Ali G yng Nghymru
Dwi ddim yn cofio os ydw i wedi cyfeirio at y fideo yma o'r blaen ond maen un o fy ffefrynau. Ali G yng Nghymru, mwynhewch:
Dwi'n meddwl fod tystiolaeth Gristnogol wastad wedi cael y broblem o fod yn 'high-brow' a dwi cymaint a neb wedi gwneud fy siar yn cyfrannu i'r broblem yma, rwy'n ymddiheuro. Pan yn coleg roeddw ni ac eraill wedi tybio fod y model cyfarfod undeb Cristnogol o gael darlithydd neu weinidog i draethu ar bwnc trwm wedi apelio nol yn y 70au a bod tyrfa niferus yn mynychu'r cyfarfodydd ond fod y model yna ddim mynd i weithio heddiw, wrth reswm. Ond fe ddoes ar draws tystiolaeth yn awgrymu fod y model ddim yn gweithio yn y 70au chwaith ac fod y cyfan yn cael ei gynnal yn yr ysbryd cywir maen siŵr ac fod y cymhellion yn gywir ond yn anffodus yn rhy 'high-brow' i fod yn unrhyw gyfrwng effeithiol i genhadaeth.
“Cafwyd blwyddyn gymharol lwyddiannus eleni. Mae gennym gnewyllyn o tua hanner dwsin o Gristnogion sy'n mynychu'r holl weithgareddau Cymraeg yn ffyddlon, ac yna tua phymtheg o fyfyrwyr eraill sydd yn dod yn achlysurol. Cafwyd cyfres o gyfarfodydd ar Nos Sul ar y thema 'Ffydd', gyda phwyslais arbennig ar arwyr y ffydd, rhai o'r Hen Destament a rhai o hanes Cymru.” Llythyr Agored gan XXX XXXXX1, Awst 1971 (yng nghasgliad R. Tudur Jones, Bangor)
Postiwyd gan
Rhys Llwyd
am
12:30 am
0
Sylwad
Labeli: Cristion, Cristnogaeth, Cymru, Diwinyddiaeth, Iesu Grist
Protest yn Morrisons Caernarfon - 3.5.2008
www.cymdeithas.org
Postiwyd gan
Rhys Llwyd
am
8:36 am
0
Sylwad
Labeli: Cymdeithas yr Iaith, Cymru, Deddf Iaith Newydd, Morrisons, vlog
parhad o'r postiad blaenorol...
Ym mhroffwydoliaeth Amos maen amlwg fod dosbarth pwerus a chefnog o drigolion Samaria, prifddinas Israel, wedi dod i fod yn bobl gyfoethog, hunanol ac anghyfiawn. Oherwydd i'r dosbarth uwch drethu'n drwm a chipio tiroedd dechreuodd caethwasiaeth anghyfreithlon ac anfoesol yn ogystal â chreulondeb tuag at y tlawd yn gyffredinol. Ar yr olwg gyntaf nid oes modd tynnu cymariaethau amlwg rhwng y sefyllfa yn oes Amos â'r sefyllfa gyfoes yng Nghymru ac nid wyf am ddechrau beirniadu trên grefi Caerdydd ond gadewch i ni ystyried rhai cymariaethau. Wrth goffáu diweddu'r fasnach gaethwasiaeth eleni fe dynnwyd sylw gan elusen Gristnogol Tearfund fod caethwasiaeth ar ffurf human-trafficing at ddiben y diwydiant rhyw yn broblem fawr yn y gorllewin a phroblem sy'n digwydd o dan ein trwynau hyd yn oed yma yng Nghymru. Yna beth am y miloedd o Gymry ifanc sydd wedi eu caethiwo yn economaidd rhag cael cyfle i brynu cartref yn eu cymunedau oherwydd milwrio annheg ac anfoesol y farchnad rydd yng Nghymru? Rhai yn cael eu gorfodi i ffoi i ganfod gwaith a chartref hyd yn oed. Disgrifiodd R. Tudur Jones y ffenomenon yma nôl yn y saithdegau fel dim byd llai na 'Sataneiddiwch' – wrth edrych ar anhegwch can gwaith gwaeth y farchnad dai heddiw o'i gymharu a'r saithdegau rwy'n siŵr y byddai'r hen Athro yn fud. Nid ymateb arwynebol a thocenistaidd y dylem ni Gristnogion yn ogystal â'n gwleidyddion roi i anghyfiawnderau o'r fath ond yn hytrach dylem ymateb mewn modd difrifol ag allasai olygu aberthu ein cyfforddusrwydd ni ein hunain. Mae beirniadaeth Amos ynghylch ddifaterwch pobl bwerus Samaria yr un mor berthnasol i ddifaterwch gwleidyddion Cymru heddiw.
Yn olaf mae Amos yn condemnio Israel am fod yn euog o grefydda arwynebol. Yn nyddiau Amos roedd llawer o'r Isreiliaid wedi troi cefn ar ffydd real yn Nuw er eu bod nhw'n parhau â'r defodau crefyddol a gysylltir â ffydd yn Nuw. A hithau'n dymor y Nadolig mae'r cymariaethau a Chymru fan yma yn amlwg. Er bod dan 10% bellach o Gymry yn addoli'n gyson mi fydd pawb yn morio canu geiriau fel 'ganwyd ef o ryfedd drefn, fel y genid ni drachefn,' dros dymor y Nadolig; ie llinell sy'n sôn am ddim byd llai na'r gair taboo hwnnw – troedigaeth! Wrth gwrs dydy morio canu carolau amser 'dolig neu fynychu'r gymanfa bob chwe mis yn twyllo neb ond chi eich hun. Nid gwir ffydd, fel y mae Amos yn pregethu, yw ffydd sy'n dibynnu ar ddefodau a thraddodiadau ond yn hytrach gwir ffydd yw ffydd sydd wedi ei seilio ar berthynas fyw a phlygu'n fodlon i ewyllys Duw.
Oherwydd y crychau yma ar gymeriad y cenhedloedd a restrir gan Amos, crychau sy'n amlygu ei hunain i raddau ar ein Cymru ni heddiw, fe bregetha Amos farn Duw ar y cenhedloedd am eu camwedd a'i hanufudd-dod. Ond fel pob cennad gwrth ei halen nid yw Amos yn ein gadael yn y gors oherwydd wedi cyhoeddi'r farn y mae'n dangos ffordd gwaredigaeth, mae'n dangos ffordd adferiad. Ni cheir gwaredigaeth drwy gyfrwng unrhyw arweinydd bydol neu wleidyddol ond yn yn hytrach gan y Meseia – Iesu Grist.
Agorodd ddrws i'r caethion
I ddod o'r cystudd mawr;
Â'i werthfawr waed fe dalodd
Eu dyled oll i lawr:
Nid oes dim damnedigaeth
I neb o'r duwiol had;
Y gwaredigion canant
Am rinwedd mawr ei waed.
