10 Stryd Downing mae wedi arbed llawer iawn iawn o helynt a dadleuon mosegol, cyfansoddiadol hyd yn oed, am berthynas ffydd – gwladwriaeth – eglwys – moesau – rhyfel – sancteiddrwydd bywyd ayyb.... Yn y bôn, mae wedi dilyn cyngor ei gyn-gyfarwyddwr cyfathrebu, Alister Cambell ac mae wedi cadw at; “We don't do God.” Di-asgwrn cefn? Ofn beth fyddai'r Pab yn dweud am ei benderfyniadau? Tybiaf mai'r prif reswm am beidio 'dod allan' yn gynt oedd er mwyn osgoi gorfod ymdrin a'r gwleidyddol o safbwynt Cristnogol-Babyddol. Pe bawn i'n credu'r hyn mae'r Pabyddion yn ei gredu baswn ni'n ei chael hi'n anodd iawn gweithio o fewn unrhyw Blaid/trefn wleidyddol ym Mhrydain heddiw.

1 comment:

Anonymous said...

Mae Alex Salmond wedi addo y bydd yn ceisio newid t gyfraith fel y gall Pabydd fod yn frenin neu yn briod i ben y wladwriaeth.

Dw'i'm yn credu bydd dy sylwadau ynglyn a'r Eglwys Gatholig yn berthnasol iawn i bobl sydd ddim yn rhannu dy enwebiad crefyddol.