Showing posts with label Eisteddfod. Show all posts
Showing posts with label Eisteddfod. Show all posts

22.4.08

I'd do anything... fasw ni ddim

Mae Menna, fel pob merch maen siŵr, wedi dotio gyda'r gyfres 'I'd do anything' – y gyfres ar y BBC i ganfod y Nancy nesaf. Mae Tara Bethan, ein Tara ni (!), allan wrth gwrs ond mae diddordeb Menna yn y rhaglen yn parhau. Ond wrth gwrs rhan o ffenomenon gyffredinol y byd darlledu yw'r gyfres ddiweddaraf yma oherwydd yn perthyn i'r un categori y mae'r rhaglenni canlynol: Pop Idol, X Factor, Stricktly Come Dancing, Dancing on Ice, Fame Academy ac wrth gwrs cyfresi fel I'd do Anything ac How do you find a girl like Maria. Fe ymddengys mae dyma yw big hitters y diwydiant teledu ar hyn o bryd gyda'r BBC ac ITV yr un fath. Maen rhaid mae apel rhagleni o'r fath yw'r cyfuniad od o berfformio a chystadlu, dyma yw'r peth mawr, y peth diweddaraf ar hyn o bryd ym myd teledu Anglo-Americanaidd.

Ond echnos pan oedd y rhaglen mlaen wnaeth e fy nharo i nad yw cysyniad y rhaglenni yma yn ddim byd newydd i ni yng Nghymru, nid yw'r rhaglenni yma yn ddim byd mwy na fersiynau cyfoes a jazzed-up o'r Eisteddfod!

12.4.08

Codi tâl ar addolwyr yn 'steddfod: beth fyddai Dr. Tudur yn dweud?

Os ydych chi'n anorac Cristnogol fel fi mi fyddwch chi wedi clywed y newydd diweddar fod yr Eisteddfod wedi penderfynnu codi tâl ar bobl fydd am ymweld a maes yr Eisteddfod ar y Sul i fynychu'r gwasanaeth boreuol blynyddol. Mae'r arweinwyr Eglwysig, yn anad neb Aled Edwards (Cytun) a Geraint Tudur (Annibynwyr) wedi beirniadu'r penderfyniad yn hallt - mae'r stori lawn i'w darllen ar wefan y BBC fan yma.

Wrth i mi ddarllen y stori fe ddaeth i nghof i fod Dr. Tudur Jones wedi "gwrthod" cymryd rhan mewn gwasanaeth crefyddol oedd yn rhan o drefniadau'r Eisteddfod ym Mangor yn 1970. Dyma ddywedodd Dr. Tudur mewn llythyr at John Roberts, trefnydd yr Eisteddfod ar y pryd:

"Diolch yn fawr ichwi am eich llythyr... a'r gwahoddiad caredig i ymuno yn y gwasanaeth yn yr Eglwys Gadeiriol ar Mehefin 28ain.

Ofnaf na allaf dderbyn y gwahoddiad a hoffwn esbonio pam. Fel sefydliad cenedlaethol, ni ddylai'r Eisteddfod arddel unrhyw ffurf ar grefydd. Credaf fod egwyddor go bwysig i'n bywyd fel cenedl yn y fantol pan fo swyddfa a swyddogion yr Eisteddfod yn cymryd arnynt eu hunain drefnu gwasanaeth crefyddol y byddai llaweroedd o gefnogwyr yr Eisteddfod yn teimlo annifyrrwch ynglŷn a chymryd rhan ynddo. Y mae'r Eisteddfod at wasanaeth pawb pa un bynnag a ydynt yn Gristnogion ai peidio...

Peidiwch a cham-ddeall chwaith. Syniad hapus ddigon yw i'r Eglwys yng Nghymru neu i eglwysi Bangor drefnu oedfa mewn cysylltiad a'r cyhoeddi. A gweddus o beth yw i swyddogion yr Eisteddfod fod yn bresennol os ydynt yn Gristnogion. Peth pur wahanol yw i beirianwaith yr Eisteddfod gael ei ddefnyddio i drefnu oedfeuon o'r fath. Ni bu gennym grefydd sefydledig yng Nghymru ers hanner canrif union...