“Yn y dydd hwnnw, codaf furddun dadfeiliedig Dafydd; trwsiaf ei fylchau a chodaf ei adfeilion.” Amos 9:11
Dwi wedi fy atgoffa wythnos yma am y gwahaniaeth sylfaenol sydd rhwng cenedlaetholwyr ac unoliaethwyr. Gan gofio fod y Blaid Lafur wedi methu a chael mandad clir gan yr etholwyr yn ôl ym mis Mai ac eu bod nhw wedi gorfod dibynnu ar Genedlaetholwyr i sefydlu Llywodraeth mi fyddech yn tybio y buasent yn dysgu rhai gwersi. Ond lai na chwe mis ar ôl yr etholiad mae'r hen Genedlaetholdeb Brydeinig yn dangos ei ben unwaith yn rhagor yn y Blaid Lafur Gymreig.I ddechrau yr oedd sylwad hynod Peter Hain a Rhodri Morgan wrth lansio eu taflen "Keep Wales British!" eu bod nhw'n synnu fod Pleidwyr dal am wthio am fwy o awtonomi nawr eu bod nhw wedi cael pwer yn eu meddiant. Maen annodd gwneud pen a chynffon o'r syniad yma. Maen rhaid eu bod nhw'n ymwybodol mae nid pwrpas Plaid wleidyddol yw ennill pwer ac yna rhedeg y status quo? Pwrpas Plaid wleidyddol yw ennill pwer er mwyn rhoi eu hegwyddorion newydd a gwahanol nhw ar waith. Er, gallaf ddeall, wedi bron i ganrif mewn pwer yng Nghymru fod y Blaid Lafur wedi anghofio beth yw pwrpas plaid wleidyddol ac mae'r polisi ers 1999 yw jest aros mewn pwer a chadw'r status quo ar bob cyfri fel a bortreadwyd mor effeithol yn narllediadau gwleidyddol Plaid Cymru fis Mai.
Mae ymchwil Richard Wyn Jones a Roger Scully yn dangos yn glir fod y Cymry yn "barod" am fwy o awtonomi ond dydy'r Blaid Lafur ddim - does ganddyn nhw ddim gweledigaeth i Gymru fel cenedl awtonomws boed o fewn Prydain ffederal neu Ewrop ffederal. Tan eu bod nhw'n canfod gweledigaeth i'r Gymru awtonomws eu polisi maen amlwg yw ceisio "dal gafael ar yr hyn sy'n dda o'r hen Brydain" - nid anhebyg i Dafydd Glyn Jones yn ei chael hi'n annodd ymdopi i'r ffaith fod Prifysgol Cymru fel sefydliad ffederal yn toddi i ffwrdd yn sydyn.Ac yna 'rhen Eluned Morgan ASE. Dyma'r gwleidydd mwyaf trahaus yng ngwleidyddiaeth Cymru (er bod Alun Davies AC yn cystadlu'n frwd ar hyn o bryd am y teitl); rwy'n falch mae draw ym Mrwsel mae hi rhan fwyaf o'r amser fel nad oes rhaid i ni wrnado ar ei rhethrheg hi'n amlach. Yr hyn sydd wedi ypsetio 'Luned fach tro yma yw fod y Blaid Lafur Gymreig wedi ymbellhau yn ormodol oddi wrth y Blaid Lafur yn Llundain. I raddau fe fedrai ddeall dadl Eluned, pan nad oedd yna'r fath beth a Llafur Gymreig (sef o'r dechrau tan tua 1997) roedd y Blaid Lafur yn mwynhau cefnogaeth mwyafrif o bobl Cymru'n ddi-gwestiwn. Ond ers i Lafur Cymru ymbellhau o'r blaid yn Llundain (1997 ymlaen) mae poblogrwydd Llafur yng Nghymru wedi syrthio. Felly hyd at rhyw bwynt gellid deall rhediad dadl 'Luned.
Ond mae hi'n methu a deall un pwynt sylfaenol am wleidyddiaeth Cymru ôl-ddatganoli sef fod y gefnodaeth i fesur cryfach o awtonomi ar gynnydd ac fod y syniad unoliaethol yn syrthio ymaith. Eironi mawr hyn yw fod y Ceidwadwyr (y gwir unoliaethwyr o argyhoeddiad) wedi derbyn ac addasu i'r reliti yma ers tro ond bod y Blaid Lafur, sef, yn ôl eu honiad nhw, "gwir blaid cymru", wedi methu'n llwyr hyd yma a derbyn ac addasu i'r Gymru newydd.
Unwaith yn rhagor mae Eluned yn dangos yn glir nad oes gan y Blaid Lafur weledigaeth go-iawn i'r Gymru newydd dyna pam mae'r unig gyfraniad sydd gan Eluned, Peter Hain a Rhodri Morgan hyd yn oed ei wneud i'r drafodaeth am Gymru newydd yw cofio am "y dyddiau da" a diolch am haelioni'r Sais trosom ni'r Cymru nad sy'n ddigon o ddynion i lywodraethu drosom ni ein hunain.
"Ond Rhys," fe glywai chi'n dweud, "mae dy blaid di mewn llywodraeth gyda Llafur!" Rwy'n gwybod er na ddeallaf yn llawn.
Postiwyd gan
Rhys Llwyd
am
8:50 am
0
Sylwad
Labeli: Clymblaid, Cymru, Eluned Morgan, Llafur, Peter Hain, Plaid Cymru, Rhodri Morgan
...parhad o'r postiad blaenorol
Peth peryglus iawn a rhywbeth na ddylid rhuthro i mewn iddo yw honni mai eich dehongliad chi o destun Beiblaidd sy'n gywir a'ch dealltwriaeth chi o efengyl Crist yw'r unig ddehongliad posibl. Afraid dweud mai rhybudd rhag gwneud hynny a geir yn adnod wyth; nodir dwy ffynhonnell bosibl y gall gau-efengyl ddeillio oddi wrtho. Mae'n bosib mai'r ffynhonnell beryclaf yw ni ein hunain - mae'n bosib i'r unigolyn arddel dehongliadau anysgrythurol. Fel gyrru car dros gyfnod hir o flynyddoedd mae'n ddigon hawdd magu arferion gwael - mae'r un peth yn wir am ein ffydd ni - mae'n ddigon hawdd ychwanegu rhai o'n syniadau bach ni ein hunain gan gymhlethu gair syml Duw. Mae'n bosib gwyro oddi wrth y gwirionedd yn anfwriadol wrth i draddodiad ac arfer beri i ni golli golwg o'r Beibl. O bryd i'w gilydd fe ddylai bob un ohonom werthuso'n dehongliadau ni o Air Duw - edrych yn feirniadol ar ein dehongliadau a bod yn barod i gydnabod ein camgymeriad. Wrth ystyried ac efallai gwrthwynebu dehongliadau gwahanol i'ch dehongliad chi o'r efengyl maen llesol i ni oll wneud hunan-asesiad o'n dehongliad ni.
