Showing posts with label Alcohol. Show all posts
Showing posts with label Alcohol. Show all posts

16.4.08

Yfed Binge [Vlog]

Dyma fy Vlog cyntaf!



Crynodeb geiriol: Dydw i ddim yn llwyr ymorthodwr ond dwi yn meddwl fod gor-yfed yn broblem go-iawn yn ein cymdeithas heddiw yn arbennig ymysg Cymry Cymrag. Dwi'n Warden yn Neuadd John Morris Jones a heno yma roedd ôl-yfed mawr ar hyd lle a'r yfed wedi digwydd cyn mynd i yfed ymhellach yn y dre! Ond yr hyn wnaeth fy nghymell i ffilmio oedd y llanast oedd y myfyrwyr wedi gadael ar eu hol, os cael "hwyl" o'r fath y peth lleia medra nhw wneud ydy clirio ar eu hol yn lle rhoi mwy o waith i'r glanhawyr bore fory, druan a nhw.

Ydw i yn bod yn sninach blin yn codi'r pwnc hwn eto ar y blog neu ydy hwn yn broblem cymdeithasol real?

15.8.07

maes b - maes meddwi - cyfrinach dywyll yr eisteddfod?

Mae pawb yn ymwybodol o hoffter y Cymry o'r ddiod gadarn. Amhosib yw mynychu unrhyw ddigwyddiad Cerddorol, Llenyddol neu Chwaraeon Cymreig heb fod y cwrw neu'r gwin yn llifo'n rhydd. Meiddia i awgrymu fod presenoldeb y ddiod gadarn ar lawer achlysur wedi troi yn bwysicach na'r gerddoriaeth ei hun? Yn bwysicach na'r gêm rygbi ei hun?

Nos Fawrth diwethaf roedd Meic Stevens yn lansio ei albwm newydd – roedd yna stondin yna yn gwerthu'r CD. Er fod yna lond pabell o bobl yn 'lyfio', yn 'addoli' ac 'yn ffan penna' Meic – dim ond un, ie un, CD a werthwyd. Pam hynny te? Wel esboniad fy nghyfaill (nad sy'n Gristion o argyhoeddiad fel fi) oedd y byddai gwell ganddynt wario eu £10 olaf ar bedwar diod arall nag ei wario ar CD newydd eu 'harwr'.

Nawr cyn mynd ymlaen ym mhellach rhaid i mi bwysleisio mae nid siarad o safbwynt dirwestol ydw i. Nid wyf yn llwyr-ymorthodwr, mae pawb sydd yn fy adnabod yn gwybod yn iawn am fy hoffter o win goch, seider potel ac yn fwy diweddar (a petrusgar) fodca a côc! Rwyf yn yfed alcohol yn gymhedrol ac yn falch o wneud. Felly nid Cristion yn twt-twtian mo'r llith yma ond yn hytrach Cymro yn gofidio am les ei gyd-Gymry a'i genedl.

Fel y bydd rhai wedi tybio erbyn nawr yr hyn am cymhellodd i roi'r ychydig eiriau yma at ei gilydd oedd y profiad o weld y crochan meddwol ys gelwid yn 'maes b' wythnos diwethaf. O fyw ym Mhantycelyn am dair mlynedd dwi wedi gweld Cymry Cymraeg ac alcohol yn dawnsio'r ddawns olaf sawl tro fel y gellwch ddychmygu ond roedd maes b eleni yn ddychryn i bawb.

I ddechrau roedd oedran y plant yn hurt o ifanc – rwy'n gwybod fel ffaith fod yna blant 13 oed yna yn cael eu gweini tu ôl y bar heb ddim cwestiynnau yn cael eu gofyn. I ddweud y gwir dywedodd sawl un wrthyf nad oedd staff y bar yn gofyn am unrhyw I.D. gan neb. Rhaid i mi gyfaddef mod i wedi cael fy ngweini cyn fy mod i'n 18, a dwi ddim yn gweld problem gyda hyny cyhyd a bod yr yfed yn gall a chymhedrol. Ond mae gweini alcohol i blant 16, 15, 14 ac 13 hyd yn oed sydd yn amlwg wedi cael gormod i yfed eisioes nid yn unig yn erbyn y gyfraith ond yn yn sylfaenol an-foesol. Diddorol oedd sylwad Rhys Wynne yn fy mlogiad diwethaf am hyn:

“Fues i ddim draw i Faes B, ond fe ddywedodd bron i pob un person welais i oedd wedi bod yno, eu bod nhw hefyd wedi cael tipyn o sioc - sy'n dweud llawer o ystyried ein hagweddau arferol ni Gymry Cymraeg ifanc(ish) at alcohol.”


