6.8.08

Steddfod yn y Ddinas 2


Bnawn ddoe ches i'r fraint o glywed diferion olaf athroniaeth gymraeg
yn traddodi. Cynwil Williams, Meredydd Evans a Walford Gaily oedd yn
siarad a hynny yn lansiad llyfr newydd ac olaf Dewi Z Phillips,
Ffiniau, lle maen trafod athroniaeth o safbwynt beirniadaeth lenyddol
Gymraeg. Dwi'n cyfeirio at yr ymddiddan ddoe fel diferion olaf
athroniaeth gymraeg oherwydd nad ydwi i'n gwel unrhyw arwydd yn fy
nghenhedlaeth i o fedru meddwl a thraddodi i'r un manylder a glywsom
ddoe, yn enwedig gan Walford.

Esboniodd Walford mae 1+1 yw 2 ac mae 2 yw 1+1. Aeth ymlaen wedyn i
ddweud ei fod yn dod o bentre bach ac mae pentre bach yw ei bentre fe.
Y gair allweddol felly yw yr "YW", mae'r 'yw' cyntaf yn reol wrth
drafod mathemateg ond amwys yw'r ail 'yw' yn trafod maint y pentref,
maen fater o ddehongliad ac nid barn os yw'r pentref wirioneddol yn un
bach. Mae'r pwynt/deilema yma wrth gwrs yn greiddiol bwysig ym myd
athroniaeth crefydd oherwydd adnod greiddiol y ffydd Gristnogol yw
honno sy'n mynd: "Duw cariad YW." Beth yw naturyr 'yw' yn yr adnod
enwog hwnnw? A'i rheol neu ddehongliad diagrifiadol ydyw?

Roedd meddwl a thrafodaeth Walford yn wefreiddiol ac byddai'n drueni
mawr petai cenhedlaeth Walford yr olaf i drafod metaffiseg mewn math
fanylder trwy gyfrwng y Gymraeg.

1 comment:

Nwdls said...

Mae cyfaill i fi'n aelod o'r Gymdeithas Athronyddiaeth Gymraeg, ac heb gyrraedd ei 30 eto, felly mae gobaith eto Rhys!