Yr 'angel o'r nef' yw'r ail ffynhonnell bosib o gau-efengyl. Nid oes cytundeb ymhlith esbonwyr ynghylch ystyr y cymal hwn, ond derbynnir mai'r esboniad mwyaf tebygol yw y dylid trafod unrhyw ddehongliad a honnir sydd wedi dod 'o'r nef' yn ofalus. Gellid edrych ar ddechreuadau'r Mormoniaid fel cyfeiliornad a ddechreuwyd wedi i'w sylfaenydd Joseph Smith honni iddo dderbyn datguddiad gan angel o'r enw 'Moroni' a ddywedodd wrtho lle y cai ganfod platiau aur a oedd yn sylfaen maes o law i Lyfr y Mormon oedd i'w ystyried yn lyfr awdurdodol sanctaidd. Nid yw honiadau o broffwydoliaethau yn rhywbeth cwbl ddieithr i ni'r Cymry; ceir adroddiadau lu o unigolion ac arweinwyr mewn cyfnod o fendith yn derbyn proffwydoliaethau a gweledigaethau. Rhaid gwahaniaethu rhwng proffwydoliaeth neu weledigaeth sydd a'i neges yn sylfaenol Feiblaidd a neges sy'n gyfeiliornad o neges efengyl gras Crist. Profwch yr ysbrydion, meddai Ioan yn ei Epistol Cyntaf, ac mae'n gosod safonau pendant iawn i'w profi.
Geiriau difrifol a sobreiddiol iawn a geir ddiwedd adnod wyth ac yn adnod naw. Mae Paul yn rhybuddio am felltith ddaw ar bawb sy'n pregethu efengyl a honno'n groes i efengyl Crist. Mae'n ddiddorol bod Paul yn ail-adrodd hyn ddwy-waith a hynny er mwyn pwysleisio'i bwysigrwydd. Mor ysgafn a ffwrdd a hi yw ein hagwedd heddiw at gymalau fel hyn o'r Beibl; ystyrir hi'n dderbyniol fod yna sawl dehongliad gwahanol o efengyl Crist i'w gael - yn wir, peth amheuthun ydyw. Mae gwirionedd yn rhywbeth absoliwt ac ni allaf i yn fy nghalon na'm rheswm dderbyn fod modd credu mwy nac un efengyl.
Beth a wnawn ni o hyn felly? Pa wersi sydd i'r Eglwysi a Christnogion Cymru heddiw yn yr adnodau yma? Maen gwbl glir o'r adnodau hyn mai dim ond un Efengyl sy'n bod, ac ni allaf i lai na llwyr gredu trwy ffydd mai efengyl gras Crist ydyw. Fel y dywedodd yr emynydd 'Pa Dduw sy'n maddau fel tydi, yn rhad ein holl bechodau ni?' Ni welaf i fod yr un 'dealltwriaeth' neu 'ddehongliad' newydd yn rhagori ar y cyfamod a wnaed unwaith ac am byth i achub defaid difancoll Duw, 'nid ie a nage yw.' Fel Paul, rhaid i ni bregethu efengyl gras yn ei symlrwydd a'i rym di-hafal i Gymru unwaith yn rhagor a rhoi'r gorau i athronyddu mewnblyg a hunandosturiol.
Postiwyd gan
Rhys Llwyd
am
10:02 am
0
Sylwad
Labeli: Cristnogaeth, Cymru, Galatiaid
Bu llawer o sôn yn ddiweddar am 'ddiwygio' ein heglwysi ac am 'ail-feddwl' am rôl a phwrpas Cristnogaeth yn y Gymru gyfoes. Dymuniad rhai o weinidogion ac offeiriaid ein heglwysi yw llusgo ein Cristnogaeth o gysgod ein gwaddol Brotestannaidd-Galfinaidd, lle bu'r eglwys, yn eu tyb hwy'n gwywo ac yn ymdrybaeddu yn ei gorffennol amherthnasol. Yn Y Goleuad yn ddiweddar datganodd Aled Jones-Williams bod rhaid i ni ysgwyd yn rhydd o ddylanwad negyddol ceidwadaeth uniongred R. Tudur Jones a chrybwyllodd blot gan efengylwyr i 'heijacio' Eglwys Bresbyteraidd Cymru! Ensyniadau diddorol tu hwnt! Ai rheitiach fyddai i Aled Jones-Williams a Dan Brown, (y Da Vinci Code) greu campwaith llenyddol wedi'i sylfaenu ar y conspiracy theory hynod yma? Ac ni ddylid anwybyddu gyfraniadau ffwndementaliaid di-gred fel Iolo ap Gwyn i'r ddadl. Yn wyneb y fath fwydro sy'n gwneud dim ond cymhlethu meddyliau Cristnogion heb sôn am y rhai sy'n chwilio am y gwirionedd, pa beth gwell i'r Cristion ei wneud ond troi yn ôl at air Duw ac edrych ar y Beibl trosom ni ein hunain? Wedi'r cyfan, dyna sut y digwyddodd pob gwir-ddiwygio yn Hanes yr Eglwys - pobl yn edrych y tu hwnt i draddodiad a thuedd eu hoes a mynnu dychwelyd at ffynnon y dŵr bywiol, a darganfod o'r newydd, neges oesol-gyfoes efengyl Iesu Grist.
Yng nghyd destun y Diwygiad Protestannaidd mae i'r Epistol at y Galatiaid arwyddocâd arbennig. Yn ôl yr hanes, drwy fyfyrio ar neges yr Epistol hwn y gwelodd Martin Luther ragrith Gristnogaeth sefydledig Ewrop ei oes ac, fel y Galatiaid, sylweddoli bod angen i'r Eglwys droi yn ôl at bregethu gwir efengyl Crist - efengyl gras a hynny yn unig - yn hytrach nag efengyl â dôs go lew o weithredoedd a defodau ynddi hefyd. Felly yn y postiad hwn a'r nesaf hon carwn fwrw golwg dros rai adnodau o'r bennod gyntaf o Galatiaid. Rwyf am ganolbwyntio ar adnodau 6 i 9 sy'n dwyn y teitl 'Nid Oes Efengyl Arall' yn y Beibl Cymraeg Newydd.