Tybed a yw Llys yr Eisteddfod yn ymwybodol o anferthedd y broblem? Yna beth am y prif gopyn Richard Brunstrom? Roedd e'n troedio'r prif faes yn ystod y dydd, tybed beth fyddai ei ymateb pe tae wedi penderfynnu troedi maes b am 1am? Tybed pam fod awdurdodau'r Eisteddfod yn dewis anwybyddu'r broblem yma? Ydy nhw'n dibynnu ar yr incwm o bosib ac felly ddim am amharu ar rhywbeth sy'n 'gweithio' yn ariannol? Dim ond gofyn.

Dwi ddim cweit yn siwr beth yw'r ateb i'r broblem ond dyma rai argymhellion:

1. Codi oedran maes b o 14 i 16 (er yn gam mosegol cywir mae'r steddfod yn anhebygol o gytuno oherwydd bydd yn golygu cwymp sylweddol mewn incwm)

2. Bod yn bar yn maes-b yn tynnhau eu gofyn am I.D. ac yn peidio gweini pobl sy'n amlwg wedi cael gormod yn barod (ddim yn ateb y broblem mi wn ac yn anodd i'w weithredu, ond yn gam i'r cyfeiriad cywir)

3. Gwaharadd dod ac alcohol personnol ar y maes ieuenctid (braidd yn llem efallai ond yn ffordd effeithiol o leihau problem gor-yfed yn maes b)


Ond yn fwy cyffredinnol dwi'n meddwl y dylai llywodraeth y cynulliad ddod a'r argymhellion isod i mewn i rym dros y wlad:

1. Gwaharadd hysbysebu alcohol (fel tobbaco)

2. Gwahardd partion punt, a cynnigion ar ddiodydd sydd yn annog gor-yfed

3. Codi treth uwch ar alcohol ac felly yn gwneud gor-yfed yn fusnes rhy ddrud i wneud – yn ennwedig i bobl ifanc.


A dyma fi mwy na thebyg wedi dod i ddiwedd y postiad mwyaf amhoblogaidd dwi erioed wedi cyhoeddi ar fy mlog. Ond yn dilyn dinistr maes b roedd fy nghydwybod yn dweud wrtha i fod rhaid dweud rhywbeth. Dwi o blaid yfed cofiwch, jest byddwch gall a chymhedrol.

Iechyd da!

14.8.07

Fy Steddfod i

Dwi wedi dychwelyd o'r Eisteddfod ac wedi mwynhau fy hun mas draw. Yn ôl yr arfer fe renais fy amser yn gywrain rhwng gweithgareddau a gigs y Gymdeithas a gweithgaredd y Gorlan. Fe aeth gigs y Gymdeithas yn wych, roedd yr awyrgylch yn arbennig y system sain yn rhagorol a'r gallu i osod eich pabell yna mewn awylgylch lot mwy ymlaciol na maes b yn goron ar y cyfan. Dau set wnaeth aros allan yn arbenniog i mi oedd set Sibrydion a set Y Derwyddon. Sibrydion heb os yw pros mwya y Sin Roc Gymraeg – roedd profiad dros 15 mlynedd ar y sîn (Beganifs>Big Leaves>Sibrydion) yn amlwg yn aeddfedrwydd eu set. Mae'r Derwyddon yn fand fydd yn tyfu i fod yn fand enfawr – roedd eu set nhw yn hollol sgleiniedig ac eu sengl ddiweddara 'Madrach' yn profi i fod yn anthem y 'steddfod.

Fe aeth gweithgareddau'r Gorlan yn gret eleni hefyd yn fy nhyb i. Yn ôl yr arfer fe fwydwyd sawl mil o Gymry ifanc a hynny am bris rhesymol iawn ac allan o gariad tuag at ein cyd-Gymru. Ond y datblygiad newydd eleni oedd digwyddiadau 'Limbo' yn ystod y dydd – sef dangos ffilmiau a sesiynau meiciau agored. Hynny yw troi y Gorlan yn fwy o hang-out yn hytrach na jest pit-stop. Dwi'n gobeithio i'r weithgareddau limbo ddangos i rai bobl mae nid jest Cristnogion sych-syber oeddem ni ond ein bod ni'n Gymry normal fatha pawb arall hefyd – oherwydd i'r mur yna gael ei dynnu i lawr ro ni'n gweld pobl yn fwy hapus i drafod ffydd gyda ni.

Ond ar nodyn llai cadarnhaol rhaid mi ddweud mod i'n brawychu o weld sut mae maes b a'r maes ieuenctid wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf. Plant bach iawn yna yn feddw rhacs – bydd rhaid mynegi fy marn am hyn mewn postiad ar wahan – ond yn fyr – mae'n broblem fawr mae'r steddfod, sefydliad mwyaf parchus Cymru, rhywsut yn ei anwybyddu'n llwyr.