Gyda llaw, sylwaf eich bod ym mharagraff olaf eich llythyr yn gwahodd gweinidogion i “wisgo eu gynnau”. Oni fyddai hynny'n beth brawychus iawn? Onid diogelach fyddai iddynt wisgo eu gynau?"


Diddorol iawn ynte? Ac mae'n codi'r cwestiwn wrth gwrs, beth fyddai ymateb Dr. Tudur i'r hyn sydd ar y newyddion nawr am wasanaethau crefyddol yr Eisteddfod? Ar un llaw gellid gweld penderfyniad yr Eisteddfod i beidio rhoi "ffafr" i Gristnogion fel cam tuag at ddelfryd Dr. Tudur yn y llythyr uchod sef, yn y bon, na ddylid cysylltu unrhyw sefydliad cenedlaethol seciwlar ag un crefydd/eglwys benodol. Egwyddor absoliwt Dr. Tudur fod rhaid cadw lled-braich pendant rhwng gwladwriaeth ac eglwys sydd ar waith fan hyn wrth gwrs. Fyddai hi ddim yn deg i mi roi geiriau yn ei geg, nac yn dangos gwrthrychedd academaidd o'm rhan i , ond tybed beth fyddai gan Dr. Tudur i ddweud am yr helynt yma? Mae islais y llythyr uchod yn awgrymu na fyddai wedi cynhyrfu gymaint ag y mae Aled Edwards (Cytun) wedi ei wneud na chwaith Geraint Tudur - llais Annibynia heddiw. Diddorol yn wir.

Dim ond holi a phrocio diniwed yw fy mwriad!

15.8.07

maes b - maes meddwi - cyfrinach dywyll yr eisteddfod?

Mae pawb yn ymwybodol o hoffter y Cymry o'r ddiod gadarn. Amhosib yw mynychu unrhyw ddigwyddiad Cerddorol, Llenyddol neu Chwaraeon Cymreig heb fod y cwrw neu'r gwin yn llifo'n rhydd. Meiddia i awgrymu fod presenoldeb y ddiod gadarn ar lawer achlysur wedi troi yn bwysicach na'r gerddoriaeth ei hun? Yn bwysicach na'r gêm rygbi ei hun?

Nos Fawrth diwethaf roedd Meic Stevens yn lansio ei albwm newydd – roedd yna stondin yna yn gwerthu'r CD. Er fod yna lond pabell o bobl yn 'lyfio', yn 'addoli' ac 'yn ffan penna' Meic – dim ond un, ie un, CD a werthwyd. Pam hynny te? Wel esboniad fy nghyfaill (nad sy'n Gristion o argyhoeddiad fel fi) oedd y byddai gwell ganddynt wario eu £10 olaf ar bedwar diod arall nag ei wario ar CD newydd eu 'harwr'.

Nawr cyn mynd ymlaen ym mhellach rhaid i mi bwysleisio mae nid siarad o safbwynt dirwestol ydw i. Nid wyf yn llwyr-ymorthodwr, mae pawb sydd yn fy adnabod yn gwybod yn iawn am fy hoffter o win goch, seider potel ac yn fwy diweddar (a petrusgar) fodca a côc! Rwyf yn yfed alcohol yn gymhedrol ac yn falch o wneud. Felly nid Cristion yn twt-twtian mo'r llith yma ond yn hytrach Cymro yn gofidio am les ei gyd-Gymry a'i genedl.

Fel y bydd rhai wedi tybio erbyn nawr yr hyn am cymhellodd i roi'r ychydig eiriau yma at ei gilydd oedd y profiad o weld y crochan meddwol ys gelwid yn 'maes b' wythnos diwethaf. O fyw ym Mhantycelyn am dair mlynedd dwi wedi gweld Cymry Cymraeg ac alcohol yn dawnsio'r ddawns olaf sawl tro fel y gellwch ddychmygu ond roedd maes b eleni yn ddychryn i bawb.