Wrth gyfarch y Galatiaid yn yr adnodau agoriadol (1-5) mae Paul yn datgan fod y geiriau mae'n eu ynganu yn rhai sy'n dod '...trwy awdurdod Iesu Grist.' Mae'r llythyr felly yn haeddu ystyriaeth deg oherwydd geiriau ysbrydoledig ydynt. Daw'n amlwg yn y chweched adnod fod y Galatiaid wedi crwydro oddi wrth efengyl Crist. Y mae Paul yn mynd mor bell ac awgrymu fod y Galatiaid fel petaent yn bradychu Iesu eu gwaredwr; mae'n synnu fod y Galatiaid wedi cefnu '...ar yr hwn a'ch galwodd chwi trwy ras Crist'. Mae'n bosib fod yna elfen o geisio anfon y Galatiaid ar guilt trip fan yma - ceisio gwneud iddynt sylwi nad efengyl rhywun rhywun y maen nhw wedi gwyro oddi wrtho, ond yn hytrach efengyl eu gwaredwr.
Tybiaf fod adnod saith yn arwyddocaol ac yn hynod berthnasol i ni heddiw. Mae Paul yn cydnabod nad yw'r Galatiaid wedi troi eu cefnau ar Gristnogaeth yn llwyr nac ychwaith wedi troi'n anffyddwyr neu coleddu crefydd amgen. Yn hytrach, maen nhw wedi gwyrdroi ac addasu'r efengyl i fodloni a diwallu eu anghenion eu hunain. Oni allwn ni weld hyn yn digwydd yn y Gymru hon: nid ymwrthod yn unig a Christnogaeth a wneir ond hefyd ymwrthod â Gair Duw fel y dymunai Duw i ni ei dderbyn. Glyna ein pobl wrth 'Gristnogaeth' ond y mae eu dehongliad o Air Duw yn dra wahanol i ddealltwriaeth 'an-oleuedig' Daniel Rowlands a Thomas Charles o ewyllys Duw ar ein cyfer.
...parhad yn y postiad nesaf
Postiwyd gan
Rhys Llwyd
am
10:00 am
0
Sylwad
Labeli: Cristnogaeth, Cymru, Galatiaid
Mewn ymateb i fy mhostiad am garchariad Gwenno fe ofynodd ffrind i mi, Gethin Jones, sawl cwestiwn pryfoclyd am briodolrwydd gweithredu tor-cyfreithiol i Gristion. Dyma ymateb i'w gwestiynnau.
Mae'r cyfan yn dechrau gyda lle wyt ti'n rhoi terfyn ar Benarglwyddiaeth Crist. Yn ôl fy nehongliad i a'r traddodiad Calfinaidd does dim terfyn iddo.
Mae Gwladwriaethau ac Awdurdodau wedi eu neulltuo a'i penodi gan Dduw, ydyn. Ond dydy Duw heb roi siec wag iddyn nhw ac lle bod nhw yn fforeddu eu cyfrifoldeb o flaen Duw (a dwi'n cyfri cam-wahaniaethu ar sail hil ac iaith yn ffordd o ffordeddu cyfrifoldeb o flaen Duw) mae cyfrifoldeb gan Gristnogion lefau a gwrthwynebu yn erbyn yr awdurdodau - wrth gwrs fod yn wahaniaethau mynd i fodoli rhwng Cristnogion ar y tactegau gorau o wneud hyn.
Y brif ddadl sydd gan bobl yn erbyn torri Cyfraith Gwlad ydy Rhufeiniaid 13:1. Ystyr y gair Groeg yn yr adnod hon ydy 'ymostwng' nid 'ufuddhau'. Dyna pam mae'r polisi di-drais sydd gan Gymdethas yr Iaith mor bwysig - a hefyd yr egwyddor o dderbyn cyfrifoldeb am ein gweithredoedd / hanufudd-dod sifil. Rwyt yn cydnabod hawl y llywodraeth i dy gosbi am dy weithred, ac yn esbonio mai nid drwg-weithredu na hunan-les ydy dy fwriad, ond daioni a lles y gymdeithas a threfn ordeiniedig Duw. Rhaid bod yn onest ac yn agored ynglyn a'n gweithredoedd a'n cymhellion, a bod yn fodlon wynebu canlyniadau ein penderfyniadau.
Mae hyn wedi cael ei wneud gan Gristnogion ar hyd y canrifoedd - yn y ganrif ddiwetha gellir meddwl am Gristnogion wnaeth safiad yn erbyn 'hiliaeth' yn UDA, Hitler yn yr Almaen, 'apartheid' yn Ne Affrica etc. Cyfiawnder a lles cyffredinnol y gymdeithas a'r ddynoliaeth oedd y tu ol i'w safiad ar un lefel, ond yn ddyfnach na hynny yr ymwybyddiaeth fod Duw yn Dduw sydd yn erbyn pob anghyfiawnder.
Credaf fod y safbwynt yma o amau dilisrwydd gweithgaredd 'chwyldroadol' fel ffordd o ddyrchafu Crist a'i Deyrnas yn adlewyrchu dealltwriaeth o natur yr efengyl sy'n wahanol iawn i fy nehongliad i Bobi Jones, Dr Tudur Jones ac eraill. Mae'r traddodiad Calfinaidd yn pwysleisio y ffaith fod yr efengyl yn effeithio ar bob gwedd ar fywyd - y personol, y cymdeithasol, y gwleidyddol ... popeth! Mae Iesu ei hun yn dangos mai nid dim ond yr ochr "ysbrydol" / "grefyddol" i fywyd oedd yn bwysig
1. Rhaid i Gristion ymostwng i'r awdurdodau (Rhufeiniaid 13:1-5; 1 Pedr 2:13-14) Dyna pam mae'r egwyddor o dderbyn cyfrifoldeb am ein gweithredoedd mor bwysig. Ond noder mai 'ymostwng' ydy'r gair yn y Groeg, nid 'ufuddhau'. Dw i'n gallu anufuddhau mewn protest, ond derbyn cyfrifoldeb am fy ngweithred a thrwy hynny gydnabod hawl yr awdurdodau i'm cosbi i. (gw Pedr 2:19-22)
2. Dydy torcyfraith ac anufdd-dod sifil ddim yn rywbeth i ruthro iddo - rhaid defnyddio pob cyfrwng cyfansoddiadol posib i geisio sicrhau'r hyn sy'n iawn. Hefyd dw i'n credu y dylai pob anufudd-dod gael ei gadw o fewn ffiniau - h.y. yn weithred sumbolaidd sy'n tynnu sylw at anghyfiawnderau, a ble mae'r protestiwr yn derbyn cyfrifoldeb llawn am yr hyn mae'n ei wneud. Gweithred agored, ddi-drais.
