Showing posts with label Y Gorlan. Show all posts
Showing posts with label Y Gorlan. Show all posts

8.7.08

Dylunio crys-t Y Gorlan 2008

Dwi wedi bod yn gwneud lot o waith dylunio dros y penwythnos, ddoe a bore ma; y rhan fwyaf mewn paratoad i waith llawer o fudiadau i'r Eisteddfod yng Nghaerdydd. Bore ma dwi wedi bod yn dylunio Crys-T i'r Gorlan, mi fydd mynnychwyr ffyddlon y Gorlan wedi hen arfer gyda'r crys-t thematic blynyddol y mae'r staff yn gwisgo. Thema'r Gorlan eleni ydy Datguddiad 21 a'r syniad am nef a dear newydd sy'n rhydd o unrhyw ofid a phoen. Dyma'r dyluniad/drafft cynta o'r crys-t wnes i weithio arno bore ma:



Gwefan y Gorlan

Gwefan fy ngwaith dylunio

2.4.08

Martin Luther King a Radicaliaeth Gristnogol yng Nghymru

Ar ôl gweld a chael fy ysbrydoli gan y rhaglen Martin Luther King: American Prophet am Gristnogaeth efengylaidd (i bob pwrpas) Luther King roedd hi'n braf gweld fod yr un radicaliaeth Gristnogol yn fyw yn rhengoedd Cymdeithas yr Iaith heddiw - wele yr 'hoodie' Gorlan yr oedd un o'r ymgyrchwyr yn gwisgo allan neithiwr yn rhywle (Caerfyrddin?):



Gwnaeth y rhaglen am Luther King wneud i mi sylwi o'r newydd nad oes rhaid i mi gadw fy ffydd a'r hyn mae Duw wedi rhoi ar fy nghalon yn breifat, i'r gwrthwyneb, bydd fy ymwneud cyhoeddus yn wleidyddol, fel Luther King, yn gyfoethocach o bwyso mwy a mwy ar fy ffydd.

14.8.07

Fy Steddfod i

Dwi wedi dychwelyd o'r Eisteddfod ac wedi mwynhau fy hun mas draw. Yn ôl yr arfer fe renais fy amser yn gywrain rhwng gweithgareddau a gigs y Gymdeithas a gweithgaredd y Gorlan. Fe aeth gigs y Gymdeithas yn wych, roedd yr awyrgylch yn arbennig y system sain yn rhagorol a'r gallu i osod eich pabell yna mewn awylgylch lot mwy ymlaciol na maes b yn goron ar y cyfan. Dau set wnaeth aros allan yn arbenniog i mi oedd set Sibrydion a set Y Derwyddon. Sibrydion heb os yw pros mwya y Sin Roc Gymraeg – roedd profiad dros 15 mlynedd ar y sîn (Beganifs>Big Leaves>Sibrydion) yn amlwg yn aeddfedrwydd eu set. Mae'r Derwyddon yn fand fydd yn tyfu i fod yn fand enfawr – roedd eu set nhw yn hollol sgleiniedig ac eu sengl ddiweddara 'Madrach' yn profi i fod yn anthem y 'steddfod.

Fe aeth gweithgareddau'r Gorlan yn gret eleni hefyd yn fy nhyb i. Yn ôl yr arfer fe fwydwyd sawl mil o Gymry ifanc a hynny am bris rhesymol iawn ac allan o gariad tuag at ein cyd-Gymru. Ond y datblygiad newydd eleni oedd digwyddiadau 'Limbo' yn ystod y dydd – sef dangos ffilmiau a sesiynau meiciau agored. Hynny yw troi y Gorlan yn fwy o hang-out yn hytrach na jest pit-stop. Dwi'n gobeithio i'r weithgareddau limbo ddangos i rai bobl mae nid jest Cristnogion sych-syber oeddem ni ond ein bod ni'n Gymry normal fatha pawb arall hefyd – oherwydd i'r mur yna gael ei dynnu i lawr ro ni'n gweld pobl yn fwy hapus i drafod ffydd gyda ni.

Ond ar nodyn llai cadarnhaol rhaid mi ddweud mod i'n brawychu o weld sut mae maes b a'r maes ieuenctid wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf. Plant bach iawn yna yn feddw rhacs – bydd rhaid mynegi fy marn am hyn mewn postiad ar wahan – ond yn fyr – mae'n broblem fawr mae'r steddfod, sefydliad mwyaf parchus Cymru, rhywsut yn ei anwybyddu'n llwyr.

23.6.07

Y Gorlan: saith mlynedd yn ddiweddarach...

Fuesi lawr yn Llanelli heddiw yn ffilmio fideo's ar gyfer Y Gorlan, rhai i roi ar y wefan a rhai i chwarae ar sgrin fawr yn y Gorlan ei hun yn yr Eisteddfod eleni. Roedd un, ro ni'n teimlo, mor bwerus roedd rhaid i mi fynd syth ati i'w olygu ar ôl cyrraedd adre ac am hanner nos dyma fi wedi ei lwytho i youtube. Wnai ddim dweud mwyd, jest edrychwch ar y fideo (gyda llaw, nid fy mai i oedd hi fod hi'n wyntog!)...