Hen luniau o'r teulu
Wncwl John o Geneva a'r teulu draw wythnos yma ac wedi pasio hen luniau o'r teulu i mi. Maen nhw'n hen rai o ddechrau'r Ungeinfed Ganrif, rhai o'r Bedwaredd Ganrif a'r bymtheg. Hollol anhygoel.
Fy hen hen hen Famgu a Tadcu:
Fy hen hen Mamgu gyda fy hen hen hen Famgu:
Llun priodas fy hen Famgu ac Wncwl Trefor, Mamgu yw'r groten fach draw ar y dde. Y gweinidog yw Nantlais Williams yr Emynydd, un o arweinwyr Diwygiad 04-05.
Tynnwyd y llun yma yn y Bedwaredd Ganrif a'r Bymtheg, dydy ni ddim yn siwr pwy yn union yw'r plant OND mae nhw'n sicr yn perthyn i ni oherwydd fod y ferch fach run spit ag Elain fy chwaer!
1 comment:
Ti'n edrych yn union fel dy hen hen hen Famgu! :P
Post a Comment