3. Mae hanesion nifer o bobl yn yr Ysgrythur oedd yn anrhydeddu Duw trwy wrthod ufuddhau i'r awdurdodau:
a. Exodus 1:15-21 - roedd y bydwragedd Iddewig wedi cael gorchymyn gan Pharo i ladd pob plentyn gwryw (ond gw. adn17, 20 a 21)
b. Josua 2:1-6,15 - Rahab yn gwrthod trosglwyddo'r ysbiwyr i awdurdodau'r ddinas. Cuddiodd nhw, a'u helpu i ddianc (gw. Hebreaid 11:31)
c. Daniel 3:4-6, 12-30 - Shadrach, Mesach ac Abednego yn gwrthod addoli'r ddelw
ch. Daniel 6:6-22 - Daniel yn gwrthod ufuddhau i'r gorchymyn i beidio gweddio ar Dduw
d. Esther 5 - roedd hi'n anufudd i gyfraith y wlad pan aeth hi i mewn at y brenin(gw. Esther 4:9-11)
dd. Actau 4:15-20 a 5:27-29 - yr Apostolion yn gwrthod ufuddhau i orchymyn yr awdurdodau eu bod nhw i stopio pregethu'r efengyl
4. Mae'r cwestiwn yn codi yng ngolau'r Ysgrythyrau hyn "Pryd mae'n iawn i anufuddhau i'r awdurodau?" Yr ateb ydy pan mae gorchymynion a gweithredoedd yr awdurdodau yn groes i orchymynion ac ewyllys Duw (gw. Actau 5:29).
Mae 'iaith a diwylliant' yn ffitio i mewn i drefn Duw yn ol yr Ysgrythur. Mae lladd iaith a diwylliant, a phob gormes ac anghyfiawnder yn bechod. Ein lle ni ydy byw, a gweithredu, dros werthoedd y Deyrnas yn y presennol.
Dyna sut ydw i yn gweld hi - ydy mae'r safiad ar un ystyr yn un ymfflamychol ond wedi'r cyfan llawlryfr rhyddid ydy'r Beibl ac fe ddaeth Iesu a'i ddysgeidiaeth i ysgwyd y Byd pechadurus ym mhob ffordd - neges Iesu oedd yr un mwyaf chwyldroadol merioed oherwydd fe ddaeth i achub eneidiau ac hefyd i annog ei bobl i fod yn halen ac i daclo pechod y byd a'i ganlyniadau o ddifri. I mi, dydy gwlatgaredd ddiwylliannol ddim yn mynd i'r afael a'r broblem ddigon da.
Os oes baban mewn tŷ yn llosgi a bo'r drws yng nghlo rhaid torri'r drws i achub y baban - ffôl byddai aros i rywyn droi fynny gyda'r allwedd.
Postiwyd gan
Rhys Llwyd
am
7:12 am
2
Sylwad
Labeli: Bobi Jones, Calfinaidd, Cristnogaeth, Cymdeithas yr Iaith, Cymru, Gwenno Teifi, R. Tudur Jones
Dydy e ddim yn ffasiynol i sôn am y tywydd. Ond maen annodd peidio yr haf yma. Dwi'n synnu mod i hyd yn oed wedi galw'r cyfnod yma o'r flwyddyn yn haf. Roeddwn ni'n disgwyl ymlaen i gael mwynhau gwneud fy ngwaith ymchwil a darllen allan yn yr ardd - heb ddim byd arall yn mynd am sylw - jest fi a'r llyfr yn mwynhau yn yr haul. Breuddwyd gwrach oedd
gobeithio gael Mehefin a Gorffennaf tebyg. A beth am weddill yr haf? Wel dydy penwythnos yma yn gwella dim. Glaw fory, cymylau dydd Sadwrn a mwy o law dydd Sul a dydd Llun (gweler y mapiau).
Mae rhai wedi sôn fod yna 'heat wave' ar y ffordd erbyn dechrau Awst, wythnos yr Eisteddfod. Ddim yn ôl y dyn tywydd yn anffodus. Dyma'r mae'r BBC yn ei ddweud am ddiwedd Gorffennaf dechrau Awst:
Wellingtons bydd hi dwi'n amau!
Some sunshine in the south: The Azores High may at last begin to assert itself in our direction and some southern areas of the UK can expect the weather to be a little drier and warmer - northern areas will be the last to see any improvement, if at all.
Postiwyd gan
Rhys Llwyd
am
3:16 am
2
Sylwad
Labeli: Cymru, Eisteddfod, Tywydd
Tawel a fu ac a fydd y blog yn anffodus. Newydd ddychwelyd o'r de ar ôl treulio cyfnod yn ardal Caerfyrddin a 'steddfod yr Urdd - llawenydd mawr oedd clywed fod Menna wedi dod yn drydydd yn y Goron! Dwi ffwrdd i Fangor am rai rai diwrnodau fory felly yn ceisio troi rhai pethau rownd gan mod i ond adre am noson felly dim amser i flogio'n iawn dim ond nodi mod i'n falch fod Barry Morgan wedi siarad allan ar ran yr Eglwys yng Nghymru ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Yn draddodiadol yr anghydffurfwyr sydd wedi bod yn flaenllaw yn wleidyddol ond lle oedden nhw heddiw yn cefnogi Barry Morgan? Pryd y cawsom ni ddatganiadau herfeiddiol am wleidyddiaeth a moesau ein cenedl gan ein eglwysi anghydffurfiol? Dowch laen ben bandits yr enwadau anghydffurfiol, Geraint Tudur (Annibynwyr), Ifan Roberts (Hen Gorff) a Peter Thomas (Bedyddwyr) - peidiwch a gadael i'r Eglwyswyr yma ddwyn eich mantell radical chi.
