20.7.08

Endaf Emlyn

Maen rhaid i mi gyfaddef mod i wedi colli pob diddordeb yn y sin roc gymraeg ers blwyddyn a mwy. Ddim mod i wedi i wedi "bradychu" y sin ac wedi ymroi yn lle i ddilyn cerddoriaeth saesneg a mynychu gigs saesneg jest fod dim byd egsiting yn digwydd yn y sin gymraeg dyddiau yma. Dim gigs. Dim bandiau newydd ffresh. Dim hip-hop. Yr eithriad i'r ddeddf amwni yw Derwyddon Dr Gonzo, nhw ydy'r unig fand Cymraeg ar hyn o bryd dwi'n disgwyl mlaen i weld a dwi byth yn cael fy siomi. Mae dirfawr angen bandiau newydd ar y sin sy'n gwneud mwy na bod yn efelychwyr ail ddosbarth o'i harwyr cerddorol. Mae hefyd angen band hip-hop newydd llawn all ddod ag egsitment nol i'r sin fel y gwnaeth Lo-cut a Sleifar gyda Miwsig i'ch traed a miwsig i'ch meddwl ac Mc Mabon gyda Nia Non rhyw bum mlynedd yn ol nawr.

Ond er gwaethaf fy nadrithiad a'r sin Gymraeg fe es i draw i Sesiwn Fawr Dolgellau ddydd Sadwrn. Roedd hi'n fraint anghyffredin cael gweld a chlywed Endaf Emlyn yn perfformio Salem ar ei hyd yn fyw. Roedd y cyfan yn hudolus. Meddal a melys oedd ei lais cynnes cyfoethog - roedd yn ryfeddod. Salem oedd un o'r recordiau hynny y ces i fy magu arno - roedd yn ffefryn gan fy rhieni ac felly roedd ymlaen ar yr hen vinil yn aml pan oeddwn yn fach. Gan fod fy Nhad yn un o Feirionydd dwi'n ei gofio yn ymhelaethu ar hanesio y bobl ym mhob can - dwi ddim yn siwr hyd heddiw os oedd y storiau yn wir a'i peidio! A wyddwchi'r linell yn un o'r caneuon "a phan ddaw Pedr i agor ei lyfr...", roedd Dad wastad yn dweud wrtho ni mae son amdano fe oedd e - stori i'w goelio? Wn i ddim. Profiad bythgofiadwy oedd clywed Salem yn fyw.

Dim ond un band basw ni'n hoffi gweld yn Nolgellau flwyddyn nesa - Jess!

1 comment:

Linda said...

Wrthi'n gwrando ar Salem rwan ....diolch am fy atgoffa Rhys.