24.7.08

Signal ffôn yng Nghymru yn styc yn yr Ugeinfed Ganrif

Dwi wedi cael iPhone ers wythnos nawr, dwi ddim wedi sgwennu adolygiad ar y blog 'to oherwydd fyddai ddim yn ei ddefnyddio fel ffôn tan ar ôl steddfod gan fod chydig o wythnosau gyda fi redeg allan ar fy hen gontract gyntaf. Ond un peth sydd wedi fy nharu yn barod ydy'r diffyg rhwydwaith ffôn symudol 3G yng Nghymru. Fe gew chi signal da ar hyd coridor yr M4, signal yng Nghanol tre Bangor a chanol tre Aberystwyth ac hefyd ardal eang ym Meirionydd ac Eifionydd rhwng Penrhyndeudraeth draw i Grigieith am ryw reswm! Ond heblaw am hynny chew chi ddim lwc o gwbl. Edrychwch ar y map isod sy'n dangos y rhwydwaith 3G yng Nghymru:



Yna cymharwch y rhwydwaith yn Lloegr i gymharu a'r rhwydwaith dros Gymru yn yr ail fap isod:



Dwi'n ffodus mod i'n treulio y rhan fwyaf o fy amser ym Mangor ac Aber lle mae yna signal gweddol (er, adre yn nhy fy rhieni does dim rhwydwaith 2G heb sôn am 3G felly dwi ar GPRS fan yma); ond mae'r diffyg rhwydwaith 3G yng Nghymru yn codi cwestiynnau dwfn i rheoleiddwyr y sector. Er enghriafft, ydy hi'n deg fod defnyddiwr iPhone O2 yng nghanol Llundain (neu Gaerdydd o ran hynny) yn cael mwynhau rhyngrwyd cyflymder band llydan ar ei iPhone tra bod Jo Bloggs draw yng Nghrymych yn talu yr union run swm y mis ac yn stryglo i lwytho tudalennau syml ar rwydwaith araf GPRS?

Dwi'n meddwl mod i'n iawn i ddweud fod rhai ardaloedd o Gymru yn parhau heb fand llydan! Gobeithio na fydd hi'n cymryd mor hir ag y gymerodd hi i ledaenu band llydan dros Gymru i ledaenu'r rhwydwaith ffôn 3G.

1 comment:

Nwdls said...

Digon gwir. Edrychais i ar yr union fap yna ddoe wrth feddwl am gael Band Llydan symudol ar gyfer fy laptop newydd (sbario fi brynu iphone ;-) ). Dim siawns, jose, oedd fy nghanlyniad.

Sdicia i at jecio ebost yn achlysurol ar fy ffon efo GPRS a 3G patchy, na chael modem 3G.

Ma Band Llydan hefyd yn waeth o lawer na be ma BT yn honni, a gyda nhw'n sôn am Fibre Optics a chyflymder o 100MB yn Llundain cyn bo hir, welwn ni unrhywbeth o hyn. Eto, no we (no gwe?), jose.

Da ni'n dlodion digidol yma Nghymru Rhys, ac mae'n hen bryd i ni godi ffys.