Postiwyd gan
Rhys Llwyd
am
10:39 am
1 Sylwad
Labeli: Annibynwyr, Barry Morgan, Cenedlaetholdeb, Cristnogaeth, Cymru, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Geraint Tudur
Ers pythefnos ac am y dair wythnos nesaf dwi'n bwriadu neilltuo mwy o amser na'r arfer i Blaid Cymru. Rhag ofn fod rhai o'm tiwtoriaid ym Mangor yn darllen hwn ac yn arswydo gan wybod fy mod i fod i weithio ar draethawd ar y syniad o Wladwriaeth Ddwyfol yn y cyfnod Piwritanaidd – peidiwch a phoeni mae'r gwaith yn mynd rhagddo o hyd. Hefyd mewn amddiffyniad o roi peth amser i'r Blaid dros yr wythnosau nesaf rhagor na darllen llawn amser gwerth fyddai i mi nodi i R. Tudur Jones (testun fy ymchwil gyda llaw i chi nad sy'n gwybod) roi peth amser o'r neilltu i weithio yn ddiwyd dros y Blaid adeg etholiad.Rwy'n byw yn Aberystwyth, Ceredigion, sedd fydd yn faes brwydr galed a brwd rhwng y Blaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Yn draddodiadol sedd Ryddfrydol yw Ceredigion a'r Rhyddfrydwr mawr olaf i gynrychioli'r sedd yn San Steffan oedd Geraint Howells, gwr bonheddig ac os nad oedd yn Genedlaetholwr politicaidd roedd yn sicr yn Wladgarwr brwd ac fe gefnogodd ddatganoli yn 1997. Fodd bynnag profodd ganlyniad Ceredigion (a Gogledd Penfro bryd hynny) yn etholiad cyffredinol 1992 yn 'shock result' dros Gymru. Mae atgofion
gan fy rhieni o hen ffrindiau coleg yn ffonio wedi i'r blychau gau ar noson yr etholiad yn holi os oes sail i'r honiad “fod gobaith yng Ngheredigion” eu hateb oedd “na, dwi ddim yn meddwl yn anffodus.” Ond er mawr syndod a llawenydd i fy rhieni neidiodd y Blaid, gyda'i hymgeisydd Cynog Dafis, o'r pedwerydd safle i'r cyntaf gan guro y Bonheddwr poblogaidd Geraint Howells gyda mwyafrif sylweddol o dros 3,000. Wele y newid ym mhleidlais y Blaid yng Ngheredigion yn arwain fyny, ac yn cynnwys, 1992:
Collodd y Rhyddfrydwyr bob momentwm ac yn 1997 methiant trychinebus oedd eu hymgais i ail ennill y sedd – roedd hyn yn rhannol oherwydd y buzz ynghylch y Blaid Lafur yn 1997 – 'things can only get better' – perfformiodd Llafur yn well na'r arfer yng Ngeredigion yn 1997 a gellid casglu mae'r Rhyddfrydwyr fu ar eu colled ac nid y Blaid. Rhwng 1997 a 2003 mynd o nerth i nerth y gwnaeth Plaid Cymru gyda Cynog Dafis yn ennill pleidlais bersonol gref drwy gael ei weld fel deiliad mantell Geraint Howells. Wele y canlyniadau rhwng 1997 a 2003 (sydd yn cynnwys dwy etholiad Cynulliad Cenedlaethol yn 1999 a 2003 yn ogystal ac Is-Etholiad yn 2000, noder hefyd fod canlyniad y rhyddfrydwyr yn 1999 yn cynnwys eu nifer nhw+yr ymgeisydd annibynnol y credaf i oedd yn dwyn cefnogaeth Rhyddfrydwyr traddodiadol yn ogystal):
Ond wrth gwrs daeth Etholiad 2005 a tipyn o sioc i Bleidwyr Ceredigion. Roeddem ni wedi syrthio i'r trap o feddwl fod Ceredigion bellach yn sedd saff i'r Blaid. Yn amlwg toedd hi ddim ac fe gollodd Seimon Thomas y sedd yn ôl i'r Rhyddfrydwyr o 219 o bleidleisiau yn unig, wele y swing cafodd y Rhyddfrydwyr rhwng 2001 a 2005 yn y graff isod (yn dangos y swing mewn canran rhwng 2001 a 2005):
Yn hollol fecanyddol (fe ddof at beth ddigwyddith go iawn mewn munud) petae yr un swing a ddigwyddodd rhwng 2001 a 2005 i ddigwydd rhwng etholiad 2003 a 2007 dyma fyddai'r canlyniad yn seiliedig ar turn out ychydig yn uwch na 2003 sef 30,000 o etholwyr (ymgyrchu mwy gweledol a pynciau mawr lleol fel cau ysbytai yn debygol o ddod a mwy allan i bleidleisio yng Ngheredigion) a'r newid canrannau fel a ganlyn: Plaid -2.4, Rhyddfrydwyr +9.6, Llafur -3.3, Ceidwadwyr -7.1:
Fel y gwelwch chi os y digwydda swing 2005 yn 2007 yna fe fyddai'r Blaid yn dal ar y sedd a hynny gyda mwyafrif o 1,740. Ac a bod yn hollol deg re-run o 2005 fyddai y 'worst case senario' i'r Blaid yn 2007. Os ydy'r Blaid dal i ddal ar y sedd gyda'r 'worst case senario' yna mae pethau'n edrych yn reit addawol i'r Blaid.Ond dwi ddim yn meddwl y bydd 2007 yn re-run unfath o'r hyn ddigwyddodd yn 2005 am y rhesymau canlynol:
1. Plaid Cymru wedi dysgu gwers ac felly ag ymgyrch gref broffesiynol eleni
2. Plaid Cymru, yn ystadegol, yn gwneud yn well na'r pleidiau Prydeinig yn etholiadau Caerdydd a'r pleidiau Prydeinig yn draddodiadol yn gwneud yn well na'r Blaid yn etholiadau Llundain. Y fantais yn 2007 gyda'r Blaid felly.
3. O gymhathu ystadegau 2005 i un 2007 dim ond 780 o bleidleisiau bydda'i Ceidwadwyr yn cael – mae hyn yn amlwg yn gam-arweiniol oherwydd disgwylir i'r Ceidwadwyr wneud yn rhesymol gan eu bod nhw ag ymgeisydd cryf ac hefyd fod y Ceidwadwyr yn gyffredinol mewn cyfnod o fis-mel gyda Cameron fel arweinydd – y Rhyddfrydwyr yn fwy tebygol o golli pleidleisiau i'r Ceidwadwyr na Plaid.
4. Hefyd Elin Jones yn ymgeisydd cryfach a mwy addas i Geredigion nag yr oedd Seimon Thomas dros y Blaid.
Felly fel casgliad dwi'n meddwl gallaf ddweud yn reit addawol y bydd Elin Jones a Phlaid Cymru yn cadw'r sedd er y bydd hi'n reit agos ar y noson – mae'r ystadegau a ffactorau eraill yn dangos fod Elin yn debygol o ddal gafael er y caiff ei mwyafrif ei docio ryw ychydig.
Postiwyd gan
Rhys Llwyd
am
7:29 am
3
Sylwad
Labeli: Cenedlaetholdeb, Cymru, Cynog Dafis, Elin Jones, Etholiad, Plaid Cymru
Roeddwn yn y Llyfrgell Genedlaethol heddiw. Can mlynedd yn ôl i'r union ddiwrnod hwn agorodd y Gen am y tro cyntaf. Brynhawn yma roedd yna brosesiwn trwy'r llyfrgell gyda
phibydd yn y blaen yn cael ei ddilyn gan borthorion yn cario llyfrau hynaf a mwyaf gwerthfawr y llyfrgell. Er fod e'n ddigwyddiad braidd yn uchel-ael roedd hi'n braf mae Cymry oedd yna yn agor a chyfarch ac nad oedd yna arlliw Brydeinig yn agos i'r lle ac nid oedd Carlo na'r Frenhines yn rhan o'r dathliadau! Mae llawer wedi newid ers i'r Llyfrgell agor gan mlynedd yn ôl ac roedd presenoldeb y teulu Brenhinol yn yr agored gan mlynedd yn ôl a'r diffyg presenoldeb heddiw yn sefyll allan i mi – dangos sut bo Cymru wedi magu hunan hyder.
