2.7.08

Rhodri Glyn Thomas a Llyfr y Flwyddyn

Pan glywais i yn gyntaf am gamgymeriad Rhodri Glyn Thomas yn cyhoeddi'r enw anghywir yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn neithiwr roeddw ni yn fy nyblau. Ond erbyn heno 'ma rwy'n teimlo'n sori dros Rhodri Glyn druan. Erbyn hyn mae'r helynt wedi cyrraedd tudalen flaen prif wefan newyddion y BBC dros Brydain nid dim ond BBC Cymru, gweler isod:



I chi sydd heb weld yr halibalw drostoch chi eich hun eto, rhowch glec YMA i weld y fideo. O diar o diar, o leia mae gan dim LOL eu dalen flaen nawr.

1 comment:

gethin said...

druan a fo. ond roedd o yn wych!
roedd o ar y breakfast news bob rhyw 10munud bore ma - roedden nhw'n gofyn i bawb ddanfon eu storiau o "embarassing moments" i mewn. er naethon nhw ddim son ei enw o - jyst "this Welsh minister" - ddim yn siwr os 'di hwnna'n beth da neu drwg.