I ddechrau roedd oedran y plant yn hurt o ifanc – rwy'n gwybod fel ffaith fod yna blant 13 oed yna yn cael eu gweini tu ôl y bar heb ddim cwestiynnau yn cael eu gofyn. I ddweud y gwir dywedodd sawl un wrthyf nad oedd staff y bar yn gofyn am unrhyw I.D. gan neb. Rhaid i mi gyfaddef mod i wedi cael fy ngweini cyn fy mod i'n 18, a dwi ddim yn gweld problem gyda hyny cyhyd a bod yr yfed yn gall a chymhedrol. Ond mae gweini alcohol i blant 16, 15, 14 ac 13 hyd yn oed sydd yn amlwg wedi cael gormod i yfed eisioes nid yn unig yn erbyn y gyfraith ond yn yn sylfaenol an-foesol. Diddorol oedd sylwad Rhys Wynne yn fy mlogiad diwethaf am hyn:

“Fues i ddim draw i Faes B, ond fe ddywedodd bron i pob un person welais i oedd wedi bod yno, eu bod nhw hefyd wedi cael tipyn o sioc - sy'n dweud llawer o ystyried ein hagweddau arferol ni Gymry Cymraeg ifanc(ish) at alcohol.”


Tybed a yw Llys yr Eisteddfod yn ymwybodol o anferthedd y broblem? Yna beth am y prif gopyn Richard Brunstrom? Roedd e'n troedio'r prif faes yn ystod y dydd, tybed beth fyddai ei ymateb pe tae wedi penderfynnu troedi maes b am 1am? Tybed pam fod awdurdodau'r Eisteddfod yn dewis anwybyddu'r broblem yma? Ydy nhw'n dibynnu ar yr incwm o bosib ac felly ddim am amharu ar rhywbeth sy'n 'gweithio' yn ariannol? Dim ond gofyn.

Dwi ddim cweit yn siwr beth yw'r ateb i'r broblem ond dyma rai argymhellion:

1. Codi oedran maes b o 14 i 16 (er yn gam mosegol cywir mae'r steddfod yn anhebygol o gytuno oherwydd bydd yn golygu cwymp sylweddol mewn incwm)

2. Bod yn bar yn maes-b yn tynnhau eu gofyn am I.D. ac yn peidio gweini pobl sy'n amlwg wedi cael gormod yn barod (ddim yn ateb y broblem mi wn ac yn anodd i'w weithredu, ond yn gam i'r cyfeiriad cywir)

3. Gwaharadd dod ac alcohol personnol ar y maes ieuenctid (braidd yn llem efallai ond yn ffordd effeithiol o leihau problem gor-yfed yn maes b)


Ond yn fwy cyffredinnol dwi'n meddwl y dylai llywodraeth y cynulliad ddod a'r argymhellion isod i mewn i rym dros y wlad:

1. Gwaharadd hysbysebu alcohol (fel tobbaco)

2. Gwahardd partion punt, a cynnigion ar ddiodydd sydd yn annog gor-yfed

3. Codi treth uwch ar alcohol ac felly yn gwneud gor-yfed yn fusnes rhy ddrud i wneud – yn ennwedig i bobl ifanc.


A dyma fi mwy na thebyg wedi dod i ddiwedd y postiad mwyaf amhoblogaidd dwi erioed wedi cyhoeddi ar fy mlog. Ond yn dilyn dinistr maes b roedd fy nghydwybod yn dweud wrtha i fod rhaid dweud rhywbeth. Dwi o blaid yfed cofiwch, jest byddwch gall a chymhedrol.

Iechyd da!

14.8.07

Fy Steddfod i

Dwi wedi dychwelyd o'r Eisteddfod ac wedi mwynhau fy hun mas draw. Yn ôl yr arfer fe renais fy amser yn gywrain rhwng gweithgareddau a gigs y Gymdeithas a gweithgaredd y Gorlan. Fe aeth gigs y Gymdeithas yn wych, roedd yr awyrgylch yn arbennig y system sain yn rhagorol a'r gallu i osod eich pabell yna mewn awylgylch lot mwy ymlaciol na maes b yn goron ar y cyfan. Dau set wnaeth aros allan yn arbenniog i mi oedd set Sibrydion a set Y Derwyddon. Sibrydion heb os yw pros mwya y Sin Roc Gymraeg – roedd profiad dros 15 mlynedd ar y sîn (Beganifs>Big Leaves>Sibrydion) yn amlwg yn aeddfedrwydd eu set. Mae'r Derwyddon yn fand fydd yn tyfu i fod yn fand enfawr – roedd eu set nhw yn hollol sgleiniedig ac eu sengl ddiweddara 'Madrach' yn profi i fod yn anthem y 'steddfod.