Byddai'n braf petai fy wyrion a'm hwyresau yn nathliad 200 mlynedd y llyfrgell yn 2107
Fe gofiwch chi ddarllenwyr rheolaidd y blog i mi gyfrifo cost codi traffordd rhwng Caerdydd a Bangor nol yn Nhachwedd, 2005. Y gost byddai £4.5bn ac wedi sylweddol hynny dechreuais dybio na fydde ni byth yn gweld y freuddwyd yn dod yn wir.
Ond heno ma darllenais stori fod Olympics Llundain 2012 mynd i gostio £9bn! Ie dros ddwbwl pris prosiec is-adeiledd wnaiff chwyldroi a bywiogi economi a chyfoeth pobl Cymru am byth. Dyma ddangos eto lle mae blaenoriaethau'r Wladwriaeth droedig Brydeinig yn syrthio. Gwyl hamdden tymor byr yn cael blaenoriaeth dros brosiect is-adeiledd tymor hir wnaiff gael effaith tymor hir ar ansawdd bywyd Cenedl gyfan.
Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i chi. Dyma'r postiad cyntaf ers tro aeth hi'n ras wyllt dros y bythefnos diwethaf rhwng gwahanol bartïon 'dolig a cheisio cael pen mwdl ar y gwaith academaidd am y tymor yn ogystal a rhywun arall sydd wedi cychwyn cymryd peth o fy amser, nid wyf yn cwyno, ond nid stori i'r blog mo hwnnw! Ta waeth, mae'n ddiwrnod paffio a dyma allu dweud gair am un anrheg gwerthfawr iawn y ces i ddoe gan Mam-gu – cofiant Lewis Valentine gan Arwel Vittle. Dim ond y dair pennod cyntaf dwi wedi darllen hyd yma fodd bynnag carwn sôn ychydig amdano. Ers i mi glywed fod Y Lolfa yn cyhoeddi cofiant i Valentine roeddwn ni wedi bod yn disgwyl yn eiddgar oblegid yn ogystal a bod yn ffigwr arwrol/chwedlonol i mi pan yn blentyn (fynny yna ynghyd a Gwynfor a Saunders), gellir tynnu cymariaethau amlwg rhwng Valentine a'r gwr arall hwnnw yn fy mywyd ar hyn o bryd (ac am y dair blynedd nesaf o leiaf) R. Tudur Jones. Roedd Valentine, fel Dr. Tudur, yn Gristion ac yn genedlaetholwr o argyhoeddiad ac wedi byw yn yr un ganrif – peth tir cyffredin, felly tybiais y byddai go-dipyn o wybodaeth ddiddorol, defnyddiol a pherthnasol i fy ymchwil i yn dod i'r golwg yng Nghofiant Valentine.
Ar ôl dim ond tair pennod yn unig mae'n falch gennyf nodi nad wyf wedi fy siomi oblegid rhwng tudalennau 32 a 35 ceir sôn am syniadau cenedlaetholgar Gristnogol Emrys ap Iwan a'i ddylanwad ar Valentine. Yn y man bydd rhaid i mi fynd ar ôl Emrys ap Iwan mewn peth manylder oherwydd i Dr. Tudur fod, fe ymddengys, yn dipyn o edmygwr ohono hefyd. Gadewch i mi sôn rywfaint am syniadau Emrys ap Iwan. Bu i ddarllenwyr cyson fy mlog gofio i Emrys ap Iwan gael sylw gennyf dro yn ôl, ac yn wahanol i'r tro hwn, mewn golau gwael yn dilyn clywed darlith gan Gwilym H Jones am ei bregethu. Yn dilyn postio yr adroddiad i'r ddarlith yna bu i sawl person gysylltu gyda mi gan haerio mod i, neu bod Gwilyn H Jones wedi rhoi i mi gam argraff o Emrys ap Iwan ac nad oedd mor Rhyddfrydol a ches i fy nghymell i feddwl ar ôl gwrando ar y ddarlith. Er nad wyf am ymhél a diwinyddiaeth gymhleth yn awr dyma union peth o'r cam wrth roi sylw a chanol rhai o syniadau positif, yn fy ngolwg i, oedd gan Emrys ap Iwan.
Daeth Emrys i amlygrwydd drwy fod yn wrthwynebydd llym i gynlluniau'r Methodistiaid Calfinaidd i sefydlu eglwysi Saesneg, o fewn y rhai Cymraeg presennol, i ddarparu ar gyfer y nifer cynyddol o fewnfudwyr di-Gymraeg oedd yn symud i Gymru ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fe aeth Emrys ben ben a dyn mawr yr enwad ar y pryd Lewis Edwards, nid oedd Edwards yn gweld gwerth i'r iaith Gymraeg. Dadl Edwards oedd fod enaid y Sais yn fwy gwerthfawr na'r iaith Gymraeg. Oherwydd i Emrys gythruddo gymaint o ben bandits ei enwad fe wrthodwyd ei ordeinio yng Nghymdeithasfa Llanidloes yn 1881. Roedd Emrys yn frwd dros hunanlywodraeth i Gymru ac yn ôl Vittle ef fathodd y term 'ymreolaeth' am y tro cyntaf. Roedd i'w genedlaetholdeb rin caletach na rhin sentimentalaidd Cymru Fydd ac roedd yn wrth-imperialydd pybyr.
Mae'n debyg i un ysgrif gan Emrys gael effaith a dylanwad pellgyrhaeddol ar Valentine, wedi i Valentine ei ddarllen dywedodd na fu ef “byth yr un fath”. Brawddeg dyngedfennol yr ysgrif hon oedd; “Trwy drais y collasom ein rhyddid, a thrwy drais y mae'n rhaid inni ennill ein rhyddid drachefn. Pawb i'w pebyll, O Gymry!” Yn ddiddorol, yn yn wahanol i'r disgwyl efallai, roedd i genedlaetholdeb Emrys rin ryngwladol. Pwysleisiau le Cymru a'r Gymraeg ar y llwyfan rhyngwladol, tu hwnt i Brydain. Cafodd ei ddylanwadu a'i ysbrydoli wrth edrych tua'r Eidal, Hwngari a Ffrainc. Dawn yn awr at ran bwysig o genedlaetholdeb Emrys sy'n berthnasol i Dr. Tudur. Nododd Vittle am Emrys ei fod '...am i'r Cymry ddangos eu haeddfedrwydd fel pobl a mynnu eu lle ymysg cenhedloedd y byd.' Mae'r frawddeg yna yn atgoffa dyn o frawddeg olaf The Desire of Nations gan Dr. Tudur sy'n dweud; '[healthy nantionalism]...asks nothing for itself that it does not wish for others...' Yn ddiddorol hefyd mae Vittle yn nodi fod Emrys yn dal fod rhaid '...sicrhau rhyddid i'r genedl yn gyntaf cyn mynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol ac economaidd.' Mae'r syniadaeth yna yn adlais unwaith yn rhagor o'r pwyslais a gaed gan Dr. Tudur na ddylai Plaid Cymru roi i rethreg yr oes a dechrau labeli ei huna a 'sosialaeth' ayyb... Rhywbeth i'w sortio allan WEDI i Gymru ennill digon o hunanreolaeth oedd hynny a diau fod gwersi gan Emrys i ni aelodau Plaid Cymru (yn ogystal ac aelodau Cymreig y Ceidwadwyr megis Rhodri Ffransis) heddiw yn hynny o beth.