Fe aeth gweithgareddau'r Gorlan yn gret eleni hefyd yn fy nhyb i. Yn ôl yr arfer fe fwydwyd sawl mil o Gymry ifanc a hynny am bris rhesymol iawn ac allan o gariad tuag at ein cyd-Gymru. Ond y datblygiad newydd eleni oedd digwyddiadau 'Limbo' yn ystod y dydd – sef dangos ffilmiau a sesiynau meiciau agored. Hynny yw troi y Gorlan yn fwy o hang-out yn hytrach na jest pit-stop. Dwi'n gobeithio i'r weithgareddau limbo ddangos i rai bobl mae nid jest Cristnogion sych-syber oeddem ni ond ein bod ni'n Gymry normal fatha pawb arall hefyd – oherwydd i'r mur yna gael ei dynnu i lawr ro ni'n gweld pobl yn fwy hapus i drafod ffydd gyda ni.

Ond ar nodyn llai cadarnhaol rhaid mi ddweud mod i'n brawychu o weld sut mae maes b a'r maes ieuenctid wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf. Plant bach iawn yna yn feddw rhacs – bydd rhaid mynegi fy marn am hyn mewn postiad ar wahan – ond yn fyr – mae'n broblem fawr mae'r steddfod, sefydliad mwyaf parchus Cymru, rhywsut yn ei anwybyddu'n llwyr.

13.7.07

Glaw cadw draw

Dydy e ddim yn ffasiynol i sôn am y tywydd. Ond maen annodd peidio yr haf yma. Dwi'n synnu mod i hyd yn oed wedi galw'r cyfnod yma o'r flwyddyn yn haf. Roeddwn ni'n disgwyl ymlaen i gael mwynhau gwneud fy ngwaith ymchwil a darllen allan yn yr ardd - heb ddim byd arall yn mynd am sylw - jest fi a'r llyfr yn mwynhau yn yr haul. Breuddwyd gwrach oedd gobeithio gael Mehefin a Gorffennaf tebyg. A beth am weddill yr haf? Wel dydy penwythnos yma yn gwella dim. Glaw fory, cymylau dydd Sadwrn a mwy o law dydd Sul a dydd Llun (gweler y mapiau).

Mae rhai wedi sôn fod yna 'heat wave' ar y ffordd erbyn dechrau Awst, wythnos yr Eisteddfod. Ddim yn ôl y dyn tywydd yn anffodus. Dyma'r mae'r BBC yn ei ddweud am ddiwedd Gorffennaf dechrau Awst:


Some sunshine in the south: The Azores High may at last begin to assert itself in our direction and some southern areas of the UK can expect the weather to be a little drier and warmer - northern areas will be the last to see any improvement, if at all.
Wellingtons bydd hi dwi'n amau!

23.6.07

Y Gorlan: saith mlynedd yn ddiweddarach...

Fuesi lawr yn Llanelli heddiw yn ffilmio fideo's ar gyfer Y Gorlan, rhai i roi ar y wefan a rhai i chwarae ar sgrin fawr yn y Gorlan ei hun yn yr Eisteddfod eleni. Roedd un, ro ni'n teimlo, mor bwerus roedd rhaid i mi fynd syth ati i'w olygu ar ôl cyrraedd adre ac am hanner nos dyma fi wedi ei lwytho i youtube. Wnai ddim dweud mwyd, jest edrychwch ar y fideo (gyda llaw, nid fy mai i oedd hi fod hi'n wyntog!)...

30.5.07

Polau Piniwn ar fy mlog

Fe welesi Bol Piniwn ar flog Ciaran Jenkins felly dyma ddwyn y syniad. Bydd yna Bol Piniwn yn ymddangos bob wythnos (os bydd amser/amynedd yn caniatau) ym mar ochr. fy mlog. Gan ei bod hi'n wythnos eisteddfod yr Urdd pol piniwn eisteddfotaidd sydd yna.