Roedd gan Emrys gyfiawnhad diwinyddol dros y frwydr genedlaethol yn seiliedig ar bregeth Paul yn Actau 17 lle mae'n nodi fod Duw wedi llunio pob cenedl i ddynion “i breswylio ar holl wyneb y ddaear, gan bennu cyfnodau ordeiniedig a therfynau eu preswylfod.” Cred Emrys mae rhan o Ragluniaeth Duw oedd bodolaeth cenedl y Cymry, a dyletswydd pob Cristion o Gymro oedd gwarchod y genedl honno a'i hiaith. Mae'r syniadau yma gan Emrys ap Iwan i'w cael yn ei Homilïau – dywedodd Valentine y dylai bawb ail-ddarllen yr Homilïau unwaith y flwyddyn er mwyn adfywhau!
Dwi'n gobeithio (os gai amser) i lunio i'w gyhoeddi yn Barn i gywiro cam-argraff (yn fy nhyb i) a roddwyd gan Vaughan Hughes (yn ei adolygiad o Gofiant Valentine) parthed y syniad o ddwyfoldeb cenedlaetholdeb Valentine. Yn y bôn dwi mynd i obeithio tynnu'r linell rhwng y cysyniad o genedlaetholdeb sydd yn ddwyfol a'r gwneuthuriad dynol sy'n cynrychioli cenedlaetholdeb, Plaid Cymru, sy ddim yn ddwyfol. Roedd Hughes yn gresynu na feirniadodd Vittle Valentine am y syniad yma fod 'Duw o'm hochr...' yn enwedig yn y byd post-9/11. Fy ngobaith yn y llythyr bydd gwneud y gwahaniaeth yn gwbl glir rhwng dwyfoldeb cenedlaetholdeb Valentine (a Dr. Tudur o ran hynny) a math monocentric o Dduw o'n plaid sy'n cael ei amlygu heddiw.
Os ydych chi wedi darllen mor bell a hyn yna argymhellaf i chi ddarllen y cofiant drosto chi eich hun!
Postiwyd gan
Rhys Llwyd
am
11:37 am
3
Sylwad
Labeli: Cristnogaeth, Cymru, Plaid Cymru, Valentine
Heddiw yma fe fynychais angladd Y Parchedig J.D. Williams yng Nghapel Bethany, Rhydaman. Ef oedd olynydd yr enwocaf o Weinidogion y Capel y Parch. Nantlais Williams; ac fe olydwyd J.D. wedi hynny gan fy Nhad-cu, Y Parch. Gareth H. Davies. Claddwyd J.D. nesaf at fy Nhad-cu – heno yma mae olion yr olyniaeth a ddefnyddiodd Duw i bregethu ei air yn Nhref Rhydaman gydol yr Ugeinfed Ganrif yn res urddasol ar Heol y Gwynt – Nantlais Williams 1874-1959 (Bethany 1901-1944) J.D Williams 1915-2006 (Bethany 1944-1981) a Gareth H. Davies 1927-2005 (Bethany 1981-1994) – y gair allweddol yw 'olion' wrth gwrs oblegid, i ddyfynnu un o'r emynau y phrynhawn yma “...bydd canu yn y nefoedd pan ddel y plant ynghyd.” Mae'r trio ohonyn nhw yn fyw ac yn iach yn y baradwys dragwyddol bellach.
J.D. Williams
Fe'i ganwyd ym Mhen-uwch, Ceredigion. Aeth ymlaen i ysgol y sir yn Nhregaron ac yna i Aberystwyth lle graddiodd yn y Gymraeg yn gyntaf ac yna a gradd BD (Diwinyddiaeth). Ei ofalaeth gyntaf oedd Eglwys Bethel, Llangyfelach – roedd felly yn weinidog yng nghylch Abertawe yn ystod blynyddoedd blin y Rhyfel. Yn 1944 daeth galwad wedi ymddeoliad Nantlais iddo symud i Bethany, Rhydaman. Cyrhaeddodd Eglwys fawr ac iddi 500 o aelodau yn ei eiriau ef; “...roedd Nantlais Williams wedi gosod yr eglwys ar sylfeini cadarn, ymhob ystyr.” Cyrhaeddodd Bethany yn llawn brwdfrydedd, fodd bynnag profodd ei ddwy flynedd gyntaf yna yn anodd iawn – doedd rhywbeth ddim yn cydio.
Dywedodd J.D. Am y cyfnod anesmwyth yma;
...bu'r ddwy flynedd gyntaf yn rhai digon anodd. Synhwyrais yn fuan fod rhywbeth yn eisiau yn fy ngweinidogaeth. Roedd nifer dda o'r aelodau wedi bod drwy Ddiwygiad 1904-05, a phrofiadau mawr y cyfnod hwnnw yn dal i liwio eu bywyd eglwysig o hyd. Ond roedd hyn oll yn ddieithr i mi! Sut y gallwn i gynorthwyo a helpu'r rhain i gynyddu ar unrhyw lefel ysbrydol?
...Ar derfyn y ddwy flynedd anniddig, trefnwyd Ymgyrch Efengylu yn yr eglwys... Bendithiwyd yr eglwys yn fawr; cafodd nifer o'r aelodau, gan gynnwys pobl ifanc, dröedigaeth – a minnau, eu gweinidog, yn eu plith.
Trugarog a graslawn yw'r Arglwydd,
Hwyrfrydig i lid o roi lle;
Nid byth y mae'n cadw digofaint,
Nid byth yr ymryson efe;
Fel tad wrth ei blant y tosturia,
Mae'n cofio mae llwch ydynt hwy;
O f'enaid, bendithia yr Arglwydd
Bendithia yr Arglwydd byth mwy.
Postiwyd gan
Rhys Llwyd
am
11:51 am
0
Sylwad
Labeli: Bethany, Calfinaidd, Cristnogaeth, Cymru, Efengylaidd, Gareth H Davies, J.D Williams, Methodist, Nantlais Williams, Rhydaman, Troedigaeth